Agenda item
Gwasanaeth Cerdd Theatr Clwyd
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, Dydd Iau, 2ail Chwefror, 2023 2.00 pm (Eitem 44.)
- Cefndir eitem 44.
Darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor am y Gwasanaeth Cerdd, yn cynnwys nifer y dysgwyr.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Mr Liam Evans Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd a Mr Aled Marshman, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth, Ymddiriedaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd i’r cyfarfod, a fyddai’n amlinellu sut y gwnaethon nhw ac aelodau o Ymddiriedaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd weithio i wella’r cyfleoedd dysgu a phrofiadau myfyrwyr.
Ychwanegodd y Cadeirydd bod cael eu haddysgu am gerddoriaeth a’r sgiliau sy’n gysylltiedig â dysgu sut i chwarae offeryn wedi helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith, eu sgiliau rhesymu, eu sgiliau dysgu’n gritigol a sensitif ac fe all ddiffinio datblygiad sgiliau echddygol a gwella’r cof. Mae ochr greadigol a pherfformio’r pwnc ynghyd â gwell dealltwriaeth o’r rôl mewn cerddoriaeth a hanes a chymdeithas gyfoes i gyd yn ychwanegu at addysg lawnach i’r myfyriwr. Fel awdurdod, roedd Cyngor Sir y Fflint yn rhagweithiol yn eu hymdrechion i sicrhau bod bob myfyriwr yn cael y cyfle i wella eu profiad dysgu a hyrwyddo eu doniau, waeth pwy oeddent. Roedd hyn yn cynnwys myfyrwyr sy’n derbyn grant disgyblion a ddyfarnwyd i ysgolion i gefnogi myfyrwyr a oedd yn gymwys am un ai prydau ysgol am ddim neu a oedd yn derbyn gofal. Roedd hwn yn grant wedi’i dargedu a roddwyd i oresgyn y rhwystrau a allai atal myfyriwr rhag cyrraedd ei botensial llawn.
Cyflwynodd Mr. Liam Evans-Ford adroddiad i roi diweddariad a throsolwg o Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd yn dilyn ei 18 mis cyntaf o ddarpariaeth, fel y gosodwyd yn erbyn egwyddorion trosglwyddo cytunedig yn 2019 gan y Portffolio Addysg o fewn y Cyngor i Theatr Clwyd. Dyluniwyd y trosglwyddiad hwn i ddiogelu i ddechrau, ond hefyd i wella darpariaeth cerdd gwasanaethau addysg ymhellachi blant a phobl ifanc Sir y Fflint a oedd o danfygythiad oherwydd y pwysau ariannol cynyddol ar y Cyngor.
Wrth gyfeirio at yr adroddiad, amlinellodd Mr. Aled Marshman yr effaith negyddol yr oedd y pandemig Covid wedi’i gael ar gerddoriaeth a’r celfyddydau, gyda gostyngiad o 75% mewn dysgwyr rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mai 2020. Dywedodd y myfyrwyr hynny a oedd wedi aros gyda’r gwasanaeth pa mor bwysig yr oedd wedi bod i’w hiechyd a’u lles. Rhoddodd wybodaeth gefndir ar y trafodaethau a gynhaliwyd ym mis Medi 2020 o ran y ffordd ymlaen gyda’r penderfyniad i barhau ar-lein am y flwyddyn ond roedd hyn yn heriol ac roedd y cynnydd mewn niferoedd yn araf. Ym mis Medi 2021, gwelwyd niferoedd y dysgwyr yn dyblu wrth ddychwelyd i’r ysgol ond y nod oedd tyfu ymhellach i alluogi pob myfyriwr i gael y cyfle i fwynhau buddion cerddoriaeth yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.
Rhoddodd Mr. Marshman wybodaeth fanwl am y ddogfen gwmpasu, y polisi codi tâl a’r pum ensemble, a oedd wedi cynyddu i wyth yn dilyn y niferoedd cynyddol ym mis Medi 2022. Rhoddwyd mwy o bwyslais ar y dechreuwyr newydd i greu taith bwysig iddynt a rhoddodd wybodaeth ar hyblygrwydd y system sydd ar waith i ysgolion. Darparwyd gwybodaeth hefyd ar y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth yng Nghymru a fyddai’n cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru, yn enwedig mewn ysgolion cynradd, gyda’r pwyslais ar bob plentyn ym mlwyddyn 3 yn profi o leiaf dau dymor mewn cerddoriaeth.
Crynhodd Mr. Evans-Ford yr heriau ar gyfer y dyfodol sef y costau i ysgolion, y costau i deuluoedd a gwneud y mwyaf o’r profiadau cyntaf hynny a llwybrau parhaus.
Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden, at ei amser fel plentyn yn yr ysgol yn dysgu sut i chwarae’r piano a’r ffliwt ac wedyn fel athro gyda’r traddodiad cerddoriaeth ardderchog yn gorawl ac yn offerynnol a oedd wedi bodoli yn yr ysgolion. Soniodd am y cyfleoedd sydd ar gael trwy’r Grant Datblygu Disgyblion a mecanweithiau eraill a fyddai’n galluogi’r holl bobl ifanc i gael y profiad gwerthfawr hwn, yn gyfartal ar gyfer chwaraeon, cerddoriaeth, y celfyddydau a mynd i theatrau. Roedd yn falch o’r cynnydd a wnaed a bu iddo ddiolch i Theatr Clwyd a’r Cyfarwyddwr Cerddoriaeth am yr holl waith a wnaed yn yr ardal hon ac roedd yn eu cefnogi’n llwyr gyda’u nodau ar gyfer plant Sir y Fflint.
Diolchodd y Cynghorydd Carolyn Preece i Mr. Evans-Ford a Mr. Marshman am gyflwyno eu hadroddiad ac awgrymodd y dylid anfon llythyr at yr holl Benaethiaid i annog ysgolion i hyrwyddo darparu’r gwasanaeth cerdd, sy’n targedu plant sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim a phlant sy’n derbyn gofal yn benodol. Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r awgrym hwn.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dave Mackie o ran dysgu ar-lein a chost, cyfeiriodd Mr. Marshman at ddysgu o Covid gan ddweud bod gweithio mewn byd digidol i greu sesiwn gweithredol yn hytrach nag un goddefol wrth ddysgu dechreuwyr yn allweddol. Roedd y llwyfan ar-lein yn dal i gael ei ddefnyddio gyda’r gwersi a ddysgwyd er enghraifft ar ddefnydd microffon ac amledd offerynnau. Roedd teuluoedd yn dal i dderbyn y cynnig ar-lein ar y cyd â’r cynnig wyneb yn wyneb gan ddarparu mwy o hyblygrwydd a galluogi dysgwyr i aros gyda’r un tiwtor hyd yn oed os oeddent wedi symud y tu allan i’r ardal. Darparodd Mr. Evans-Ford wybodaeth am y costau gr?p a gafodd eu gwasgaru yn erbyn costau un i un hefyd gan ddweud bod y system codi tâl newydd yn fwy tryloyw.
Mewn ymateb i sylwadau ar brofiadau cyntaf, cadarnhaodd Mr. Marshman mai dau dymor oedd hwn a oedd yn rhad ac am ddim i ysgolion, disgyblion a theuluoedd. Ar ddiwedd y ddau dymor, trefnwyd cyngherddau i ddangos i rieni beth ellir ei gyflawni, ac wedyn rhoddwyd gwybodaeth i rieni i fynd adref gyda nhw i ystyried parhau â’r dysgu. Wrth gyfeirio at y Grant Datblygu Disgyblion a Phrydau Ysgol am Ddim, roedd yn deall yn llawn bod y cyllidebau hyn o dan bwysau ac yn gallu cael eu defnyddio mewn sawl ffordd. Roedd yn cefnogi’n llwyr yr awgrym i ysgrifennu at benaethiaid i ofyn a oes modd hyrwyddo cerddoriaeth fel un o’r dewisiadau. Amlinellodd Mr. Evans-Ford y cyfleoedd a oedd ar gael gan fod y Cyngor wedi symud i’r model presennol a oedd yn cynnwys Grantiau Ymddiriedaeth a Sefydliad. Roedd trafodaethau yn datblygu gyda’r sefydliadau hyn i gael mwy o gyllid grant nad oedd yn gysylltiedig â’r Grantiau Datblygu neu Brydau Ysgol am Ddim.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Parkhurst o ran model y strwythur codi tâl, cadarnhaodd Mr. Marshman y cafodd model y strwythur codi tâl ei greu tair blynedd yn ôl pan nad oedd costau byw ar yr un lefel ag y mae heddiw. Rhoddodd drosolwg o’r costau ar gyfer gwersi gr?p gyda’r modelu a gynhaliwyd ar y dechrau gyda’r ffi yn lleihau o £53.20 yr awr yn yr hen fodel i £38.20 yr awr yn y model newydd. Roedd y tâl fesul awr yr un peth p’un ai ei fod ar gyfer gwersi gr?p neu unigol. Dywedodd ei fod yn falch o ansawdd a safon y cysylltiadau cerddoriaeth a oedd wedi galluogi darpariaeth o’r safon uchaf. Eglurodd Mr. Evans-Ford, pan gafodd y newid hwn ei roi ar waith, y brif nod oedd cadw athrawon cerdd a gyflogwyd gan awdurdodau cyfagos sy’n dewis gwneud eu cerddorion yn ddi-waith a chau eu gwasanaethau. Cadarnhaodd mai un o’r nodau dros y blynyddoedd sydd i ddod yw parhau i leihau’r costau hynny i deuluoedd ac ysgolion.
Dywedodd y Cynghorydd Parkhurst bod y tâl fesul awr o £38.20 yr un fath ar gyfer sesiynau gr?p ac unigol yn gywir o ran y gost i ysgolion ond nid dyma’r sefyllfa ar gyfer y gost i rieni neu eraill sy’n ariannu’r gwersi cerdd lle’r oedd cymhorthdal ar gael ar gyfer sesiynau gr?p a gwersi unigol, ac felly, roedd hwn yn ddrutach ac yn costio mwy na ellir ei gyflawni drwy wersi preifat.
Amlinellodd Mr. Marshman y gwaith a gynhaliwyd dros y blynyddoedd diwethaf i wneud y wefan a’r ap yn haws i’w defnyddio. Roedd taliadau Debyd Uniongyrchol hefyd wedi’u cyflwyno i helpu teuluoedd i wasgaru’r costau. Crëwyd y wefan i wasanaethau cerdd i alluogi ysgolion, teuluoedd a’r gwasanaeth cerdd i’w defnyddio, ond roedd yn eithaf newydd ac nid oedd yn cael ei ddefnyddio’n eang yn y DU. Roedd hwn yn gromlin ddysgu ond roedd yn gwella.
Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelod Cabinet Cyllid, Cynhwysiant a Chymunedau Cryf gan gynnwys Gwerth Cymdeithasol a Chaffael mewn perthynas â chynnal peilot y profiad cyntaf, cadarnhaodd Mr. Marshman bod hwn yn waith wedi’i dargedu. Roedd cynnal peilot y profiad cyntaf yn Golftyn a Queensferry yn golygu paru pob plentyn gyda'r cydymaith cerdd gan nodi'r bobl ifanc hynny a oedd yn mwynhau ac yn ffynnu yn y sesiynau hyn. Roedd y ffurflen adborth gan yr holl ysgolion a oedd yn rhan o’r peilot yn allweddol yn ogystal â’r gwersi a ddysgwyd o’r rhaglen gaeaf llawn lles a oedd yn hanfodol i gyflawni’r niferoedd cynyddol hynny. Roedd ymgysylltu â rhieni i ddod i weld eu pobl ifanc yn mwynhau’r sesiynau ac arddangos yr hyn yr oeddent wedi’i ddysgu yn gorfod dod gan yr ysgolion. Eglurodd Mr. Ford-Evans mai’r heriau oedd cyffroi’r bobl ifanc, sicrhau bod y rhieni yn ei werthfawrogi a bod y Penaethiaid yn cymryd rhan. Roedd y straeon llwyddiannus i’w cael mewn ysgolion lle’r oedd y Penaethiaid yn hyrwyddo cerddoriaeth ac yn galluogi i’w disgyblion ddechrau ar eu taith gerddorol.
Diolchodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ar ran y portffolio addysg am y ffyrdd arloesol a chreadigol yr oedd y gwasanaethau wedi gweithio i ddiogelu rhywbeth a oedd yn cael ei werthfawrogi gymaint yn Sir y Fflint. Cymerodd amser hir i ddatblygu’r model gan weithio gyda’r gwasanaeth cerdd, ysgolion a chymdeithasau proffesiynol i sicrhau ei fod yn llwyddiannus ac roedd yn falch ei fod yn parhau i ffynnu er ei fod mewn model gwahanol. Bu iddi dalu teyrnged i Mr. Marshman a oedd, drwy ei waith yn datblygu’r Cynllun Cerddoriaeth Cenedlaethol fel y cynrychiolydd CCAC ar gyfer Sir y Fflint, wedi llywio trafodaethau ar lefel genedlaethol. Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cydnabod bod gwasanaethau cerdd o dan fygythiad ac wedi sicrhau bod symiau sylweddol o gyllid ar gael i ddiogelu’r cyfle hwn ar gyfer plant Cymru. Bu iddi amlinellu’r trafodaethau a gynhaliwyd gydag ysgolion ar sut ellir cynnal y model hwn gydag ymrwymiadau i leihau’r ffioedd a bod yr adroddiad hwn yn darparu sylfaen o lle’r oedd y gwasanaeth arni ar hyn o bryd.
Diolchodd y Cadeirydd i Mr. Evans-Ford a Mr. Marshman am eu presenoldeb a gofynnodd iddynt gyfleu diolch y Pwyllgor i’w staff am y sgiliau, brwdfrydedd, gwybodaeth a mwynhad o gerddoriaeth yr oeddent yn ei ddod i ysgolion.
Cafodd yr argymhellion, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, gyda’r argymhelliad ychwanegol i ysgrifennu at Benaethiaid fel yr awgrymwyd yn flaenorol gan y Cynghorydd Preece, eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod datblygiadau Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd, ers iddo gael ei greu, yn cynnwys yr heriau a gyflwynwyd gan y pandemig COVID-19, yn cael eu nodi;
(b) Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd bod Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd yn darparu Cynllun y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol yn gadarnhaol ac yn weithredol er budd plant a phobl ifanc yn Sir y Fflint; a
(c) Bod llythyr yn cael ei anfon, ar ran y Pwyllgor, at yr holl Benaethiaid i annog ysgolion i hyrwyddo darpariaeth y gwasanaeth cerdd, sy’n targedu plant sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim a phlant sy’n derbyn gofal yn benodol.
Dogfennau ategol: