Agenda item

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwrpas:        Derbyn diweddariad.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i’r cyfarfod.   Rhannwyd a chyhoeddwyd ymatebion i gwestiynau a godwyd gan Aelodau cyn y cyfarfod ar y wefan.

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)

 

Fel Prif Weithredwr dros dro, rhannodd Gill Harris y wybodaeth ddiweddaraf ar newidiadau strwythurol o fewn BIPBC sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau yn Sir y Fflint.   Rhoddodd wybod, yn dilyn mesurau ymyrraeth a gyflwynwyd ar gyfer gwasanaethau fasgwlar yn Ysbyty Glan Clwyd, newidiwyd y sgoriau i adlewyrchu’r heriau presennol ac roedd cynnydd wedi’i wneud mewn perthynas â’r cynllun hirdymor i wneud gwelliannau.   Er mwyn paratoi ar gyfer heriau’r gaeaf, roedd gwaith yn mynd rhagddo i wella gofal brys yr un diwrnod ar safleoedd acíwt a pharatoi canolfannau Gofal Sylfaenol brys mewn cymunedau iechyd.   Yn ogystal â hynny, roedd BIPBC yn gweithio gyda chydweithwyr i leihau effaith y gweithredu diwydiannol a oedd ar y gweill gan weithwyr y GIG.   Roedd cynllun peilot yn mynd rhagddo i sicrhau bod modd nodi cleifion a gaiff eu rhyddhau o gartrefi gofal ac roedd cefnogaeth dros y ffôn i gartrefi gofal yn cael ei hymestyn.   Gan gydnabod effaith argaeledd cyfyngedig gofal cymdeithasol, nodwyd bod 37 o gleifion yn ysbytai Sir y Fflint yn aros i gael eu rhyddhau i ganolfannau gofal priodol.   Ar hyn, diolchwyd i’r Cyngor a phartneriaid eraill am eu gwaith i gynyddu adnoddau mewn cymunedau.   I fynd i’r afael â’r heriau sylweddol mewn perthynas â gofal wedi’i gynllunio, roedd BIPBC yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru (LlC) i greu capasiti ychwanegol i gleifion sy’n aros am gyfnodau hir.   Gan anelu at gyflawni egwyddorion arfer orau, roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda cholegau a LlC i ‘gael pethau’n iawn y tro cyntaf’.

 

Fel Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid BIPBC, nododd Sue Hill bod gwaith yn parhau gyda phartneriaid ar gamau lliniaru i fynd i’r afael â diffyg disgwyliedig o £10 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn a oedd wedi cael ei effeithio gan bwysau chwyddiant a dyraniadau cyflog.

 

Rhannodd y Cynghorydd Carol Ellis bryderon am y cyfnodau hir roedd ambiwlansiau’n aros y tu allan i ysbytai gan nad oedd modd rhyddhau cleifion, fel y soniwyd mewn adroddiad diweddar.    Gofynnodd beth oedd yn cael ei wneud i gyflymu darpariaeth Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a rhoddodd enghraifft o’r effaith ar unigolyn a gafodd ei atgyfeirio at y Gwasanaethau Cymdeithasol ddiwedd mis Awst.

 

Wrth rannu’r pryderon am y cyfnodau hir roedd ambiwlansiau’n aros y tu allan i ysbytai, rhoddodd Gill Harris sicrwydd o ymrwymiad BIPBC i fynd i’r afael â hyn, ac roedd gwaith sylweddol yn mynd rhagddo i gynyddu’r capasiti mewn Adrannau Brys drwy’r strategaeth Gofal Sylfaenol gan gynnwys cartrefi gofal a WAST.

 

Rhoddodd yr Uwch Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion wybod bod 24 o drigolion yn Sir y Fflint yn aros i gael eu rhyddhau ar draws ysbytai acíwt a chymunedol ar draws y Sir (gan gynnwys Ysbyty Iarlles Caer), ac roedd disgwyl i bedwar ohonynt gael eu rhyddhau dros y dyddiau nesaf.   Sicrhaodd aelodau eu bod yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr BIPBC i sicrhau fod cynlluniau ar waith ar gyfer bob unigolyn er mwyn rhyddhau unigolion yn ddiogel ac yn brydlon.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bill Cease am effaith sefyllfa ariannol BIPBC ar y ddyled sy’n weddill i’r Cyngor am becynnau gofal a ariennir ar y cyd.

 

Mewn ymateb i hynny, dywedodd Sue Hill nad oedd yna unrhyw effaith a bod oddeutu £0.250m wedi cael ei dalu’n ddiweddar i’r Cyngor, a chytunwyd i ostwng y ddyled ymhellach i oddeutu £0.400m.  Dywedodd fod BIPBC a’r Cyngor yn gweithio gyda’i gilydd i nodi gwaith papur perthnasol i helpu i glirio hen anfonebau, roedd rhai o’r rhain yn ymwneud ag achosion cymhleth a chostus.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) sicrwydd i Aelodau fod datrysiadau rhagweithiol yn cael eu harchwilio gyda chydweithwyr BIPBC i fynd i’r afael ag anfonebau sy’n destun dadl a gostwng y ddyled hanesyddol, gan adrodd yn rheolaidd ar gynnwys i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Tina Claydon am ddull rhagweithiol i nodi achosion cymhleth a dyrannu nyrsys arbennig i helpu i drosglwyddo cleifion i Wasanaethau Cymdeithasol.

 

Fel Cyfarwyddwr Hysbys Gofal Iechyd Dros Dro (Dwyrain) BIPBC, rhoddodd David Coyle sicrwydd fod cyfranogiad tîm hynod integredig wedi helpu i nodi anghenion cymhleth yn gynnar, gyda’r nod allweddol o symud cleifion allan o’r ysbyty yn y modd mwyaf priodol.   O ran trefniadau cyllid, cyfeiriodd at yr elfen o gyd-ariannu a pherthnasoedd gwaith cadarnhaol yn ardal y Dwyrain.

 

Ategodd yr Uwch Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion at ei sylwadau gan nodi fod y timau’n ymgysylltu’n rheolaidd â’i gilydd ac yn mabwysiadu dull pragmatig er mwyn helpu i waredu unrhyw rwystrau i ryddhau cleifion.   Amlygodd y perthnasoedd gwaith da gyda BIPBC a chydweithwyr yn Ysbyty Iarlles Caer.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Gladys Healey y gallai rhai canolfannau Meddyg Teulu ddarparu ystafelloedd Therapi Mewnwythiennol i liniaru’r pwysau ar ysbytai ar gyfer achosion lle mai’r cwbl sydd ei angen ar glaf yw gwrthfiotigau.  Adleisiwyd hyn gan y Cadeirydd a ddywedodd y gellid ymestyn y gwasanaeth hwn i ysbytai bwthyn.

 

Mewn ymateb i hynny, dywedodd David Coyle bod nifer o wasanaethau Therapi Mewnwythiennol eisoes yn cael eu darparu mewn rhai cymunedau ac y byddai hyn yn cael ei ystyried ymhellach, gan nodi’r gwiriadau a’r asesiadau diagnostig perthnasol a fyddai eu hangen o bosibl mewn rhai achosion.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Ellis at yr amseroedd aros hir o fewn y gwasanaeth Therapi Galwedigaethol ac awgrymodd y dylid llunio adroddiad ar hyn yn y dyfodol, nodwyd hyn gan y Cadeirydd.

 

Pan holodd y Cynghorydd Crease am wella staffio mewn canolfannau Meddyg Teulu, dywedodd Gill Harris bod hyn yn broblem sylweddol i bob bwrdd iechyd.   Amlygodd ystod o gamau i annog pobl i chwilio am waith yng Ngogledd Cymru ynghyd â datblygu’r ddarpariaeth hyfforddiant lleol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, rhannwyd gwybodaeth am ffrydiau gwaith o fewn y strategaeth Gofal Sylfaenol i wella sgiliau nyrsys a defnyddio therapyddion a fferyllfeydd sy’n gallu darparu presgripsiynau i leihau’r pwysau ar Feddygon Teulu.

 

Yn unol â chais y Cynghorydd Marion Bateman, cytunodd Gill Harris i ddarparu manylion ynghylch swyddi gwag o fewn canolfannau Meddyg Teulu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, roedd Gill Harris yn cydnabod y pwysigrwydd o siwrnai gadarnhaol drwy wasanaethau iechyd i gleientiaid.   Soniodd am ddatblygiad gofal brys ar yr un diwrnod a chanolfannau Gofal Sylfaenol, yn ogystal â’r gwaith a oedd yn mynd rhagddo gyda LlC i gynyddu capasiti a lleihau’r oedi mewn siwrneiau gofal a gynllunnir.   Y targed allweddol oedd gweithio gyda Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau bod cleifion yn cael eu cadw yn y lle gorau posibl, gan gydnabod effaith negyddol profiadau hir mewn lleoliadau iechyd.

 

O ran trefniadau llywodraethu, dywedodd David Coyle bod cynnwys uwch swyddogion o gynghorau Sir y Fflint a Wrecsam gyda’r uwch dîm arweinyddol wedi helpu i greu dull mwy cydlynol ac ymatebol.   Gan gydnabod yr heriau a oedd ynghlwm â phroblemau staffio mewn canolfannau Meddyg Teulu, dywedodd fod ymgysylltiad rheolaidd gyda phartneriaid wedi helpu i nodi’r meysydd sy’n ymofyn ymyrraeth gynnar i wella siwrnai cleifion.

 

Fel Cadeirydd BIPBC, croesawodd Mark Polin y drafodaeth.

 

Pan ofynnwyd am hyrwyddo’r gwasanaeth Ysbyty yn y Cartref drwy ganolfannau Meddyg Teulu, cyfeiriodd David Coyle at y camau rheoli risg hanfodol a dywedodd, er bod cynnydd da wedi’i nodi mewn perthynas â rhyngweithio rhwng timau Gofal Sylfaenol a Chymunedol, roedd yr amcan hwn yn un mwy hirdymor.   Soniodd Gill Harris am y ffrydiau gwaith ehangach gyda darparwyr eraill i godi ymwybyddiaeth am yr ystod o wasanaethau sydd ar gael i Feddygon Teulu a chleifion.

 

Nododd y Cadeirydd fod gan y tri ysbyty cymunedol yn Sir Ddinbych gyfleusterau pelydr X ond dim ond dwy Uned Mân Anafiadau gan nad oes un o’r rhain yn ysbyty Glannau Dyfrdwy.   O ran ehangu’r cynnig ym mhob ysbyty cymunedol, dywedodd Gill Harris y dylid cymryd nifer o ffactorau i ystyriaeth wrth nodi’r lleoliadau gorau ar gyfer gwasanaethau, gan nodi’r heriau cyfredol mewn perthynas â’r gweithlu.   Cadarnhaodd bod Unedau Mân Anafiadau eisoes ar gael yn Nhreffynnon a’r Wyddgrug, ac fel rhan o’r strategaeth Gofal Sylfaenol, roedd gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu canolfan Gofal Sylfaenol brys yn Ysbyty Maelor Wrecsam.   Cymrodd y cyfle i groesawu ymgysylltiad gan dimau ar ddatblygiad y strategaeth gan gynnwys y clystyrau carlam newydd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Ellis at y diffyg parhaus mewn perthynas â chapasiti Meddygon Teulu a’r effaith ar ysbytai a gwasanaethau ambiwlans.   Roedd Gill Harris hefyd yn teimlo’n rhwystredig am hyn, a dywedodd fod y datrysiadau creadigol a amlinellwyd gan gynnwys cyfeirio at argaeledd cyson ysbytai cymunedol yn helpu i wella capasiti Adrannau Brys drwy sicrhau defnydd effeithiol o wlâu mewn ysbytai.

 

O ran staffio, roedd gweithdai’n cael eu cynnal i ystyried gwahanol ffyrdd i wella prosesau recriwtio a chadw yn y sector iechyd.   Siaradodd David Coyle am y buddion o ryngweithio gwell rhwng Adrannau Brys ac ysbytai cymunedol er mwyn rhannu dysg a’r rhaglen hyfforddiant i recriwtio doctoriaid Adrannau Brys profiadol o’r DU a thramor i fod yn ymgynghorwyr yn eu maes dewisol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Marion Bateman at y buddion o hen gartrefi gofal ymadfer.   Dywedodd Gill Haris mai nod ysbytai cymunedol oedd cynnig therapïau adsefydlu ac arosiadau byr.   Aeth ymlaen i ganmol gwasanaethau Marleyfield ac roedd hi’n awyddus i archwilio hyn ymhellach.

 

Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST)

 

Cyflwynwyd y Pwyllgor i Stephen Sheldon (Rheolwr Gwasanaeth, ardal y Gogledd) a Mark Timmins (Rheolwr Ardal, y Dwyrain) o WAST.

 

Rhoddwyd cyflwyniad manwl ar gwmpas a chanlyniadau’r Adolygiad o Drefniadau Gwasanaethau Meddygol Brys a oedd yn cynnwys:

 

·         Perfformiad Coch PBC / 1 Oren PBC / Cynhyrchiant PBC

·         Diogelwch Cleifion

·         Echdyniadau

·         Digwyddiadau Cenedlaethol y Dylid eu Hadrodd

·         Adolygiad o’r Galw a’r Capasiti

·         Canfyddiadau’r Adolygiad (a materion sy’n codi)

·         Prosiect Adolygu Trefniadau Ymateb EMS

·         Ail-drefnu

·         Cwmpas Arfaethedig - Ambiwlans Brys / Uned Ymateb Aciwtedd Uchel Cymru  / Gwasanaeth Gofal Brys

·         Dadansoddi Oriau Canol a Dwyrain PBC

·         Edrych i’r Dyfodol

 

Yn ystod y cyflwyniad, cyfeiriwyd at gydweithio gyda BIPBC ar ymestyn gwasanaethau codymau a bregusrwydd ar draws cymunedau a model gweithio cylchdroadol gyda chlystyrau i rannu gwybodaeth.  Croesawyd y camau a oedd yn cael eu cymryd i leihau’r amseroedd roedd ambiwlansiau’n aros y tu allan i ysbytai a’r pwysau ar staff gan y Cadeirydd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Ellis, cadarnhawyd y byddai model gweithredu newydd yn cynyddu nifer y parafeddygon ac yn darparu nifer cyfatebol o dechnegwyr.   Rhannwyd gwybodaeth am y trefniadau cydweithio gyda BIPBC ar y Gwasanaeth Asesu a Brysbennu Integredig Unigol (SICAT) a oedd wedi helpu i leihau derbyniadau i Adrannau Brys ac wedi helpu i alluogi Parafeddygon i geisio cyngor clinigol gan Feddygon Teulu y tu allan i oriau swyddfa.   Roedd yr ap ‘Consultant Connect’ hefyd wedi helpu i gyfeirio cleifion at y gwasanaeth mwyaf priodol a helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain gyda’r gefnogaeth gywir.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at ei gwestiynau ynghylch amseroedd aros ambiwlansiau, y gwasanaeth brysbennu a chategorïau strociau, a oedd yn berthnasol i astudiaethau achos, ond hefyd yn arwydd o broblemau ehangach.   Byddai ymateb yn cael ei ddarparu, ond yn y cyfamser, dywedodd Stephen Sheldon a Mark Timmins fod y wybodaeth ddiweddaraf ar ffrydiau gwaith yn adlewyrchu’r gwaith a oedd yn mynd rhagddo i nodi llwybrau amgen i gleifion i wneud y mwyaf o adnoddau.   Er nad oeddent yn gallu cynnig sylwadau ar achosion arbennig anhysbys, eglurwyd bod y mwyafrif o strociau yn y categori oren (ynghyd â phoen yn y frest) yn ddibynnol ar yr achosion.   Eglurwyd hefyd bod system a gaiff ei chydnabod yn rhyngwladol (System Ddosbarthu Feddygol yn ôl Blaenoriaeth) yn cael ei defnyddio i frysbennu galwadau a’i harchwilio’n rheolaidd.   Yn unol â chais gan y Cadeirydd, byddai gwybodaeth am y categorïau blaenoriaeth o fewn y system honno’n cael ei rhannu â’r Pwyllgor.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Marion Bateman am waith partneriaeth arall a rhoddwyd gwybod iddo fod adnoddau ychwanegol a ddarparwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ystod y pandemig wedi helpu i gefnogi cleifion yn eu cartrefi.   Gofynnwyd hefyd am eglurhad o’r gwaith rhwng y tîm Codymau ac Ambiwlans Sant Ioan yn nwyrain y Sir i leihau cyfraddau cludo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, dywedodd Stephen Sheldon, er nad oedd gwybodaeth benodol ar gael am y system frysbennu 111, byddai galwadau a gaiff eu pennu fel argyfyngau’n cael eu hatgyfeirio at y system 999.   Amlygodd Mark Timmins pa mor bwysig oedd cael gymaint o wybodaeth â phosibl gan y galwr ac o safbwynt WAST, y brif nod oedd gwella profiad y claf.

 

Gan nodi’r agweddau cadarnhaol o’r cyfarfod, diolchodd y Cadeirydd i’r cynrychiolwyr am fod yn bresennol ac am eu hymatebion manwl i’r cwestiynau a godwyd.