Agenda item

Diwygio Etholiadol yng Nghymru

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y Diwygio Etholiadol sy’n digwydd yng Nghymru.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi ymgynghori ar flaenoriaethau uniongyrchol am ddiwygio yn 2017, yn y Papur Gwyn Diwygio Etholiadol ym maes Llywodraeth Leol yng Nghymru.    Lluniwyd deddfwriaeth ar gyfer y blaenoriaethau uniongyrchol drwy Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Un o’r newidiadau oedd y gallai awdurdodau lleol benderfynu mabwysiadu system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer eu hetholiadau, yn lle’r system Cyntaf i’r Felin.   Roedd rhan gyntaf yr adroddiad yn egluro’r broses.

 

Roedd ail ran yr adroddiad yn egluro’r Papur Gwyn Gweinyddu a Diwygio Etholiadol a sut yr oedd LlC yn ceisio cyflymu eu rhaglen ddiwygio a sôn am yr hyn yr oeddent yn ei ddisgrifio fel cynllun uchelgeisiol i foderneiddio gweinyddiaeth etholiadol yng Nghymru.

 

Roedd y Papur Gwyn yn cynnwys cynigion ar gyfer:

 

·         Hyrwyddo ymgysylltiad mewn etholiadau

·         Ei gwneud hi’n haws a mwy syml sefyll mewn etholiad

·         Deddfwriaeth i foderneiddio gweinyddiaeth etholiadau

·         Deddfwriaeth i wella’r ffordd o gynnal adolygiadau etholiadol a chymunedol ar gyfer llywodraeth leol

·         Deddfwriaeth i gydgrynhoi cyfraith etholiadol

·         Cynigion mwy hirdymor ar gyfer diwygio etholiadol i gefnogi democratiaeth yng Nghymru yn y dyfodol

 

Y dyddiad cau i ymateb i’r ymgynghoriad oedd 10 Ionawr 2023.

 

Roedd trydedd rhan yr adroddiad yn crynhoi Deddf Etholiadau 2022, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2022 ac a oedd yn berthnasol ar gyfer etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Seneddol y DU.

 

Fe wnaeth effaith Deddf Etholiadau 2022 greu ymwahaniad yng Nghymru a amlygwyd yn yr adroddiad.

 

Un o’r newidiadau oedd y gallai awdurdodau lleol benderfynu mabwysiadu system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer eu hetholiadau, yn lle’r system Cyntaf i’r Felin.   Roedd rhan gyntaf yr adroddiad yn egluro’r broses.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y system cyntaf i’r felin yn cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau’r Cyngor Sir ar hyn o bryd.  Gallai’r Cyngor symud i system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy a byddai LlC yn darparu rhagor o ganllawiau am hyn ac eglurder o ran y cwota.  Pe bai’r Cyngor am ddefnyddio system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy, byddai angen cynnal adolygiad o ffiniau i ddechrau. Byddai hynny’n golygu wardiau o rhwng tri a chwe Aelod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Roberts yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Johnson.

 

Mynegodd y Cynghorydd Roberts bryderon am y gofyniad am brawf adnabod pleidleiswyr a allai roi pwysau ar y tîm o ran cofrestru hwyr.  Dywedodd mai etholiadau Llywodraeth y DU oedd â’r nifer uchaf o bleidleiswyr, a oedd yn gweithredu system cyntaf i’r felin.  Roedd nifer sylweddol is yn pleidleisio yn etholiadau Llywodraeth Cymru (LlC) ac roedd y broses ar gyfer etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn ddryslyd.  Nid oedd o blaid wardiau mawr â sawl aelod, a soniodd am bwysigrwydd y cysylltiad rhwng Aelodau lleol a’u cymuned.  Awgrymodd weithdy i’r holl Aelodau i ddatblygu’r hyn oedd angen, a gofynnodd a oedd modd estyn dyddiad cau 10 Ionawr.  Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gellid gwneud cais i estyn y dyddiad cau ac os na fyddai’n cael ei gymeradwyo, byddai barn o’r cyfarfod heddiw yn ffurfio rhan o’r ymateb.  Gellid trefnu gweithdy i Aelodau fel a awgrymwyd, er mwyn nodi materion allweddol.

 

Fel eilydd, roedd y Cynghorydd Johnson yn cefnogi’r cais i estyn y dyddiad cau oherwydd bod y ddogfen yn fanwl iawn a bod angen ymateb pwyllog. 

 

Gwnaeth Aelodau ar draws y Siambr sylwadau am agweddau ar y ddogfen gyda’r rhan fwyaf yn cefnogi system cyntaf i’r felin a chytuno â sylwadau’r Cynghorydd Roberts am bwysigrwydd y ffaith fod Aelodau’n cadw cynrychiolaeth leol.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai estyniad i’r dyddiad cau yn cael ei geisio a phe bai’n cael ei gymeradwyo, byddai gweithdy i’r holl Aelodau’n cael ei drefnu.

 

            Gan wneud sylwadau am yr argymhellion, awgrymodd y Cynghorydd Roberts bedwerydd argymhelliad, sef “bod llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth y DU i fynegi’r pryderon a godwyd am ymarferoldeb costau prawf adnabod pleidleiswyr”, a gafodd ei gefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nad yw’r Cyngor yn cefnogi mabwysiadu’r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy;

 

(b)       Bod cais yn cael ei wneud am estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r Papur Gwyn Gweinyddu a Diwygio Etholiadol ac os caiff ei dderbyn, bod gweithdy ar gyfer yr holl Aelodau’n cael ei drefnu.  Pe bai’r cais am estyniad yn cael ei wrthod, byddai’r Dirprwy Swyddog Canlyniadau yn cyflwyno ymateb yn unol â’r farn a fynegwyd gan Aelodau erbyn 10 Ionawr;

 

(c)        Bod gofynion Deddf Etholiadau 2022 yn cael eu nodi, a’r camau arfaethedig i leihau difreinio posibl yn cael eu cymeradwyo; a

 

(d)       Bod llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth y DU i fynegi’r pryderon a godwyd am ymarferoldeb costau prawf adnabod pleidleiswyr.

Dogfennau ategol: