Agenda item

Isafswm Darpariaeth Refeniw - Polisi 2023/24

Pwrpas:        Mae gofyn i Awdurdodau Lleol bob blwyddyn roi rhywfaint o’u hadnoddau refeniw o’r neilltu fel darpariaeth i ad-dalu dyledion.  Mae’r adroddiad yn cyflwyno polisi drafft y Cyngor ar Isafswm Darpariaeth Refeniw.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac esboniodd fod rhaid i awdurdodau lleol osod polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mhob blwyddyn ariannol.  Roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol neilltuo rhywfaint o adnoddau refeniw fel darpariaeth ar gyfer ad-dalu dyled.

 

Mae rheoliadau yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau wneud darpariaeth isafswm refeniw pob blwyddyn y mae’n ei hystyried yn ddoeth.  Nid oedd y rheoliadau eu hunain yn diffinio darpariaeth ‘darbodus’.  Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau sy'n cynnig argymhellion i awdurdodau lleol ar ddehongli'r telerau a gofynnir i awdurdodau baratoi datganiad blynyddol o'u polisi ar wneud isafswm darpariaeth.

 

Roedd y Cyngor, fel rhan o strategaeth y gyllideb, wedi cynnal adolygiadau manwl o’i bolisi MRP yn 2016/17 a 2017/18 ac wedi diwygio’r polisi o ganlyniad.   Nid oedd angen gwneud newidiadau i’r polisi ar gyfer 2023/24.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled heb ei thalu’r Gronfa'r Cyngor (CF):-

 

·   Defnyddio Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i gyfrifo MRP ym mlwyddyn ariannol     2023/24 ar gyfer balans gwariant cyfalaf sy’n weddill o fenthyca â chymorth fel y’i gosodwyd ar 31 Mawrth 2017. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 49 mlynedd.

 

·         Defnyddio Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i gyfrifo MRP yn 2023/24 ar gyfer pob gwariant cyfalaf wedi’i ariannu o fenthyca â chymorth o 1 Ebrill 2016 ymlaen. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros nifer priodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

 

·         Defnyddio Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i gyfrifo MRP yn 2023/24 ar gyfer pob gwariant cyfalaf wedi’i ariannu o fenthyca darbodus heb gymorth neu drefniadau credyd.  Bydd y cyfrifiad yn y dull ‘blwydd-dal’ dros nifer priodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’n debygol o gymryd i greu buddion gwariant cyfalaf.

 

(b)       Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled heb ei thalu’r Cyfrif Refeniw Tai:-

 

·         Defnyddio Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i gyfrifo MRP Cyfrif Refeniw Tai yn 2023/24 ar gyfer balans cyllideb gwariant sy’n ddyledus wedi’i ariannu o ddyled a osodwyd ar 31 Mawrth 2021.  Bydd y cyfrifiad yn y dull ‘blwydd-dal’ dros gyfnod o 50 mlynedd.

 

·         Defnyddio Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i gyfrifo MRP Cyfrif Refeniw Tai yn 2023/24 ar gyfer pob gwariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu o ddyled o 1 Ebrill 2021 ymlaen. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros nifer priodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

 

(c)        Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo i’r Cyngor Sir fod yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ar fenthyciadau gan y Cyngor i NEW Homes i adeiladu cartrefi fforddiadwy drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (sy’n cael eu hystyried yn wariant cyfalaf yn nhermau cyfrifeg) fel a ganlyn:-

 

·         Ni wneir Isafswm Darpariaeth Refeniw yn ystod y cyfnod adeiladu (am gyfnod byr) gan nad yw’r ased yn cael ei ddefnyddio ac nid oes budd yn deillio

o’i ddefnyddio.

 

·         Pan fydd yr asedau’n cael eu defnyddio, bydd ad-daliadau (benthyciadau) cyfalaf yn cael eu gwneud gan NEW Homes. Bydd MRP y Cyngor yn gyfartal â’r ad-daliadau a wneir gan NEW Homes. Bydd yr ad-daliadau a wneir gan NEW Homes yn cael eu hystyried, yn nhermau cyfrifeg, fel derbyniadau cyfalaf, a dim ond i ariannu gwariant cyfalaf neu i ad-dalu dyled y gellir eu  defnyddio. Bydd y cyfalaf ad-dalu/ derbynneb cyfalaf yn cael ei neilltuo i ad-dalu dyled, a dyma yw polisi MPR y Cyngor i ad-dalu’r benthyciad.

Dogfennau ategol: