Agenda item
Grant Cymorth Tai
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai, Dydd Mercher, 8fed Chwefror, 2023 10.00 am (Eitem 25.)
- Cefndir eitem 25.
Pwrpas: I roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Grant Cymorth Tai.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal adroddiad oedd yn rhoi trosolwg o’r drefn Grant Cymorth Tai a manylion y Cynllun Cyflawni Cymorth Tai, oedd yn ofyniad derbyn y Grant Cymorth Tai refeniw gan Lywodraeth Cymru.
Roedd y Grant Cymorth Tai yn rhaglen a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, oedd yn darparu gwasanaethau cymorth yn ymwneud â thai i bobl dros 16 oed. Mae’n rhaglen ymyrraeth gynnar sy’n cefnogi gweithgarwch i atal pobl rhag mynd yn ddigartref, eu helpu i gael cartref sefydlog neu helpu pobl a allai fod yn ddigartref i ganfod a chadw llety.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal gyflwyniad manwl ar yr adroddiad gan ddweud, wedi rhagweld i ddechrau y byddai gostyngiad yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddwyd y byddai £40m pellach yn cael ei roi yn y dyfarniad cenedlaethol ar gyfer y Grant Cymorth Tai. Y disgwyl oedd y byddai’r cyllid ychwanegol yn darparu llwyfan i drawsnewid gwasanaethau ac adeiladu ar yr arfer positif a ddatblygwyd yn ystod yr ymateb i Covid. Roedd y cyllid yn caniatáu i’r Cyngor ymateb i’r pwysau cynyddol ar wasanaethau tai a digartrefedd ar ôl y pandemig a’r argyfwng costau byw cyfredol a dylai gyd-fynd â’r newid mewn darparu gwasanaethau tuag at Ailgartrefu Cyflym.
Cafodd diweddariad manwl ar y meysydd canlynol, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ei ddarparu i’r Pwyllgor:
- Gwasanaethau Cyfredol Grant Cymorth Tai
- Mynediad at Wasanaethau Cymorth Tai
- Datblygu’r Cynllun Cyflawni Grant Cymorth Tai
- Blaenoriaethau Cyflawni Lleol y Grant Cymorth Tai
- Gwariant yn erbyn y Grant Cymorth Tai
- Comisiynu ac Adolygu Gwasanaethau
- Trefniadau Gweithio Rhanbarthol
- Ymgyrch Recriwtio drwy Gymru ar gyfer y Sector Cyfan
Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge nifer o gwestiynau fel y nodir isod:-
- A ellid darparu gwybodaeth am y rhaniad rhwng gwasanaethau Cyngor Sir y Fflint a gwasanaethau a gomisiynir o ran y gwariant ar gyfer y Grant Cymorth Tai a pha lefel o reoli ac atebolrwydd oedd yn ei le pan oedd arian yn cael ei wario’n allanol;
- Gofynnwyd am sicrwydd nad oedd y Grant Cymorth Tai yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o gadw rhestrau aros i lawr am eiddo’r Cyngor;
- Beth oedd y llwyth achosion cyfartalog fesul pob aelod o staff;
- Pryderon bod y Swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu yng Nghei Connah ar agor am lai o ddyddiau ac effaith hyn ar allu preswylwyr i gyfarfod wyneb yn wyneb â swyddogion tai i drafod problemau;
- Wrth ddatblygu Cynllun Cyflawni’r Grant Cymorth Tai, pa weithgareddau ymgynghori a gynhaliwyd;
- Wrth agor y Sector Rhentu Preifat, faint o eiddo preifat oedd ar gael ddim ond i Gyngor Sir y Fflint;
- O ran y tanwariant yn y Grant Cymorth Tai, a gafodd unrhyw brosiectau eraill eu hystyried i sicrhau bod yr holl gyllid yn cael ei ddefnyddio;
- A ellid rhoi gwybodaeth am ddyfodol safle Plas Bellin, gan fod sïon pryderus ar y cyfryngau cymdeithasol am ei ddyfodol;
- Pam bod eiddo gwag yn cael eu dal yn ôl o ystyried bod nifer fawr ohonynt a nifer y bobl sydd ar y rhestr aros am d?;
- Pam nad oes Aelodau etholedig ar Gr?p Cydweithredol Cymorth Tai Rhanbarthol Gogledd Cymru (RHSCG);
- A ellid darparu crynodeb o gategorïau cynllun gwario 2022/23;
- Faint mae’r Cyngor yn ei gyfrannu’n ariannol at y gronfa cyllid rhanbarthol;
- A ellid darparu astudiaethau achos negyddol hefyd er mwyn rhoi cydbwysedd a dangos y gwersi a ddysgwyd.
Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal i’r cwestiynau, fel a ganlyn:-
- Gellid rhoi gwybodaeth am y rhaniad rhwng gwasanaethau Cyngor Sir y Fflint a gwasanaethau a gomisiynir o ran gwariant ar y Grant Cymorth Tai yn dilyn y cyfarfod;
- Nid oedd y Grant Cymorth Tai yn cael ei ddefnyddio i atal pobl rhag mynd ar y gofrestr tai. Mae gan y gofrestr tai bwyslais cywir ac mae wedi ei harwain gan anghenion tai ond os gellid rhoi cefnogaeth i unigolyn i beidio symud, mae hynny’n lleihau’r effaith ar y gofrestr tai;
- Dylai adroddiadau yn y dyfodol ddangos effeithiau’r Grant Cymorth Tai;
- Mae staff yn y gwasanaeth cymorth i denantiaid yn rheoli tua 15 o achosion yr un ar gyfartaledd ac mae swyddogion digartrefedd yn rheoli rhwng 45 a 50 o achosion ar hyn o bryd;
- Derbyn y sylwadau am y Swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu ond nid yw hyn yn creu gormod o heriau gweithredol gan fod mwyafrif y cymorth a roddir mewn cartrefi neu yn y gymuned;
- Ymgynghorwyd drwy arolwg a gynhaliwyd wrth i staff gefnogi preswylwyr i ymgysylltu â’r arolwg. Roedd amrywiaeth o arolygon electronig a rhai papur a grwpiau ffocws ar gyfer gwasanaethau a gomisiynir;
- O ran y Cynllun Prydlesu, roedd 25 uned o lety ar gyfer Cyngor Sir y Fflint yn unig ar hyn o bryd. Pwyslais y ffrwd gyllido hon yw annog landlordiaid i helpu i gyflawni’r ddyletswydd digartrefedd.
- Roedd y Fforwm Landlordiaid yn cael ei gynnal ar-lein ar hyn o bryd yn dilyn Covid ac roedd tua 40 o landlordiaid yn rhan o’r broses. Mae’r cyfarfodydd diwethaf wedi canolbwyntio ar Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru a materion tamprwydd a dadfeilio, yr oedd y landlordiaid wedi gofyn am gael eu trafod;
- O ran gwariant yn erbyn y Grant Cymorth Tai, roedd arian ychwanegol yn cael ei groesawu bob amser ond roedd angen staff i allu darparu’r gwasanaethau hynny ac roedd y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus â chyllid ychwanegol yn y gorffennol;
- Nid oedd yn briodol gwneud sylw am y sïon ynghylch defnydd Plas Bellin yn y dyfodol;
- O ran y sylw am yr eiddo gwag oedd yn cael eu dal yn ôl, nid eiddo gwag yn y Cyfrif Refeniw Tai oedd y rhain ond eiddo gwag ym Mhlas Bellin. Pan gafodd hyn ei ddynodi fel risg, penderfynwyd rhoi’r gorau i osod eiddo yno;
- O ran aelodaeth Gr?p Cydweithredol Cymorth Tai Rhanbarthol Gogledd Cymru, roedd yn ofyniad bod Aelod yn eistedd ar y Gr?p hwn yn y gorffennol, ond roedd arweiniad gan Lywodraeth Cymru wedi nodi nad oedd angen Aelodau erbyn hyn. Byddai’n gwirio p’un ai arweiniad ynteu cyfarwyddyd oedd hyn yn dilyn y cyfarfod;
- Bydd angen cael cyngor ar faint o fanylion y gellid eu cynnwys yn y crynodeb o gategorïau cynllun gwario 2022/23 a rhoi gwybod i Aelodau yn dilyn y cyfarfod;
- Mae Cyngor Sir y Fflint yn cyfrannu £40,000 i’r gronfa cyllid rhanbarthol, fel Awdurdodau Lleol eraill. Roedd nifer fawr o staff, nid dim ond yn fewnol ond yn yr holl wasanaethau a gomisiynir wedi gallu cael hyfforddiant iechyd meddwl drwy hyn ac roedd wedi bod yn werth da am arian;
- Gellir cynnwys astudiaethau achos negyddol mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd am safle a ddynodwyd ar gyfer anghenion cymhleth a rheoli symudiadau ym Mhlas Bellin, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal fod y Prosiect Anghenion Cymhleth i fod i fynd allan i dendr cyn bo hir. Nid oedd safle penodol wedi’i ddynodi ac fel rhan o’r broses dendro, gofynnir i ddarparwyr roi manylion i’r Cyngor am sut y byddent yn bodloni disgwyliadau penodol a chael gafael ar safle. Eglurodd mai’r diffiniad o anghenion cymhleth oedd dau o anghenion neu fwy, a allai fod yn iechyd meddwl, ymddygiad troseddol, camddefnyddio sylweddau ac anabledd. O ran Plas Bellin, eglurodd fod nifer o breswylwyr yn y broses o gael eu symud gan eu bod wedi bodloni eu canlyniadau cefnogi. Roedd gweddill y preswylwyr yn cael eu helpu drwy’r cwota gosod uniongyrchol i’r digartref oedd yn gysylltiedig â’r prosiect Un Llwybr Mynediad at Dai.
Ymatebodd y Cynghorydd Sean Bibby, Aelod Cabinet Tai ac Adfywio i’r sylwadau am aelodaeth Gr?p Cydweithredol Cymorth Tai Rhanbarthol Gogledd Cymru gan ddweud ei fod yn hapus i drafod y mater hwn â’r Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal yn dilyn y cyfarfod. Rhoddodd wybodaeth am gyfarfodydd y gr?p rhwydwaith Aelodau Cabinet oedd yn cael eu hwyluso gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a thrafodaethau am gyfarfodydd mwy aml â phartneriaid rhanbarthol.
Diolchodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson i’r Aelod Cabinet am ei helpu â mater difrifol y diwrnod blaenorol ac roedd yn dymuno diolch i Claire Ballard am ei chymorth hithau. Mynegodd bryderon bod oriau agor Swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu ym Mwcle wedi cael eu cwtogi, gan ddweud fod gan Fwcle y boblogaeth fwyaf yn y Sir fel tref unigol a bod ganddi ddalgylch mawr hefyd. Soniodd hefyd am nifer y dyddiau oedd y Swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu yn yr Wyddgrug ar agor a gofynnodd a ellid ystyried i’r swyddfa ym Mwcle fod ar agor cymaint â swyddfa’r Wyddgrug. Cytunodd y Prif Weithredwr i drafod hyn â’r Prif Swyddog (Llywodraethu) ar ôl y cyfarfod.
Gofynnodd y Cynghorydd David Evans a oedd y Cyngor wedi cael cyfle i brynu Plas Bellin cyn iddo fynd ar y farchnad agored. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal nad oedd y Cyngor wedi cael gwybod bod yr adeilad yn cael ei werthu ond dywedodd fod nifer o heriau yn y safle ei hun megis ei gysylltedd â’r gymuned leol. Hefyd, er mwyn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru a’r agenda datgarboneiddio, byddai angen gwneud gwaith sylweddol a byddai hyn yn her sylweddol.
Wrth ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Linda Thew am y cyswllt rhwng preswylwyr a swyddogion, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal fod rhifau ffôn yn cael eu darparu yn yr adroddiad. Eglurodd nad swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu oedd yr unig ffordd i breswylwyr gysylltu â swyddogion a’i bod yn bwysig bod gennym y nifer cywir o staff i gynnal gweithgareddau rheng flaen, wrth groesawu gwybodaeth ddigidol a allai fod ar gael yn hawdd.
Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Cynllun Cyflawni Grant Cymorth Tai ar gyfer 2023-2024 sydd ynghlwm fel Atodiad 1 yr adroddiad;
(b) Bod y trosolwg o drefn y Grant Cymorth Tai ac ystod eangdarpariaeth gwasanaethau’n lleol yn cael ei nodi; a
(c) Bod yr adborth ar effaith y Grant Cymorth Tai a’r ystod o enghreifftiau o arfer da a rennir drwy’r adroddiad yn cael eu nodi.
Dogfennau ategol:
- Housing Support Grant Update, eitem 25. PDF 158 KB
- Appendix 1: Housing Support Grant Spend Plan Summary – 2022/2023, eitem 25. PDF 59 KB
- Appendix 2: Regional Housing Support Collaborative Group Annual Statement 2022/2023, eitem 25. PDF 301 KB
- Appendix 3: Regional Housing Support Collaborative Group – Our Peoples Stories Report, eitem 25. PDF 986 KB
- Appendix 4: Local Case Studies outlining the impact of Housing Support Grant services in Flintshire, eitem 25. PDF 469 KB