Agenda item
Cynnig - Ôl Troed Carbon Gweithio Gartref
Derbyn cynnig yngl?n â Ôl Troed Carbon Gweithio Gartref
Cofnodion:
Cynigiwyd y cynnig gan y Cadeirydd ac eiliwyd gan y Cynghorydd Brockley.
Teimlai'r Cynghorydd Eastwood fod yna sawl datganiad am yr hyn yr oedd Cyngor Sir y Fflint yn ei wneud a'r hyn nad ydoedd, ond nad oedd adroddiad gan swyddogion i'w gefnogi. Teimlai y gofynnwyd i'r Pwyllgor wneud argymhelliad ar ddatganiadau di-sail heb unrhyw wybodaeth am y goblygiadau o ran adnoddau neu gostau, ac felly ni allai gefnogi'r cynnig gan na allai fod yn hyderus bod yr holl wybodaeth ofynnol wedi'i chasglu.
Teimlai'r Cynghorydd Copple fod gan y Pwyllgor lwyth gwaith mawr ac nid oedd yn si?r pa mor bwysig oedd yr agwedd hon. Teimlai fod gan weithio gartref fanteision o ran lleihau allyriadau carbon ond gofynnodd a oedd pethau pwysicach y dylai'r Pwyllgor ganolbwyntio arnynt.
Cytunodd y Cynghorydd Marshall â'r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Eastwood.
Dywedodd y Cynghorydd Rose ei fod wedi ymchwilio i sut, fel un oedd yn gweithio gartref ei hun, roedd hyn wedi effeithio ar ei ôl troed carbon ei hun. Ni allai ddod o hyd i unrhyw fudd i unigolyn yn gweithio o gartref o ystyried y costau gwresogi uwch ar gyfer eiddo person sengl yn erbyn eiddo sawl person. Yr unig fantais fyddai pe bai person arall hefyd yn gweithio gartref. Eglurodd mai'r hyn oedd yn cael ei awgrymu oedd cael gwybodaeth fwy cywir am y polisïau gweithio gartref ac ysgrifennu at Lywodraeth Cymru (LlC). Roedd yn hapus i gefnogi'r ceisiadau hynny gan fod angen eglurhad ac roedd yn rhywbeth y gallai'r Pwyllgor hwn awgrymu y dylid gweithredu arno i sicrhau bod y ffigurau cywir o ran olion traed carbon yn cael eu hadrodd.
Gwnaeth y Prif Swyddog sylwadau ar argymhelliad 3 a dywedodd nad oedd y swyddfa fodern yn Nh? Dewi Sant yn Ewlo wedi'i chynllunio i'r holl weithlu ddychwelyd. Nid oedd digon o le ond gallai gymryd 70% o'r gweithlu. Eglurodd fod y Polisi Gweithio Hybrid yn gofyn i reolwyr gael cydbwysedd rhwng angen busnes ac anghenion y person sy'n gweithio o gartref. Derbyniodd fod ôl troed carbon gweithio gartref a gweithio hybrid yn bwysig ond roedd yn fwy cymhleth i'w reoli ac nid yr ôl troed carbon oedd yr unig elfen. Awgrymodd y dylai'r Pwyllgor ystyried y Polisi Gweithio Hybrid diweddaraf a chytunodd i rannu hwn gyda'r Aelodau.
Roedd gan y Cynghorydd Mansell bryderon bod swyddfeydd yn cael eu gwresogi gyda dim ond ychydig o bobl ynddynt.
Eglurodd y Cynghorydd Eastwood ei phryderon ynghylch y cynnig ond ychwanegodd ei bod yn hapus i gefnogi'r eitem oedd yn cael ei rhoi ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
Eglurodd y Cynghorydd Rose nad oedd y cynnig yn awgrymu newid i'r Polisi Gweithio Hybrid ond ei fod i sicrhau bod y data yn gywir o fewn y Polisi. Dywedodd pe bai arolwg yn cael ei gynnal gyda staff i gasglu'r wybodaeth ofynnol, yna byddai hynny'n ddigonol at y diben hwn.
Cyfeiriodd y Rheolwr Rhaglen at yr argymhellion gan ddweud nad oedd yr effaith ar allyriadau carbon wrth deithio i'r gwaith ac yn ôl a gweithio o gartref wedi'u manylu ar hyn o bryd yn y Polisi Gweithio Hybrid. Roedd cydbwysedd o’r effeithiau hynny’n bwysig i gynnal ymddygiad lleihau carbon. Yna cyfeiriodd at argymhelliad 2, sef comisiynu arolwg teithio sef y dull a argymhellwyd gan LlC wrth bennu data cymudo gweithwyr cywir. Byddai mabwysiadu adolygiad o dystiolaeth gymaradwy o fannau eraill yn dargyfeirio'r cyngor oddi wrth fethodoleg ragnodedig LlC ac awgrymodd ddiweddaru'r argymhelliad i adlewyrchu hynny.
Ar argymhelliad 4 dywedodd y Rheolwr Rhaglen fod y canllawiau a'r fethodoleg wedi'u diweddaru ar gyfer cyfrifo allyriadau gweithio gartref yn adlewyrchu amrywiadau tymhorol, a mater i'r Cyngor oedd dangos bod camau wedi'u cymryd i ddylanwadu ar y gostyngiad mewn allyriadau. Dylai'r Cyngor benderfynu a yw am ymestyn y llinell sylfaen ar gyfer allyriadau o fewn cwmpas o ddata 2018/19 nad oedd yn cynnwys gweithio gartref. Argymhellodd y dylid ystyried cynnwys y data hwnnw yn y sgôp unwaith y byddai'r Cyngor wedi cynnal yr arolwg a gomisiynwyd.
Yna aeth y Cadeirydd fel cynigydd y cynnig hwn ymlaen i grynhoi. Cyfeiriodd at bob un o'r argymhellion.
Gan gyfeirio at argymhelliad 1, dywedodd y Cadeirydd fod hwn yn gofyn i'r Cabinet adolygu'r Polisi Gweithio Gartref ac nid oedd yn gwneud unrhyw sylw ar yr hyn y dylai'r polisi hwnnw ei gynnwys. Roedd hwn yn bolisi eang gyda nifer o ffactorau eraill i'w hystyried. Yr hyn yr oedd yn ofynnol i’r Pwyllgor ei wneud oedd sicrhau bod newid yn yr hinsawdd a lleihau allyriadau carbon yn cael eu hystyried ym mhob agwedd ar waith y Cyngor a bod y Cabinet yn ystyried hyn fel blaenoriaeth wrth ysgrifennu polisïau i sicrhau ei fod yn ystyried y ffordd orau o leihau carbon. Pan gasglwyd gwybodaeth gan bob pwyllgor a phartïon â diddordeb megis undebau llafur, dylid ymgorffori'r wybodaeth honno wrth ddatblygu polisïau.
Ar yr ail argymhelliad ac yn dilyn sylwadau a wnaed gan y Rheolwr Rhaglen roedd y Cadeirydd yn hapus i ddileu’r llinell “neu adolygiad o dystiolaeth gymaradwy o fannau eraill yn y DU os oes astudiaethau tebyg eisoes ar gael”. Derbyniodd gadarnhad gan yr eilydd y Cynghorydd Brockley ei bod yn cytuno. Cariwyd y cynnig.
Penderfynodd Pwyllgor Newid Hinsawdd Cyngor Sir y Fflint:
1. Argymell bod y Cabinet yn adolygu'r Polisi Gweithio Gartref, gan sefydlu fframwaith cydlynol sy'n seiliedig ar yr hinsawdd ar gyfer y cyngor.
2. Argymell i’r Cabinet y dylid comisiynu astudiaeth o gyfanswm yr allyriadau net o weithio gartref, ar ffurf arolwg o staff Sir y Fflint yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
3. Argymell y dylai’r cyngor, fel mesur interim tra’n aros i adolygiad o’r dystiolaeth hinsawdd gael ei gwblhau, ganiatáu i unrhyw un sy’n dymuno gweithio o’r swyddfa yn y gaeaf wneud hynny, yn enwedig o ystyried costau gwresogi cynyddol, a
4. Cyfarwyddo'r Cadeirydd i ysgrifennu at Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru yn gofyn am i fecanwaith sy'n adlewyrchu'n gywir yr amrywiadau tymhorol mewn allyriadau net gweithio gartref gael ei gynnwys yn y canllawiau ar gyfer asesu allyriadau, fel na fyddai'r cyngor yn cael ei gosbi am gymryd camau i leihau cyfanswm yr allyriadau traul y rhai a ddengys ar ei ffigyrau ei hun.
PENDERFYNWYD:
Bod argymhellion a chofnodion y cyfarfod yn cael eu hanfon at y Cabinet.
Dogfennau ategol: