Agenda item

Cynllun Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor

Pwrpas:        I’r Cyngor osod cynllun Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer 2023-24 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.

Cofnodion:

Ar ôl datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd Preece yr ystafell cyn i’r eitem gael ei chyflwyno.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod ymgynghoriad cyhoeddus eang wedi’i gynnal ar gais y Cabinet rhwng 8 Tachwedd 2021 a 6 Rhagfyr 2021 i ganfasio barn y cyhoedd am y cynllun premiwm Treth y Cyngor presennol, ei effeithiolrwydd a’i effaith ar y gymuned leol, a defnydd o’r cynllun i gymell perchnogion i ddod ag eiddo i ddefnydd llawn er mwyn cefnogi cyflenwad tai lleol ar gyfer preswylwyr lleol.  Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn archwilio dewisiadau ar addasiadau i’r cyfraddau premiwm a’r manteision a risgiau canfyddedig o fabwysiadu unrhyw gynllun amgen neu gynllun wedi’i ddiwygio.

 

Daeth 504 o ymatebion i’r ymgynghoriad i law gan amrywiaeth eang o bobl a chafodd yr ymatebion eu crynhoi yn yr adroddiad.

 

Roedd rôl y premiwm yn canolbwyntio ar annog perchnogion eiddo gwag hirdymor i ddod â nhw’n ôl i ddefnydd gyda’r baich ariannol a materion fforddiadwyedd a allai fod ar y partïon hynny, fel perchnogion newydd neu berchnogion presennol nad oedd ganddynt ddewis neu arian i gymryd camau uniongyrchol i ddod â’r eiddo’n ôl i ddefnydd.

 

Eglurodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael, o’r blaen, ers mis Ebrill 2017 pan gyflwynwyd y cynllun, roedd cyfradd premiwm o 50% wedi’i chyflwyno ar gyfer anheddau a ddynodwyd fel rhai wedi’u meddiannu o bryd i’w gilydd (cyfeirir atynt fel arfer fel ail gartrefi) neu eiddo gwag hirdymor.

 

Ychwanegodd fod cwestiynau wedi’u gofyn hefyd fel rhan o’r ymarfer ymgynghori i’r rhai a allai gael eu heffeithio o bosibl pe bai’r cyfraddau’n cynyddu.  I gloi, roedd bron dau draean o ymatebwyr yn teimlo bod eiddo gwag hirdymor yn cael effaith negyddol ar eu cymuned leol.  Roedd bron hanner yr ymatebwyr yn teimlo bod ail gartrefi yn cael effaith negyddol ar eu cymuned leol.  Roedd rhywfaint dros hanner yr ymatebwyr yn teimlo y dylid cynyddu’r gyfradd premiwm i fwy na 50%.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu manylion am gyfraddau premiwm awdurdodau lleol eraill.  Roedd y Cabinet wedi argymell 75% ar gyfer eiddo gwag hirdymor a 100% ar gyfer ail gartrefi.

 

Pe bai’r Cyngor yn penderfynu codi lefel y premiwm ar eiddo gwag hirdymor a/neu ail gartrefi, roedd posibilrwydd o gynyddu arenillion Treth y Cyngor a defnyddio unrhyw refeniw ychwanegol a gynhyrchir i helpu i ddiwallu anghenion tai lleol yn unol â bwriadau polisi’r cynllun premiwm.

 

Byddai’r refeniw ychwanegol a gynhyrchir i gefnogi gwasanaethau yn dibynnu ar lefel ddiwygiedig y cyfraddau premiwm ond byddent yn cynnwys £101,000 ychwanegol am bob ardoll 10% ychwanegol sy’n uwch na 50% ar eiddo gwag hirdymor a £28,000 ychwanegol am bob ardoll 10% ychwanegol ar ail gartrefi dynodedig.  Roedd tablau yn yr adroddiad yn darparu darluniadau o’r cynnydd ar gyfer 50%, 60%, 70%, 75% a 100%.

 

Roedd diwygiad i’r argymhelliad fel a gafodd ei argraffu yn yr adroddiad, a’r diwygiad oedd “Bod y Cyngor yn ystyried y gyfradd premiwm bresennol o 50% ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor a phenderfynu a ddylid amrywio’r gyfradd i 75% ar gyfer eiddo gwag hirdymor a 100% ar gyfer ail gartrefi o fis Ebrill 2023, yn unol ag argymhelliad y Cabinet.”

 

Cynigiodd y Cynghorydd Mullin yr argymhelliad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Bithell.

 

Eglurodd y Cynghorydd Bithell fod cartrefi gwag yn rhan o’i bortffolio ar y Cabinet ac roedd yn teimlo nad premiymau Treth y Cyngor oedd yr unig ateb i faterion cymhleth wrth ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.  Roedd pobl ddigartref a oedd angen llety ac roedd eiddo ar draws y sir yn cael eu gadael yn wag. 

 

Roedd y Cynghorydd Richard Jones yn teimlo bod yr ymateb i’r ymgynghoriad yn isel a chanrannau’r ymatebion yn agos.  Soniodd am y potensial i arbed £390,000 a holodd ai dyna oedd y rheswm dros y cynigion oedd gerbron yr Aelodau, nad oedd yn teimlo y gellid dibynnu arnynt.   Dywedodd os byddai preswylwyr yn newid eu hymddygiad, roedd siawns na fyddai unrhyw arian ychwanegol yn dod i law. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Carberry i swyddogion am eu gwaith ar yr adroddiad a’r graffeg oedd ynddo.  Roedd yn teimlo bod maint sampl yr ymgynghoriad yn dda o’i gymharu ag ymgynghoriadau cenedlaethol.

 

Roedd y Cynghorydd Swash yn cefnogi argymhelliad y Cabinet a oedd yn dweud bod y data’n profi bod y premiwm 50% yn methu â’r nod o ddod â’r cartrefi yn ôl i ddefnydd, a’r argyfwng tai oedd yr her fwyaf oedd y Cyngor yn ei wynebu.  

 

Roedd y Cynghorydd Parkhurst yn cefnogi’r cynnig o 75% ar gyfer eiddo gwag hirdymor i gynorthwyo â’r prinder tai.  Fodd bynnag, roedd yn teimlo bod mesurau’n cael eu brysio ac nad oedd goblygiadau 75% ar gyfer llety hunanddarpar a oedd yn dod i mewn i gategori ail gartrefi wedi’i ystyried yn ddigonol.  Cynigiodd ddiwygiad, sef cynyddu eiddo gwag hirdymor i 75% ond gadael ail gartrefi ar 50%, yn amodol ar werthusiad o’r effaith o ran llety hunanddarpar trwy gyfrwng Gr?p Tasg a Gorffen.  Gwnaeth y Cynghorydd Attridge eilio’r diwygiad.

 

Wrth gefnogi’r diwygiad, soniodd y Cynghorydd Peers am yr amgylchiadau pan fo rhywun wedi etifeddu eiddo a fyddai wedyn wedi’i gyfrif fel ail gartref ac a fyddai’n destun treth ar enillion cyfalaf.  Nid oedd canlyniadau hynny wedi’u cynnwys yn yr adroddiad a holodd am yr anghyfartaledd rhwng y ddwy gyfradd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Crease am eglurhad o ran a oedd yn ymwneud â chodi refeniw neu ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.  Dywedodd y Cynghorydd Bithell, fel Aelod Cabinet Cartrefi Gwag, ei fod yn eilio’r argymhellion dim ond ar sail dod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd, ac nid o safbwynt incwm refeniw, fodd bynnag byddai rhywfaint o refeniw yn dod i law.

 

Gan ymateb i gwestiwn o ran a oedd Aelod yn teimlo bod y Cod Ymddygiad wedi’i dorri gan Aelod arall, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y dylid ceisio cyngor naill ai ganddo ef neu’r Dirprwy Swyddog Monitro y tu allan i’r cyfarfod.

 

Siaradodd nifer o Aelodau o blaid y diwygiad, gydag un Aelod yn siarad yn ei erbyn.  O'i roi i bleidlais, COLLWYD y diwygiad.

 

Holodd y Cynghorydd Peers am effeithiolrwydd y cynllun oedd â’r bwriad o gymell perchnogion i ddod ag eiddo’n ôl i ddefnydd llawn er mwyn cefnogi cyflenwad tai lleol ar gyfer preswylwyr lleol.   Rhoddodd enghraifft, sef pe bai preswyliwr yn etifeddu eiddo a oedd werth mwy na £200,000, nid oedd yn gartref fforddiadwy.  Gofynnodd a oedd tystiolaeth o werth ail gartrefi oherwydd nad oedd y wybodaeth honno wedi’i chynnwys yn yr adroddiad, a oedd yn ei gwneud yn anodd deall sut fyddai’r eiddo sy’n dod yn ôl i ddefnydd yn cefnogi’r farchnad tai fforddiadwy.  Holodd beth fyddai’r incwm ychwanegol yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer, a theimlai y byddai naill ai i gefnogi’r galw am wasanaethau neu anghenion tai lleol, nad oedd yn teimlo oedd wedi’i ddangos. 

 

Dywedwyd wrth Aelodau fod angen iddynt bleidleisio ar y prif gynnig, sef cynnydd i 75% ar eiddo gwag hirdymor a 100% ar gyfer ail gartrefi, a gafodd ei BASIO.

 

Dychwelodd y Cynghorydd Preece i’r ystafell a rhoddwyd gwybod iddo am y penderfyniad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y gyfradd premiwm yn cael ei chynyddu i 75% ar gyfer eiddo gwag hirdymor a 100% ar gyfer ail gartrefi o fis Ebrill 2023.

Dogfennau ategol: