Agenda item

Arolwg Cynhyrchu Newyddlenni Cynghorwyr

Cynhelir arolwg bob tymor y Cyngor, i weld a yw Aelodau angen/ eisiau defnyddio adnoddau’r Cyngor i gyhoeddi Newyddlenni ar gyfer eu Ward. Diben yr adroddiad hwn yw ceisio cymeradwyaeth i wneud hynny’r tymor hwn.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad hwn ac eglurodd bod arolwg o gynghorwyr yn cael ei gynnal bob tymor cyngor, er mwyn sefydlu a ydynt yn dymuno defnyddio adnoddau’r Cyngor i gyhoeddi eu newyddlenni ward. Diben yr adroddiad hwn oedd ceisio cymeradwyaeth i gynnal yr arolwg y tymor hwn.

            Eglurodd y Swyddog Monitro bod hyn yn cael ei adolygu bob tymor a bod y Cynghorwyr wedi penderfynu yn ystod y ddau dymor diwethaf i beidio â chaniatáu defnyddio adnoddau’r Cyngor. Yna darllenodd baragraff 7 y Cod, gan ddweud bod rôl gyhoeddus gan Gynghorwyr i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’w preswylwyr ynghylch beth sy’n digwydd yn y Cyngor, yn ogystal â rhoi amlinelliad o’r hyn maent wedi bod yn ei wneud yn eu wardiau. Roedd rhaid i Gynghorwyr fod yn ofalus eu bod yn rhannu gwybodaeth, yn hytrach na mynegi eu barn bersonol neu wleidyddol eu hunain. Dyma un o’r rhesymau pam na chafodd adnoddau’r Cyngor erioed eu defnyddio i lunio newyddlenni, gan fod y Cynghorwyr a oedd yn eu darparu eisiau rheolaeth dros yr hyn a oedd yn cael ei gynnwys ynddynt. Byddai angen fetio newyddlenni pe bai adnoddau’r Cyngor yn cael eu defnyddio. Dywedodd y Swyddog Monitro efallai y byddai’r Cynghorwyr newydd â barn wahanol am hyn. Byddai angen i’r Pwyllgor ystyried pa gyfyngiadau y dylid eu gosod ar y cyhoeddiadau ac ai mater syml o egwyddor fyddai a ydym ni’n dymuno newid polisi’r Cyngor ar hyn ai peidio.   Dywedodd bod arolwg blaenorol wedi’i gynnal gyda’r cwestiynau sydd wedi’u hatodi yn Atodiad 2, ac y byddai’r rhain yn cael eu cynnwys yn yr arolwg a’u dosbarthu i’r Cynghorwyr. Unwaith y byddai pob ymateb wedi dod i lawn, gallai’r Pwyllgor benderfynu ar y camau nesaf.

            Mewn ymateb i gwestiwn er eglurder gan David Davies, dywedodd y Swyddog Monitro y gallai’r cwestiwn ofyn “ydych chi’n llunio newyddlen yn eich rôl fel cynghorydd sir neu gyda chynghorwr neu gynghorwyr eraill”. Gellid cynnwys hyn yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pe bai’r pwyllgor yn penderfynu anfon yr arolwg.

            Roedd y Cynghorydd Antony Wren o’r farn, gan ei fod yn gyngor newydd, y dylid ei anfon er mwyn sicrhau bod yr holl Gynghorwyr newydd yn cytuno â’r sefyllfa bresennol. Cytunodd y Cynghorydd Teresa Carberry mai’r Cyngor newydd ddylai wneud y penderfyniad. 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at gwestiwn 1, gan holi a ddylid cynnwys y geiriau “ydych chi’n bwriadu llunio newyddlen”, gan nad oedd nifer o Gynghorwyr newydd o bosib wedi ystyried anfon newyddlen.

Yna gofynnodd y Cadeirydd am gynigydd bod yr arolwg yn cael ei anfon a chafodd ei gynnig gan y Cynghorydd Antony Wren a’i eilio gan y Cynghorydd Teresa Carberry.

 

Dywedodd y Cadeirydd, gan fod cytundeb i anfon y rhain, a fyddai modd cynnwys y canlyniadau yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, er mwyn i’r pwyllgor ystyried unrhyw farn a newidiadau a wnaed yn yr arolwg.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro, unwaith y byddai canlyniadau’r arolwg yn dod i law, y byddai’n galluogi gwell dealltwriaeth o’r hyn sydd ei angen gan y Cynghorwyr. Pe bai’r Cyngor newydd eisiau caniatáu i adnoddau’r Cyngor gael eu defnyddio, byddai angen datblygu set glir o ganllawiau er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Pharagraff 7 y Cod a’u bod yn anwleidyddol. Pe na bai hyn yn cael ei gefnogi, byddai’r sefyllfa’n aros yr un fath.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr arolwg diwygiedig yn cael ei anfon at Gynghorwyr a’i gynnwys fel eitem ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

Dogfennau ategol: