Agenda item

Rhybudd o Gynnig

Pwrpas:        Mae’r item hon i dderbynunrhyw Rhybuddion o Gynnig: mae un wedi cael ei dderbyn ac wedi ei atodi i’r rhaglen.

Cofnodion:

Roedd y Rhybudd o Gynnig canlynol wedi’i gyflwyno gan y Cynghorydd Rose a’i gefnogi gan y Cynghorydd Preece;

 

“Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r defnydd presennol o nifer o fathau o anifeiliaid mewn amryw ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau preifat, cyfeillion grwpiau a’r Cyngor ar draws y Sir ac mae’n dymuno parhau i wneud popeth o fewn ei allu i hyrwyddo, diogelu ac annog safonau uchel o ran lles anifeiliaid.

 

Mae’r RSPCA yn nodi eu bod yn gwrthwynebu defnyddio anifeiliaid fel rhan o adloniant neu ddigwyddiadau anifeiliaid pan fo’n debygol y caiff gofid neu ddioddefaint eu hachosi i anifail. Fodd bynnag, mae’r sefydliad hefyd yn cydnabod manteision mathau penodol o ddigwyddiadau sy’n defnyddio anifeiliaid, er enghraifft:-

 

?          digwyddiadau ystwythder c?n sy’n cynnwys hyfforddi c?n i redeg trwy a thros rwystrau gan ddefnyddio danteithion, teganau a chanmoliaeth; a

?          defnyddio anifeiliaid mewn ysgolion a sefydliadau addysgol eraill (h.y. ar ffurf ymweliadau yn hytrach na bod y sefydliadau addysgol yn cadw’r anifeiliaid eu hunain) â’r bwriad o addysgu pobl ifanc am ofal a lles anifeiliaid, sy’n gam cadarnhaol tuag at roi diwedd ar greulondeb tuag at anifeiliaid

yn y dyfodol.

 

Mae cyflwyno Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 yn gam sylweddol tuag at reoli achosion o ddefnyddio anifeiliaid a dod i gyswllt â nhw mewn modd effeithiol a sicrhau eu lles. Fodd bynnag nodir y gallai fod achosion lle bydd gofyn i’r Awdurdod (yn ôl y gyfraith) roi trwydded os bydd pob amod perthnasol wedi’u bodloni,

er na fydd pob digwyddiad wedi’u cefnogi gan y Cyngor mewn egwyddor.

 

Er gwaetha’r uchod, mae’r Cyngor o’r farn:-

·         na ddylai unrhyw anifail orfod bod dan straen na dioddef;

·         dylid cymryd pob cam priodol i liniaru unrhyw risg o straen neu ddioddef i anifeiliaid mewn unrhyw ddigwyddiadau perthnasol sy’n cael eu cynnal gan unrhyw sefydliad yn y Sir;

·         gallai anifeiliaid penodol, fel c?n, elwa o gymryd rhan mewn digwyddiadau ond dylid cymryd camau i sicrhau eu lles a lleihau unrhyw risg iddynt; a

·         caiff anifeiliaid eu defnyddio mewn achosion penodol – fel mewn ysgolion, sefydliadau addysgol eraill a lleoliadau cymunedol at ddibenion addysgol a chadwraeth, gan elusennau cofrestredig addas – lle bo’n briodol ac ni chânt unrhyw effaith negyddol ar les anifeiliaid os caiff digwyddiadau o’r fath eu rheoli’n briodol.

 

Felly, mae’r Cyngor yn penderfynu:-

                     I.        nodi goblygiadau deddfwriaeth drwyddedu berthnasol a allai roi, neu ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor roi, trwyddedau i drydydd partïon er mwyn defnyddio anifeiliaid yn y Sir;

                    II.        yn amodol ar (III) isod, rhoi’r gorau i ddefnyddio anifeiliaid mewn digwyddiadau’r Cyngor ac yn benodol, na fydd unrhyw ddigwyddiad wedi’i drefnu gan y Cyngor yn cynnwys defnyddio ceirw na mulod;

                  III.        y caniateir defnyddio anifeiliaid fel adar, c?n, ymlusgiaid ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn fel pryfaid cop, sgorpionau, anifeiliaid cramennog neu folysgiaid mewn digwyddiadau wedi’u trefnu gan y Cyngor dim ond:-

A.   pan fo’r anifeiliaid wedi’u harddangos at ddibenion addysgol neu at ddibenion sy’n gyson â’u cynefin a gweithgareddau naturiol; a

B.   phan fo gan y sefydliad di-elw perthnasol sy’n darparu’r anifail/anifeiliaid dystysgrif a roddwyd yn unol â Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021; a

C.   phan fo unrhyw fesurau lliniarol priodol fel sy’n ofynnol gan swyddogion perthnasol y Cyngor wedi’u rhoi ar waith i sicrhau lles yr anifail/anifeiliaid dan sylw ac i sicrhau nad ydynt mewn

perygl wrth gymryd rhan yn y digwyddiad.

                  IV.        gweithredu’r egwyddorion yn (II) a (III) ar gyfer digwyddiadau wedi’u trefnu gan sefydliadau eraill pan ofynnir am gydweithrediad y Cyngor ar wahân i rwymedigaethau statudol, fel mewn achos cau ffyrdd, cyhoeddusrwydd, a defnyddio adeiladau neu dir y Cyngor ac ati,

                   V.        dosbarthu’r penderfyniadau uchod i bob adran berthnasol, ac i ysgolion.

 

Wrth siarad am y Rhybudd o Gynnig, diolchodd y Cynghorydd Rose i Aelodau ar draws y Siambr am eu cefnogaeth cyn y cyfarfod a dywedodd fod lles anifeiliaid yn bwysig i bob Aelod.  Roedd pethau wedi symud ymlaen yn sylweddol ond roedd anifeiliaid yn dal i ddioddef yn ddiangen mewn cymunedau.  Cyfeiriodd at gyngor arbenigol am geirw y tu allan i’w cynefin naturiol, gan bwysleisio pwysigrwydd cadw anifeiliaid yn eu cynefin naturiol.  Roedd deg ar hugain o Gynghorau eisoes wedi gwahardd defnyddio anifeiliaid fel adloniant mewn digwyddiadau gyda 108 arall wedi cadarnhau na fyddent yn defnyddio anifeiliaid mewn digwyddiadau dros gyfnod y Nadolig. Roedd Sir y Fflint yn sefyll allan am ganiatáu defnyddio anifeiliaid mewn digwyddiadau, ac wrth gefnogi’r Rhybudd o Gynnig, byddai’n dod â Sir y Fflint yn unol ag arfer gorau.

 

Mynegodd y Cynghorydd Preece ei chefnogaeth i’r Cynghorydd Rose gan ddweud y byddai cefnogi’r Rhybudd o Gynnig, yn cefnogi lles anifeiliaid a dangos bod Sir y Fflint yn Gyngor gofalgar.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Bithell, fel Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, i’r Rhybudd o Gynnig a diolchodd i’r Cynghorydd Rose a’r Cynghorydd Preece amdano.  Cefnogodd yr hyn a gyflwynwyd i’r Aelodau. Eglurodd fod yr adran Brisio ac Ystadau wedi dechrau adolygiad yn ddiweddar o’r trefniadau trwyddedu ar gyfer rhai a oedd yn rhentu neu brydlesu tir gan Gyngor Sir y Fflint. Roedd y gwaith hwn oherwydd pryderon a godwyd am ddefnyddio anifeiliaid gwyllt fel gwobrau.  Byddai’n gofyn i swyddogion ehangu cylch gwaith cwmpas y gwaith er mwyn cynnwys y penderfyniad arfaethedig a bod y canfyddiadau’n cael eu hadrodd cyn gynted ag sy’n bosibl i’r Cabinet.  Pan fyddai’r gwaith wedi’i gwblhau, byddai angen datblygu Strategaeth Gyfathrebu er mwyn pwysleisio na fyddai Cyngor Sir y Fflint yn goddef arferion sydd wedi dyddio gymaint ar ei dir a byddai’n ceisio lliniaru unrhyw straen neu ddioddefaint i unrhyw anifail.  Byddai gwyliadwriaeth y cyhoedd a chydymffurfiaeth trefnwyr digwyddiadau yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant. 

 

Croesawodd y Cynghorydd Rose a’r Cynghorydd Preece yr ymateb a chefnogi’r awgrym bod cylch gwaith cwmpas y gwaith sy’n cael ei wneud gan yr adran Brisio ac Ystadau yn cael ei ehangu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Peers am eglurhad am ddefnyddio ceirw a mulod oherwydd bod ceirw wedi arwain gorymdaith mewn digwyddiad ym Mwcle yn ddiweddar, ac roedd fel pe bai’n derbyn gofal da a chroeso gan y plant.  Teimlai y byddai cymryd hyn oddi ar y plant yn gam yn ôl, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at y noddfa i fulod yr oedd yn ei chefnogi.  Roedd ar agor 365 diwrnod y flwyddyn er mwyn i bobl ymweld â hi ac roedd yn helpu i lunio cyswllt rhwng plant ac anifeiliaid oherwydd i’r plant nad oedd ganddynt anifail anwes, roedd hon yn ffordd o ryngweithio a dangos trugaredd.  Soniodd am y cyfle i blant gael cyfle i feithrin perthynas wrth ryngweithio gydag anifeiliaid, a bod tynnu rhai plant oddi wrth hynny yn rhywbeth negyddol. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Coggins Cogan at ei radd mewn S?oleg a dywedodd nad oedd llysysyddion yn mwynhau cael eu hamgylchynu gan gigysyddion.  Pe bai carw ar ei ben ei hun, nad oedd yn naturiol gan mai eu greddf oedd bod mewn gyrroedd, byddai’n teimlo ar wahân, wedi’i gau i mewn gyda llawer o blant o’i gwmpas.  Er y byddai’r anifail wedi’i hyfforddi i fod yn hamddenol, ni fyddai hyn yn naturiol ac ni ddylai anifeiliaid gael eu hyfforddi i guddio eu hofn, gorbryder a gofid er mwyn i bobl allu eu gweld, a bod hyn yn gywilyddus.  Roedd hefyd yn aelod o’r noddfa i fulod, a’r gwahaniaeth oedd fod mulod yn eu stablau ac roedd ganddynt gyfle i symud oddi wrth bobl oedd yn ymweld â nhw pe baent am wneud hynny oherwydd nad oeddent wedi’u cau i mewn o bob ochr.

 

Yn ei hawl i ymateb, dyfynnodd y Cynghorydd Rose o ddarn o wybodaeth gan y noddfa i fulod a oedd y dweud nad oeddent yn cymeradwyo nac yn annog defnyddio mulod na’u cymysgrywoedd mewn unrhyw fath o adloniant.  Dywedodd fod gwahaniaeth clir rhwng sefydliad a oedd wedi’i ffurfio er lles anifeiliaid a’r rhai nad oeddent wedi’u ffurfio i’r pwrpas hwn.  Cytunodd fod tosturi’n bwysig i blant ac nad oedd yn rhywbeth a welir yn ystod cyfnod y Nadolig yn unig, ond ei fod yn rhywbeth sy’n datblygu trwy gydol eu hoes.  Gan ymateb i gwestiwn a oedd yn sôn ei bod yn debyg bod y ceirw yn cael gofal da, roedd hwn yn fater oedd gan lawer o bobl nad oeddent yn gweithio ym maes lles anifeiliaid, pan fo elfennau dynol yn cael eu priodoli i anifail, pan mewn gwirionedd nad oedd eu hymddygiad naturiol yn cyd-fynd â’r hyn y byddem yn ei ddisgwyl neu ei ragweld, ac roedd o’r farn mai hyn oedd y methiant mwyaf yn y sefyllfaoedd a ddisgrifiwyd mewn digwyddiadau.

 

O’i roi i’r bleidlais, cymeradwywyd y Rhybudd o Gynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rose yn cael ei gefnogi, gan gynnwys yr awgrym gan yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Bithell, fod cylch gwaith cwmpas y gwaith sy’n cael ei wneud gan yr adran Brisio ac Ystadau yn cael ei ehangu, yn cael ei dderbyn.

Dogfennau ategol: