Agenda item
Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 5)
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, Dydd Iau, 13eg Hydref, 2022 10.00 am (Eitem 38.)
- Cefndir eitem 38.
Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 5) ac amrywedd sylweddol i’r Aelodau.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ym mis 5 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried.
O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa a ragwelwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd diffyg gweithredol o £0.680miliwn (gan eithrio effaith y dyfarniad tâl y byddai angen ei dalu o arian wrth gefn, a amcangyfrifir ar hyn o bryd yn £5.268miliwn). Yn dilyn yr hawliad terfynol am Gyllid Caledi Llywodraeth Cymru (LlC) y mis hwn, byddai unrhyw gostau pellach yn ymwneud â Covid-19 yn amodol ar y broses gadarn cyn cael eu talu o’r gronfa frys wedi’i chlustnodi. Rhoddwyd trosolwg o’r amrywiadau sylweddol o fis 4 ar draws portffolios a’u heffaith ar yr alldro rhagamcanol. Roedd diweddariad ar risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy'n dod i'r amlwg yn adrodd ar y sefyllfa bresennol mewn perthynas ag incwm Treth y Cyngor, effaith dyfarniadau tâl ynghyd â galw uchel parhaus am y gwasanaeth Budd-daliadau a Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir sy’n parhau i gael eu monitro'n agos. Disgwyliwyd i bob un o’r arbedion effeithlonrwydd sydd ar y gweill yn ystod y flwyddyn gael eu cyflawni yn 2022/23. Arweiniodd adolygiad o'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd at ryddhau £1.208miliwn i'r Gronfa Wrth Gefn i gynyddu'r balans rhagamcanol i £7.724miliwn (ac eithrio effaith dyfarniadau tâl).
O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gwariant a ragwelir yn ystod y flwyddyn o £3.308miliwn yn uwch na'r gyllideb yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.166miliwn, a oedd yn uwch na'r canllawiau gwariant a argymhellir.
Mewn ymateb i gwestiynau gan
y Cadeirydd ar y Cyfrif Refeniw Tai, dywedodd y Rheolwr Cyllid
Corfforaethol fod y cyfraniad yn ystod y flwyddyn ar gyfer gwaith
cyfalaf ychwanegol yn ymwneud â chynllun presennol yng
Nghoed-llai. Cytunodd y byddai ymateb ar wahân yn cael ei
ddarparu ar y rhesymau y tu ôl i golli incwm oherwydd y tai
gwag a ddangosir yn Atodiad 5.
Ar yr un testunau, dywedodd y Prif Weithredwr bod cyfeiriad at gynllun Coed Llai wedi’i gynnwys yn adroddiad y Cabinet ym mis Gorffennaf. Rhoddodd sicrwydd bod gwaith helaeth yn cael ei wneud ar hyn o bryd i leihau nifer y tai gwag, fel yr adroddwyd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau, Tai ac Asedau ym mis Medi.
Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge am y rhesymau dros yr amrywiad o £0.077miliwn mewn Gwasanaethau Adnoddau a Gwasanaethau wedi’u Rheoleiddio ac a oedd hyn yn gysylltiedig â newidiadau yn y trefniadau ar gyfer arlwyo/glanhau cartrefi gofal. Cytunodd y Rheolwr Cyllid Strategol i ymgorffori ymateb yn y papur briffio a ddarperir ar y gorwariant ar ofal preswyl mewnol. Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol eglurhad ar y gwarged Treth y Cyngor a ragwelir yn gyffredinol a'r dull o ragamcanu incwm ar becynnau gofal.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Sam Swash ar y Cynllun Datblygu Lleol, eglurodd swyddogion y defnydd o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ble roedd gwariant wedi bod yn fwy na chronfeydd wrth gefn y prosiect.
Pan ofynnodd y Cadeirydd am adolygiad pellach o’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adolygiad trylwyr a wnaed eisoes i herio cronfeydd wrth gefn ar draws y sefydliad wedi sicrhau bod darpariaeth yn cael ei chadw ar gyfer rhwymedigaethau yn y dyfodol, elfennau penodol ac elfennau o arfer rheoli da.
Mewn ymateb i ymholiadau pellach, nododd swyddogion y pennawd portffolio anghywir yn Nhabl 1 a byddent yn darparu ymateb ar wahân ar gyfer yr addasiad cyfrifeg o £0.053miliwn yn y Cyllid Canolog a Chorfforaethol yn ymwneud ag IFRS 9. Yn ystod trafodaeth ar yr addasiad o £0.190miliwn yn adran 1.08, byddai'r Rheolwr Cyllid Strategol yn darparu dadansoddiad ar wahân o effaith hyn a chostau eraill a drosglwyddwyd o'r cronfeydd wrth gefn brys Covid-19 a glustnodwyd i ddangos y sefyllfa ddiweddaraf.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Rob Davies.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (mis 5), fod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet.
Dogfennau ategol:
- Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 5), eitem 38. PDF 76 KB
- Enc. 1 - Cabinet report, eitem 38. PDF 911 KB