Agenda item

Trosolwg o'r Rhaglen Newid Hinsawdd a Chynnydd

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan Reolwr y Rhaglen – Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Rhaglen (Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon) yr adroddiad a rhoddodd gyflwyniad a oedd yn cynnwys gwybodaeth fanwl ar y sleidiau a ganlyn:-

 

·         Cyd-destun – ar ôl i Lywodraeth Cymru ddatgan Argyfwng Hinsawdd yn 2019, ymrwymodd Cyngor Sir y Fflint i ddatblygu Strategaeth Newid Hinsawdd a dod yn garbon niwtral erbyn 2030

·         Cyflawniadau hyd yma

·         Datblygiad y Strategaeth - Llinell sylfaen

·         Datblygiad y Strategaeth - Ymgysylltu

·         Bwriad y Strategaeth yw bod yn ddi-garbon net

·         Strategaeth Newid Hinsawdd

·         Cynllun Gweithredu Di-garbon Net

·         Adnodd Staff Presennol ar gyfer y Rhaglen

·         Strwythur Llywodraethu

·         Adroddiad Cynnydd 2021/22

·         Argymhellion

·         Blaenoriaethau ar gyfer 2023/24

 

            Llongyfarchodd yr Aelod Cabinet y Rheolwr Rhaglen am y gwaith yr oedd wedi'i wneud.  Roedd angen i'r Pwyllgor fod yn ymwybodol o lwyth gwaith y Rheolwr Rhaglen a'i phrentis. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Eastwood, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen yn gyntaf fod y cynnydd mewn caffael yn uniongyrchol gysylltiedig â'r cynnydd mewn gwariant ar gyfer 2021/22.  Gan gyfeirio at yr ysgol sero net, rhoddodd drosolwg o’r gofynion a roddwyd ar waith wrth adeiladu’r ysgol er mwyn sicrhau ffigurau carbon mwy cywir ac mai dyma’r ffigurau a fyddai’n cael eu hadrodd yn hytrach na gwerth gwariant y contract. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dan Rose, eglurodd y Rheolwr Rhaglen fod y term “o'r ffynnon i'r tanc” yn cyfeirio at yr allyriadau o ddrilio a chludo olew cyn iddo gael ei werthu mewn gorsafoedd petrol.  Unwaith y byddai llai o ddefnydd o danwydd ffosil yna byddai'r allyriadau “o'r ffynnon i'r tanc” hefyd yn lleihau.

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) at bwynt y Cynghorydd Eastwood ar danwydd hydrogen, gan ddweud bod safle cynhyrchu hydrogen fel rhan o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi’i gyrchu ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, yn canolbwyntio ar ddefnyddio hydrogen ar gyfer cerbydau.  Oherwydd nifer y busnesau ar y parc roedd awydd i newid gyda ffocws ar Hydrogen Gwyrdd.  Eglurodd os oedd ynni adnewyddadwy yn cael ei ddefnyddio i greu'r hydrogen, nid oedd unrhyw sgil-gynnyrch o garbon deuocsid, ac amlinellodd y gwahaniaethau rhwng hydrogen glas a gwyrdd.   Awgrymodd y gellid ystyried hyn fel eitem ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Copple ar arfer gorau, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen y ceisir arfer gorau bob amser, gan ddarparu manylion y sefydliadau yr oedd yn ymwneud â hwy lle rhennir enghreifftiau o arfer gorau.  Yn ogystal, roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn gweithio i ddatblygu pecyn cymorth caffael y gallai pob awdurdod lleol ei ddefnyddio.  Byddai hyn fodd bynnag yn gofyn am swyddog penodedig i weithio gyda'r comisiynwyr a'r gadwyn gyflenwi i gael gwell dealltwriaeth o'u hallyriadau carbon.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mansell, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen mai’r ffigur gwaelodlin ar gyfer allyriadau oedd ar gyfer 2018/19.  Roedd data 2019/20 cyn Covid.  Roedd data 2020/21 yn dangos bod llai o deithio a defnydd swyddfa yn ystod y pandemig. Yn 2021/22 yn dod allan o’r pandemig, roedd data wedi gweld rhywfaint o gynnydd mewn allyriadau o’r flwyddyn flaenorol, ond ar wahân i gaffael, roedd yn dal i ddangos gostyngiadau o gymharu â llinell sylfaen 2018/19.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ar gaffael gyda chontractau mwy a gwrthbwyso allyriadau, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen fod yr ysgol y cyfeiriwyd ati yn gynllun peilot ac yn gromlin ddysgu ar gyfer symud ymlaen. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.