Agenda item

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd dan bwerau dirprwyedig.  Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:-

 

Tai ac Asedau

 

  • Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Mae hyn yn ymwneud â Throsglwyddo Ased Cymunedol T? Calon, Chester Road West, Glannau Dyfrdwy.

 

  • Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Mae hyn yn ymwneud â Throsglwyddo Ased Cymunedol Clwb Criced Bwcle, Lane End Ground, Chester Road, Bwcle.

 

Refeniw

 

  • Rhent Tai Cyngor – Diddymu Hen Ôl-ddyledion Tenantiaeth

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a

rhai na ellir eu hadennill sydd dros £5,000 yn cael eu hystyried ar gyfer eu diddymu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol. Mae'r penderfyniad i ddiddymu yn ymwneud â 2 achos o rent heb ei dalu. Yn dilyn y camau a gymerwyd, ystyrir bod yr hen ôl-ddyledion tenantiaeth ym mhob achos yn rhai na ellir eu hadennill ac nid oes unrhyw obaith o sicrhau taliad. Cyfanswm y rhent heb ei dalu yn gysylltiedig â’r ddau yw £13,003.98.

 

  • Diddymu Ardrethi Busnes

Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Llywodraethu a Rheolaeth Gorfforaethol ddiddymu dyledion rhwng £5,000 a £25,000. Mae dwy ddyled Ardrethi Busnes heb eu talu sydd â chyfanswm o £15,133.81, a ddiddymwyd ar gyfer dyledion rhwng 2019/20 a 2021/22 yr ystyrir nad oes modd eu hadennill.

 

  • Diddymu Treth y Cyngor

Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Llywodraethu a Rheolaeth Gorfforaethol ddiddymu dyledion rhwng £5,000 a £25,000. Mae tri dyled Treth y Cyngor heb eu talu sydd â chyfanswm o £26,224.98 yr ystyrir nad oes modd eu hadennill, ac ystyrir bod angen eu diddymu.

 

  • Diddymu Rhent Tai Cyngor

Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Llywodraethu a Rheolaeth Gorfforaethol ddiddymu dyledion rhwng £5,000 a £25,000. Mae dwy ddyled Ardrethi Busnes heb eu talu sydd â chyfanswm o £15,133.81, a ddiddymwyd ar gyfer dyledion rhwng 2019/20 a 2021/22 yr ystyrir nad oes modd eu hadennill.

 

  • Diddymu Rhent Tai Cyngor

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a

rhai na ellir eu hadennill sydd dros £5,000 yn cael eu hystyried ar gyfer eu diddymu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol. Mae’r penderfyniad i ddiddymu yn ymwneud â dau achos o rent heb ei dalu lle mae’r tenantiaid yn ddarostyngedig i ansolfedd. Ystyrir nad oes modd adennill y dyledion ac nid oes unrhyw obaith o sicrhau taliad. Cyfanswm y rhent heb ei dalu yn gysylltiedig â’r ddau achos hyn yw £15,324.75.

 

Addysg ac Ieuenctid

 

  • Llywodraethwyr Ysgol a Benodir gan yr Awdurdod Lleol

Penodi cynrychiolwyr Llywodraethwr/ Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.

 

Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi

 

  • Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Cytunodd y Cabinet yn y cyfarfod ar 12 Gorffennaf, ymhlith pethau eraill, y dylid rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a’r Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi i ddatblygu a chyflwyno blaenoriaethau Sir y Fflint i gael eu cynnwys yn y Cynllun Buddsoddi rhanbarthol i ganiatáu i’r cyllid gael ei ddefnyddio. Gwnaeth hefyd awdurdodi Cyngor Sir Gwynedd i weithredu fel y corff arweiniol i gyflwyno’r Cynllun Buddsoddi rhanbarthol i Lywodraeth y DU ar ran y chwe awdurdod yng Ngogledd Cymru.

 

Strydwedd a Thrafnidiaeth

 

  • Cyngor Sir y Fflint – B5441 Drome Road a Green Lane West, Glannau Dyfrdwy – Gwaharddiad Arfaethedig i Aros Ar Unrhyw Adeg

Hysbysu’r Aelodau o’r gwrthwynebiadau a ddaeth i law yn dilyn hysbysebu’r Gwaharddiad i Aros ar Unrhyw Adeg ar B5441 Drome Road a Green Lane West, Glannau Dyfrdwy.

Dogfennau ategol: