Agenda item
Mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint.
Cofnodion:
Ar ôl datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu, symudwyd y Cynghorydd Healey i’r lobi rhithiol.
Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad gan egluro bod gofyn i bob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru gynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a’i adolygu’n rheolaidd. Roedd yr adroddiad yn nodi’r gwaith a wnaed i baratoi a mabwysiadu CDLl i Sir y Fflint.
CDLl Sir y Fflint fydd y prif bolisi a strategaeth y bydd y Cyngor yn ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau ar y cynigion datblygu i’r dyfodol. Roedd yn gynllun cadarn a chynaliadwy sy’n cynnwys gofyniad i ystyried y rhaglen ‘Creu Lleoedd’ ac yn cyflwyno dull cadarnhaol o reoli’r twf y bydd Sir y Fflint yn ei brofi i’r dyfodol.
Roedd y polisïau a’r cynigion o fewn y CDLl yn ymdrin ag angen y Sir am gartrefi, swyddi, isadeiledd a chyfleusterau cymunedol newydd i gefnogi twf economaidd a gwella safonau byw. Wrth gynllunio twf, roedd yn cydnabod ei fod yn anorfod yn golygu gwneud penderfyniadau anodd, yn enwedig ar ryddhau tir ar gyfer datblygu mewn rhai ardaloedd. Roedd Cynghorwyr a chynllunwyr yn y gorffennol wedi bod yn ddewr ac eofn i wneud y penderfyniadau anodd hyn.
Amlinellwyd prif gamau paratoi’r CDLl yn yr adroddiad. Dechreuodd y gwaith o archwilio’r CDLl ar 11 Tachwedd 2020 a chynhaliwyd gwrandawiadau dros gyfnod o wyth mis hyd at 23 Tachwedd 2021. Yn ystod yr archwiliad, bu’n rhaid i’r Cyngor ystyried ac ymateb i fater newydd sylweddol a godwyd ar ôl i Gyfoeth Naturiol Cymru gyflwyno targedau newydd mwy llym ar gyfer lefelau ffosffadau a ganiateir mewn Afonydd ACA a warchodir, ac yn achos y CDLl, Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid. Cafodd yr arolygwyr ddigon o dystiolaeth i ganiatáu iddynt orffen archwilio’r CDLl.
Yn y Cabinet ar 31 Mai 2022, cymeradwyodd yr Aelodau ‘Newidiadau’r Materion sy’n Codi’ i’r CDLl i’w Archwilio, ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 29 Gorffennaf 2022 a chafwyd tua 122 o sylwadau. Cawsant eu hanfon ymlaen at yr Arolygwyr i’w hystyried. Yn unol â rhwymedigaethau statudol, ni chafodd y sylwadau eu hystyried gan y Cyngor.
Roedd yr Arolygwyr bellach wedi cyflwyno eu Hadroddiad terfynol, oedd ynghlwm i adroddiad y Cabinet ac roedd yr Archwiliad wedi dod i ben. Ystyriwyd yn yr Adroddiad bod y CDLl yn gadarn, ac yn amodol ar ei natur derfynol, y bydd y cynllun angen cael ei fabwysiadu gan y Cyngor.
Diolchodd y Cynghorydd Bithell i’w gydweithwyr ar y Gr?p Strategaeth Gynllunio am eu holl waith caled ar y CDLl.
Diolchodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i’r holl swyddogion a fu’n rhan o’r gwaith, yn enwedig gan fod gofyn gwneud pethau mewn ffordd wahanol. Byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir yr wythnos ganlynol ac os bydd yn cael ei gymeradwyo, byddai cyfres newydd o bolisïau'n cael eu creu a byddai ar Aelodau angen hyfforddiant arnynt. Os bydd yn cael ei gymeradwyo, bydd gan y Cyngor gyfle i roi mewnbwn i’r Cynllun Datblygu Strategol.
Diolchodd y Cynghorydd Roberts i swyddogion ac Aelodau am yr holl waith a wnaed.
PENDERFYNWYD:
(a) Mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint (Fersiwn Terfynol yn atodiad 2 – fel y'i diwygiwyd gan y newidiadau rhwymol sydd wedi’u nodi yn Adroddiad yr Arolygydd), fel y cynllun datblygu newydd ar gyfer ardal weinyddol Sir y Fflint;
(b) Cymeradwyo'r Datganiad Mabwysiadu (atodiad 3), yr Arfarniad o Gynaliadwyedd Terfynol gan gynnwys yr Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb (atodiad 4), a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (atodiad 5); a
(c) Awdurdodi’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i wneud newidiadau teipograffyddol, gramadegol, ffeithiol neu o ran cyflwyniad i Gynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint a’r dogfennau ategol cyn iddo gael ei gyhoeddi’n derfynol.
Dogfennau ategol: