Agenda item

Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd

Pwrpas:        I rannu diweddariad llafar ar y sefyllfa bresennol o ran dyled hirdymor gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers yr adroddiad diwethaf.

Cofnodion:

Yn ôl y cais yn y cyfarfod diwethaf, rhoddodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) ddiweddariad ar ddyled hirdymor cyfredol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) o ran darparu pecynnau Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn Sir y Fflint.  Roedd adroddiad gyda gwybodaeth ychwanego ar lefelau dyled diweddar wedi cael ei rannu gyda’r Pwyllgor cyn y cyfarfod.

 

Ers y cyfarfod diwethaf, mae cynnydd da wedi cael ei wneud i fynd i’r afael â’r ‘mannau cul’ yn y system er mwyn gwella llif gwybodaeth a dealltwriaeth o’r broses o safbwynt y ddwy ochr.  Roedd cyfarfodydd rheolaidd ar bob lefel wedi helpu i atgyfnerthu prosesu effeithlon o anfonebau ac roedd llwybr uwchgyfeirio clir wedi cael ei sefydlu i atgyfeirio unrhyw faterion sylweddol.  Tra bod gwaith yn parhau ar anfonebau hirdymor, y prif ffocws oedd ar anfonebau diweddar gyda BIPBC yn gweithio’n galed i sicrhau taliad prydlon.  Cafodd sefyllfa anfoneb heb ei dalu o £141,917.51 ei adrodd rhwng 12 Hydref a 11 Tachwedd 2022.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at sylwadau a wnaed gan Paul Carter (BIPBC) yn y cyfarfod blaenorol fod gwybodaeth gefnogol ar goll er mwyn cefnogi taliadau o rhai o’r anfonebau hirdymor.  Ar y rhestr, croesawodd cliriad yr anfonebau diweddar ond cododd bryderon fod deg anfoneb newydd, ac roedd y ddau gyda’r gwerth uchaf yn parhau heb eu talu ac nad oedd unrhyw un o’r anfonebau hanesyddol wedi cael eu clirio, ac nid oedd hyn yn rhoi sicrwydd ar fynd i’r afael â’r dyled hirdymor.

 

Mewn ymateb, eglurodd yr Uwch Reolwr fod un o’r cyfansymiau uchaf yn ymwneud â phecyn cyfun ar gyfer tri lleoliad tu allan i’r sir.  Eglurodd fod y rhestr yn dangos sefyllfa ar gyfer holl anfonebau heb eu talu yn ystod y cyfnod, a bod gwaith yn parhau i symud ymlaen gyda’r rhain cyn gynted â phosibl.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge nad oedd y diweddariad wedi lliniaru ei bryderon am y ddyled, yn arbennig o ran sefyllfa ariannol y Cyngor.  Wrth gwestiynu os ddylai’r holl ddyledion gael eu clirio, dywedodd y dylai cyfarfodydd arweinyddiaeth gael eu cynnal yn fwy aml a dylai’r mater gael ei uwchgyfeirio drwy’r llwybr gyfreithiol.

 

Cytunodd y Cynghorydd Chris Dolphin fod hyn yn fater hirdymor difrifol, ac awgrymodd y byddai cynnwys cyfeiriad at nifer yr achosion a’r costau cysylltiedig mewn diweddariadau yn y dyfodol, yn darparu darlun mwy clir o’r ddyled sy’n weddill.

 

Wrth gydnabod y cynnydd a wnaed, dywedodd y Cynghorydd Bill Crease ei fod yn hanfodol sefydlu rhesymau dros yr oedi gyda thaliadau.  Dywedodd y dylai materion ar ochr y Cyngor gael ei ddatrys yn fewnol ac y dylai oedi yn sgil BIPBC gael eu holrhain yn gyfreithiol.

 

Mewn ymateb i sylwadau, cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at y dyfarniadau cymhleth o ran taliadau CHC a chynghorodd yn erbyn camau cyfreithiol.  Wrth gydnabod arwyddocâd y mater hwn, awgrymodd fod y canolbwynt yn parhau ar drafodaethau lefel uchel rheolaidd er mwyn datrys materion ac adeiladu ar arbenigedd mewnol er mwyn herio penderfyniadau BIPBC lle bod angen.

 

Wrth bwysleisio’r goblygiadau llif arian, cwestiynodd y Cadeirydd os fyddai protocol cenedlaethol yn egluro’r broses ar gyfer datrys anghydfodau.  Diolchodd i’r swyddog am y wybodaeth a’r sylw ar datrys anfonebau diweddar, gan ychwanegu y gallai mwy gael ei wneud i ddatrys dyledion hirdymor ac y byddai cynnwys categorïau ar gyfer dyled heb ei dalu (e.e. o dan anghydfod, anfoneb anhysbys ac ati) mewn diweddariadau yn y dyfodol, yn darparu dealltwriaeth mwy eglur.

 

Cafodd cyn ei gynnig a’i eilio fel argymhelliad ychwanegol gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Bill Crease.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar reoli cyllideb ragweithiol o anfonebau heb eu talu a godwyd gan y Cyngor ar gyfer eu talu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a

 

(b)       Bod mwy o waith yn cael ei gyflawni i ddatrys anfonebau hirdymor a bod diweddariadau yn y dyfodol yn cynnwys categorïau ar gyfer y rhesymau dros y ddyled heb ei dalu.

Dogfennau ategol:

  • Restricted enclosure