Agenda item

Isafswm Darpariaeth Refeniw - Polisi 2023/24

Pwrpas:        Mae gofyn i Awdurdodau Lleol bob blwyddyn roi rhywfaint o’u hadnoddau refeniw o’r neilltu fel darpariaeth i ad-dalu dyledion.  Mae’r adroddiad yn cyflwyno polisi drafft y Cyngor ar Isafswm Darpariaeth Refeniw.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i gymeradwyo'r polisi blynyddol ar gyfer yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ar gyfer ad-dalu dyledion yn ddarbodus. Cadarnhaodd nad oedd angen gwneud newidiadau i’r polisi ar gyfer 2023/24.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r canlynol ar gyfer Cronfa'r Cyngor:-

 

·         Dewis 3 (Dull Ased Bywyd) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mlwyddyn ariannol 2023/24 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus ac sydd wedi’i ariannu gan fenthyca â chymorth wedi’i osod ar 31 Mawrth 2017. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 49 mlynedd.

 

·         Dewis 3 (Dull Ased Bywyd) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2023/24 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu gan fenthyca â chymorth o 1 Ebrill 2016. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros nifer priodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

 

·         Dewis 3 (Dull Ased Bywyd) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2023/24 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu gan fenthyca (darbodus) heb gymorth neu drefniadau credyd. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros nifer priodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

 

(b)       Cymeradwyo’r canlynol ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai:-

 

·         Dewis 3 (Dull Ased Bywyd) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo Isafswm Darpariaeth Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai yn 2023/24 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus ac sydd wedi’i ariannu gan ddyled wedi’i osod ar 31 Mawrth 2017.  Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 50 mlynedd.

 

·         Dewis 3 (Dull Ased Bywyd) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2023/24 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu gan ddyled o 1 Ebrill 2021. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros nifer priodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

 

(c)       Cymeradwyo fod yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ar fenthyciadau gan y Cyngor i NEW Homes i adeiladu cartrefi fforddiadwy drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (sy’n cael eu hystyried yn wariant cyfalaf yn nhermau cyfrifeg) fel a ganlyn:-

 

·         Ni wneir Isafswm Darpariaeth Refeniw yn ystod y cyfnod adeiladu (sy’n fyr) gan nad yw’r ased yn cael ei ddefnyddio ac nad oes unrhyw fudd o’i ddefnyddio.

 

·         Pan fydd yr asedau’n cael eu defnyddio, bydd ad-daliadau (benthyciadau) cyfalaf yn cael eu gwneud gan NEW Homes. Bydd Isafswm Darpariaeth Refeniw’r Cyngor yn hafal i’r ad-daliadau a wnaed gan NEW Homes.  Bydd yr ad-daliadau y bydd NEW Homes yn eu gwneud yn cael eu hystyried, yn nhermau cyfrifeg, yn dderbyniadau cyfalaf, a gellir defnyddio’r rhain i ariannu gwariant cyfalaf neu i ad-dalu dyled yn unig. Bydd yr ad-daliad cyfalaf / derbyniadau cyfalaf yn cael eu neilltuo i ad-dalu dyled, a dyma yw polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw’r Cyngor ar gyfer ad-dalu'r benthyciad.

Dogfennau ategol: