Agenda item

Adolygiad Treigl o God Ymddygiad y Cynghorwyr

Pwrpas:        Cymeradwyo’r newidiadau a argymhellwyd gan y Pwyllgor Safonau i’r Cod Ymddygiad i Gynghorwyr fel rhan o adolygiad parhaus o’r Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad gan egluro bod y Pwyllgor Safonau wedi cynnal adolygiad treigl o’r codau a’r protocolau yn y cyfansoddiad.Fel rhan o’i adolygiad diweddaraf, ystyriodd newidiadau i God Ymddygiad Cynghorwyr mewn ymateb i’r argymhellion yn Adolygiad Penn.   

 

Roedd yn argymell y newidiadau a ganlyn i’r Cyngor Llawn eu cymeradwyo:

 

iv) Dylid ymestyn paragraff 4a y Cod (i roi sylw dyledus i gydraddoldeb cyfleoedd i bawb) i gynnwys pob un o’r naw nodwedd warchodedig dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

 

vi) Dylid addasu 6(1)(b) y Cod Ymddygiad i osod rhwymedigaeth ar Aelod i adrodd ar ei ymddygiad troseddol ei hun yn ogystal ag eraill (fel ydyw ar hyn o bryd).

 

vii) Dylai hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad fod yn orfodol i bob Aelod.

Ystyriodd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd y newidiadau yn ei gyfarfod ar 15 March 2023 a chytunwyd eu hargymell i’w mabwysiadu. 

 

            Roedd drafft wedi’i ddiweddaru wedi ei ddosbarthu i Aelodau, oedd yn ymdrin ag unrhyw bryderon a godwyd, yn enwedig o ran troseddau newydd ers i dymor newydd y Cyngor ddechrau.           

 

            Ar dudalen 668, gofynnodd y Cynghorydd Peers os oedd gofyn i’r Cyngor gymeradwyo rhywbeth nad oedd wedi’i brofi mewn tribiwnlys. Eglurodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru, wrth newid y Cod, wedi cyhoeddi cynnig i addasu model cenedlaethol y Cod oedd yn rhan o’r ymgynghoriad ac a fyddai’n cael ei ddileu maes o law. Os byddai’n cael ei dderbyn, byddai’n rhaid ei gyflwyno i’r Senedd i basio’r ddeddfwriaeth. Pe byddai tribiwnlys yn cynghori na ddylai Sir y Fflint gynnwys yr agweddau hynny yn y Cod, yna byddai Sir y Fflint yn ei ddileu. Fodd bynnag, roedd deddfwriaeth yn caniatáu i’r Cyngor wneud y newidiadau i’w Cod eu hunain.   Wrth ymateb i gwestiwn arall, dywedodd y Prif Swyddog ei bod yn awgrym da i ddileu’r cyfeiriad at ffacsimili.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Richard Jones, yn hytrach na rhestru’r tair nodwedd warchodedig ar dudalen 668, y dylai’r geiriau fod yn ‘nodweddion gwarchodol’, fyddai’n diogelu’r ddogfen i’r dyfodol.  Eglurodd y Prif Swyddog, gan nad oedd argymhelliad yr adroddiad wedi’i gynnig, dyma oedd y prif gynnig.

 

            Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog, pan oedd rhywun yn sefyll mewn etholiad, byddent yn cael eu diarddel pe byddent wedi cael dedfryd o dri mis neu fwy mewn carchar. Fodd bynnag, byddai pwynt yn cyrraedd pan fyddai’r troseddau blaenorol wedi ‘darfod’. Roedd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd wedi gofyn am adroddiad ar y diweddariad i wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, fyddai’n dod gerbron y cyfarfod ym mis Mehefin.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Ibbotson ddiwygiad y dylai’r tair nodwedd warchodedig barhau i sicrhau nad oedd unrhyw atchweliad yn y nodweddion.   

 

            Ar y pwynt hwn, roedd y drafodaeth ar y diwygiad.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog  fod y naill gynnig a’r llall yn gyfreithiol, ac mai’r Aelodau ddylai benderfynu.

 

            Siaradodd y Cynghorydd Coggins Cogan o blaid cadw’r rhestr o nodweddion unigol gan y gellid eu diwygio neu ychwanegu atynt, oedd yn fwy diogel yn ei farn ef.

 

            O'i roi i’r bleidlais, derbyniwyd yr addasiad a gynigiwyd gan y Cynghorydd Ibbotson. Yna, daeth yr argymhelliad yn brif gynnig, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Attridge ac eiliodd y Cynghorydd Hodge. Ni chynigiwyd unrhyw ddiwygiadau eraill, felly cafodd y bleidlais ar y diwygiad ei derbyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r diwygiadau arfaethedig i God Ymddygiad y Cynghorwyr, yn cynnwys y newid a gynigiwyd gan y Cynghorydd Peers.

Dogfennau ategol: