Agenda item

Cynllun Rheoli Adnoddau Dwr drafft Dwr Cymru 2024 – Lansio’r Cyhoeddus Ymgynghoriad

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Aelodau am yr ymgynghoriad sy’n cael ei gynnal gyda budd-ddeiliaid, amlygu’r materion a godir gan y cynllun ac ystyried sut dylai’r Cyngor ymateb.

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad hwn, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod hwn yn ymgynghoriad byw a bod rôl D?r Cymru yn hanfodol, yn arbennig mewn perthynas â’r CDLl a rheoli ffosffadau.

 

            Siaradodd Rheolwr y Gwasanaeth (Strategaeth) yn gyntaf am yr eitem flaenorol, sef bioamrywiaeth, gan ddweud bod y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn cynnwys nifer o bolisïau a fyddai’n helpu gyda’r problemau hynny i ddiogelu coed, coetiroedd neu wrychoedd.   Roedd yna hefyd fesurau amddiffyn mannau gwyrdd a mannau trefol ynghyd â pholisïau newydd ar enillion net bioamrywiaeth.

 

            Wrth symud ymlaen at yr adroddiad, dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth (Strategaeth) fod yr ymgynghoriad hwn gan D?r Cymru wedi cael ei anfon at fudd-ddeiliaid allweddol ac yn ymwneud â diweddariad o’u Cynllun Rheoli Adnoddau D?r, a oedd yn ddogfen strategol yr oedd rhaid ei diweddaru bob 5 mlynedd.  Y rheswm am hyn oedd sicrhau diogelwch hirdymor y cyflenwad d?r ar gyfer defnydd busnesau a chartrefi.  Roedd D?r Cymru wedi tynnu sylw at y sychder a welwyd y llynedd ac wedi cyflwyno cadernid rhag sychder o fewn y cynllun hwn.   Cyfeiriwyd yr Aelodau at y map a oedd yn dangos y 23 parth cynllunio yn yr adroddiad, ac ym mhwynt 1.03, yn cynnwys yr amcanion a’r ysgogwyr allweddol o ran sut y byddai’r mesurau hyn yn cefnogi’r ardaloedd hynny â phrinder.  Rhoddwyd trosolwg o’r cyflenwad d?r gan D?r Cymru ym mhwynt 1.04 yr adroddiad i sicrhau bod D?r Cymru, pan fo digwyddiadau difrifol yn codi, yn gallu darparu cymaint o gyflenwad ag y bo modd.  Eglurodd Rheolwr y Gwasanaeth (Strategaeth) bod Sir y Fflint ym mharth Alwen Dyfrdwy, ac yna rhoddodd wybodaeth am sut y gwneir y cyfrifiadau.  Roedd pedair ardal wedi’u nodi fel ardaloedd a fydd yn wynebu prinder, gyda thair yn Ne Cymru ac un yn y Gogledd.   Amlinellodd sut y gallai rheoli'r galw effeithio ar y sir a’r mesurau a sefydlwyd i leihau defnydd dyddiol.  Roedd mwy o ddefnydd o fesuryddion d?r hefyd yn cael eu hyrwyddo. 

 

            Cyfeiriodd at bwynt 1.10 yr adroddiad a’r pwyntiau bwled a restrir, gan egluro pam fod angen eglurhad pellach a chadarnhad o’r canlynol:-  

 

  • Bod y twf yn CDLl Sir y Fflint wedi cael ei ystyried yn y cynllunio hwn. 
  • Bod y Cyngor yn cefnogi’n llwyr y mesurau cadernid ehangach i helpu gwella gollyngiadau.
  • Ei fod o blaid codi ymwybyddiaeth ymysg cwsmeriaid o sut i ddefnyddio d?r yn effeithlon. 

·         Y gallai lleihau’r d?r gwastraff sy’n mynd i weithiau trin o bob eiddo domestig a masnachol helpu rhyddhau llai o ffosffadau i afonydd.

·         Bod y Cyngor yn annog gwell cysylltiad rhwng cynllunio adnoddau gwastraff a chynllunio d?r gwastraff, er mwyn gallu dod â gwelliannau ymlaen.

·         Ei fod yn ceisio ymrwymiad am gyswllt a chydweithredu mwy rheolaidd gyda D?r Cymru fel partner allweddol, naill ai ar lefel strategol neu leol.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Mike Peers, ymatebodd Rheolwr y Gwasanaeth (Strategaeth) yn gyntaf i’r pwynt am leihau gollyngiadau, gan ddweud efallai y byddai cyhoeddi rhaglen bendant yn helpu.  Roedd gan D?r Cymru seilwaith sy’n heneiddio y maen nhw’n gweithio drwyddi, ond roedd yn fwy o broses ymatebol gan ei fod yn ymarfer costus.  Gellid ystyried cydweithio â darparwyr statudol eraill wrth wneud gwaith ar ffyrdd er mwyn achub ar gyfleoedd i rannu gwaith.

 

            Mewn ymateb i’r cwestiwn am dd?r ffo a d?r wyneb, eglurodd Rheolwr y Gwasanaeth (Strategaeth) bod rhaid i ddatblygwyr ystyried ffyrdd mwy cynaliadwy o fynd i’r afael â llif d?r wyneb.  Roedd datblygwyr yn dal i fod yn cael trafferth gyda SUDS, ac roedd hyn yn rhywbeth a oedd yn gorfod digwydd.

 

            Gofynnod y Cynghorydd Ian Hodge a oedd gofyn i bob datblygiad newydd fynd ar fesurydd d?r yn awtomatig.  Mewn ymateb, nid oedd Rheolwr y Gwasanaeth (Strategaeth) yn gwybod a oedd hyn yn un o’r gofynion cynllunio ai peidio, ond roedd yn un o ofynion y cyrff d?r.  O fewn y wybodaeth a gafwyd gan D?r Cymru, roedd yn ymddangos nad oedd yn ofyniad, a allai fod yn rhan o’r broblem, a dylid annog mwy o bobl i gael mesuryddion a thawelu ofnau teuluoedd mawr nad ydyn nhw eisiau mesuryddion.

 

            Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd at ddatblygiadau’r CDLl yn y dyfodol, gyda mwy o eiddo’n cael eu hadeiladu, gan ofyn a oedd D?r Cymru wedi ystyried hyn.  Roedd uwchraddio’r gweithiau trin carthffosiaeth a fyddai’n cael eu heffeithio gan y problemau ffosffadau, a ffyrdd o fynd i’r afael â ffosffadau wedi cael eu cynnwys yn y CDLl.

 

            Mewn ymateb, adroddodd Rheolwr y Gwasanaeth (Strategaeth) bod D?r Cymru wedi bod yn fudd-ddeiliad allweddol a oedd yn cael ei gynnwys drwy gydol y CDLl, a’u bod yn ymwybodol o’r twf, nifer y tai ac yn deall y byddai gofynion SUDS yn cael eu cynnwys fel rhan o reoli d?r wyneb.  Sicrhau gwell systemau cyfathrebu gyda D?r Cymru oedd y ffordd orau o sicrhau eu bod yn deall yr hyn yr oedd gofyn i’r cyngor ei wneud, a beth oedd eu gofynion nhw hefyd.  Ni allai’r gwaith o uwchraddio’r gweithiau trin ddigwydd yn ddigon cyflym gan mai dyma’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r problemau ffosffadau.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn am Dwnnel Milwr gan yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi, cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaeth (Strategaeth) y byddai’n mynd â hyn yn ôl fel mater ar wahân, ac yn ysgrifennu at D?r Cymru i ofyn cwestiynau penodol am y defnydd o Dwnnel Milwr i dynnu d?r ac ar gyfer ynni d?r.

 

            Awgrymodd y Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi y dylid anfon gwahoddiad i un o gynrychiolwyr D?r Cymru ddod i un o gyfarfodydd y pwyllgor.  Cytunodd aelodau’r pwyllgor i hyn.

 

            Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth (Strategaeth) ei fod yn fodlon drafftio’r llythyr mewn perthynas â Thwnnel Milwr, yn dibynnu ar y dyddiad yr oedd y cynrychiolwr ar gael i ddod i gyfarfod, ac y gallai sylwadau’r ymgynghoriad fynd yn unol â’r argymhellion.

 

Cafodd argymhellion yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr  Ian Hodge a Mared Eastwood.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Y byddai’r Aelodau’n nodi cynnwys yr adroddiad hwn a phrif ganlyniad Cynllun Rheoli Adnoddau D?r drafft 2024, sy’n dangos nad oes yna broblemau cadernid cyflenwad ar gyfer parth Alwen Dyfrdwy, y mae Sir y Fflint yn rhan ohono.

(b)      Y byddai’r Aelodau’n cefnogi cynnwys paragraff 1.10 yr adroddiad hwn ac yn rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi baratoi ymateb terfynol a chytuno ar hwn gyda Chadeirydd y pwyllgor hwn, cyn ymateb i’r ymgynghoriad erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ategol: