Agenda item

Adolygiad Strategaeth Gwastraff

Pwrpas:        Adolygu Strategaeth Wastraff bresennol y Cyngor gyda’r amcan o gyflawni targedau ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd fod y Strategaeth Gwastraff wedi cael ei adolygu dair gwaith yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf ac mai’r adolygiad diweddaraf oedd ‘Targed 70’ ym mis Gorffennaf 2021. Roedd yr adolygiadau hynny wedi caniatáu i’r Cyngor roi newidiadau mawr ar waith mewn gwasanaethau, oedd wedi cyfrannu at wella’r ffordd y mae gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn cael eu darparu.

 

Yn ei Strategaeth Gwastraff presennol, ‘Mwy nag Ailgylchu’, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau statudol i awdurdodau lleol yng Nghymru i ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio o leiaf 64% o’u gwastraff erbyn 2022-23 a 70% erbyn 2024-25.

 

Fodd bynnag, roedd lefelau perfformiad ailgylchu yn Sir y Fflint wedi gostwng yn raddol o un flwyddyn i’r llall a chafodd y pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau cysylltiedig effaith sylweddol. Pwrpas yr adolygiad hwn yw canolbwyntio ar gyflawni’r targedau ailgylchu statudol ac osgoi cosb ariannol os na chânt eu cyflawni.

 

Yn dilyn dau weithdy i’r Aelodau i gyd ym mis Tachwedd 2022, amlinellodd yr adroddiad sut y cynigir lleihau gwastraff ac ailgylchu mwy er mwyn gwella perfformiad ailgylchu a chyflawni’r targedau ailgylchu statudol.

 

Yn dilyn dadansoddiad diweddar o gynnwys, yn ôl y canlyniadau cychwynnol, roedd hyd at 50% o’r hyn a roddwyd mewn biniau gwastraff gweddilliol gan breswylwyr Sir y Fflint yn ddeunydd y gellir ei ailgylchu. Yn ogystal, roedd 27% o’r gwastraff gweddilliol yn wastraff bwyd. Gan fod gwasanaeth casglu wythnosol ar wahân ar ymyl y palmant ar gyfer gwastraff bwyd a bod ailgylchu’n cael ei gasglu bob wythnos hefyd, nid oedd y sefyllfa bresennol yn gynaliadwy ac roedd yn parhau yn risg sylweddol i’r awdurdod lleol.

 

Cafodd themâu cyffredinol yr adborth o’r gweithdai i Aelodau eu hamlinellu yn yr adroddiad. Mesur allweddol a gyflwynwyd gan nifer o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru oedd cyfyngu ar faint o wastraff y gallai aelwydydd ei daflu. Drwy gyfyngu ar gapasiti’r bin gwastraff gweddilliol, byddai pobl yn cael eu hannog i ddefnyddio mwy ar y gwasanaeth casglu ailgylchu ar ymyl y palmant. Gellir lleihau gwastraff gweddilliol drwy leihau maint y bin gwastraff gweddilliol neu newid pa mor aml mae gwastraff yn cael ei gasglu.  

 

Roedd nifer o fodelau casglu gwastraff ar draws Cymru wedi cael eu cymharu ac roedd yn glir bod cyfyngu ar wastraff gweddilliol wedi gwella lefelau ailgylchu, oedd yn ei dro wedi cael effaith sylweddol ar berfformiad ailgylchu. Mae lleihau capasiti gwastraff gweddilliol i 60 litr wedi arwain at y gwelliannau cyfartalog canlynol:

·         Gostyngiad cyffredinol o 30% mewn gwastraff gweddilliol aelwydydd (yn cynnwys Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref)

·         Cynnydd o 17% mewn ailgylchu sych o ymyl y palmant

·         Cynnydd o 28% mewn gwastraff da a gesglir

 

Pe bai amlder y casgliadau’n newid o’r model pythefnos presennol, byddai hynny’n cael effaith ar yr adnoddau sydd eu hangen i ddarparu’r gwasanaethau casglu.   Roedd y manylion llawn yn yr adroddiad. Os bydd amlder y casgliadau’n newid, gallai hyn olygu bod angen newid maint y cynwysyddion neu’r math o gynwysyddion a ddefnyddir, fyddai’n golygu ystyriaethau eraill megis cyllid, iechyd a diogelwch, effaith ar y criwiau, sicrhau bod y cynwysyddion yn addas i’r cerbydau ac amodau storio i breswylwyr.   

 

Byddai angen cyllid cyfalaf i gynhyrchu biniau gwastraff gweddilliol eraill os bydd angen newid eu maint. Amcangyfrifir y byddai hynny’n costio tua £1m.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Thrafnidiaeth) y manylion yn y tabl, oedd yn dangos y gwastraff cyffredinol presennol oedd yn codi, perfformiad ailgylchu a’r dirwyon posibl y gallai LlC eu gosod ar Sir y Fflint am fethu â chyflawni'r targedau ailgylchu statudol.  

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ar 10 Ionawr  2023 a thrafododd yr Aelodau y dewisiadau amrywiol o ran amlder casgliadau. Cynigiodd y Pwyllgor gynnal peilot â gwasanaeth casglu llai aml mewn un ardal o’r sir.   

 

Cynigiwyd hefyd ystyried cynyddu’r tâl am gasgliadau gwastraff gardd fel rhan o’r adolygiad. Pe bai’r tâl yn codi o £1, byddai’n creu incwm ychwanegol o £32,000 y flwyddyn. Roedd aelodau Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi yn cefnogi’r cynnig hwn.

 

Eglurodd y Cynghorydd Hughes a’r Prif Swyddog bwysigrwydd newid ymddygiad drwy addysg ac ychwanegwyd y byddai goblygiadau ymarferol y peilot arfaethedig yn heriol.  

 

Roedd y Cynghorydd Bithell yn teimlo, os yw’r targedau wedi cael eu cyrraedd yn flaenorol yna, dylid gallu eu cyrraedd eto, a holodd am y ffordd orau o roi gwybodaeth i breswylwyr.  

 

Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd penderfyniad wedi’i wneud am ardal y peilot hyd yma, na phryd y byddai’n dechrau ac am ba hyd. Roedd angen gwneud darn sylweddol o waith ac awgrymodd y dylai ddod ag adroddiad wedi’i ddiweddaru i’r Cabinet cyn lansio’r peilot.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod ar y Cabinet angen cymryd sylw o’r argymhelliad gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi perfformiad ailgylchu presennol y Cyngor yn erbyn y targedau statudol ynghyd â’r risgiau cysylltiedig;

 

(b)       Ystyried y dewisiadau a gyflwynwyd ar gyfer modelau darparu amgen casglu gwastraff er mwyn cyflawni’r targedau ailgylchu statudol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, a chefnogi’r cynnig i deialu casglu gwastraff yn llai aml mewn un ardal o’r sir; a

 

(c)        Cymeradwyo’r cynnig i gynyddu’r ffi danysgrifio ar gyfer gwastraff gardd i adennill costau gweithredu cynyddol.

Dogfennau ategol: