Agenda item

Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2023/24

Pwrpas:        Cael yr Adroddiad Blynyddol Drafft ar gyfer 2023/2024.

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) gyda chyfraddau taliadau arfaethedig i aelodau etholedig a chyfetholedig Awdurdodau Lleol Cymru ar gyfer 2023/24. Gofynnwyd am farn y Pwyllgor cyn i’r Cyngor gyflwyno ymateb erbyn 1 Rhagfyr 2022. Roedd angen i’r IRPW ystyried unrhyw sylwadau ar y drafft cyn cyflwyno fersiwn derfynol yr adroddiad ym mis Chwefror 2023.

 

Cyfeiriwyd at fformat diwygiedig yr adroddiad a’r dull a ddefnyddiwyd gan yr IRPW i gysoni cyflog sylfaenol cynghorwyr a chyflogau cyfartalog eu hetholwyr drwy ddefnyddio Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion 2020 (ASHE) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Roedd y cynnydd arfaethedig o rhwng 3.15% a 4.76% ymhell y tu ôl i lefel gyfredol chwyddiant.

 

Wrth roi cefndir, amlinellodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ystyriaethau'r Pwyllgor ar adroddiad IRPW 2022/23, gan gynnwys sylwadau y dylid rhoi cynyddrannau yn raddol dros gyfnod y Cyngor er mwyn osgoi'r angen am un cynnydd mawr, wrth hefyd ystyried lefelau chwyddiant ar y pryd. Awgrymodd efallai y byddai’r Pwyllgor yn dymuno ystyried cyflwyno sylwadau i’r IRPW ddefnyddio ffynonellau cymharol eraill, yn ogystal ag Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (a oedd yn ymwneud â ffigyrau 2021) er mwyn osgoi dibynnu ar un ffynhonnell ddata a sicrhau nad oedd cyflogau cynghorwyr yn disgyn y tu ôl i’r rheini roeddent yn cynrychioli. Byddai hyn hefyd yn helpu i annog amrywiaeth mewn llywodraeth leol.

 

Tynnodd y Cynghorydd Ted Palmer sylw at bwysigrwydd yr IRPW fel corff annibynnol sy’n parhau i wneud y penderfyniad terfynol a dewis unigol yr Aelodau wrth ddewis derbyn unrhyw godiadau cyflog ai peidio.

 

Eglurodd y Prif Swyddog, er bod hon yn broses annibynnol, roedd yr Aelodau etholedig yn gallu penderfynu a oeddent am dderbyn eu codiad cyflog neu os oeddent yn dymuno, gallent ddewis peidio â derbyn y codiad cyflog drwy roi gwybod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Steve Copple, eglurwyd bod adroddiadau’r IRPW wedi ystyried ond yn gwrthod seilio lwfansau ar y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Gwirioneddol oherwydd nad oeddent yn adlewyrchu enillion cyfartalog. Cytunodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd i ddosbarthu dolen i'r papur esboniadol ar wefan IRPW a oedd yn egluro'r rhesymeg dros gadw'r cysylltiad ag Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion.

 

Siaradodd y Cynghorydd Paul Johnson am yr angen i IRPW fod yn gyson wrth gyrraedd ei benderfyniadau flwyddyn ar ôl blwyddyn.

 

Mynegodd y Pwyllgor gefnogaeth i'r sylwadau a wnaed gan y Prif Swyddog.  Ar y sail honno, cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Michelle Perfect a Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Bod y Pwyllgor yn nodi'r Penderfyniadau a wnaed gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn yr Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2023/24; ac

 

(b)       Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i gyflwyno ymateb ar ran y Cyngor, gan adlewyrchu’r penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod, i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol fel a ganlyn:

 

Gofyn i’r IRPW ymhelaethu ar ffynonellau cymharol i sicrhau bod cyfraddau cyflog yn parhau’n gyfredol ac osgoi’r angen am godiad sylweddol, yn enwedig cyn etholiad.

Dogfennau ategol: