Agenda item
Polisi Pás Cerbyd i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Ty
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi, Dydd Mawrth, 15fed Tachwedd, 2022 10.00 am (Eitem 29.)
- Cefndir eitem 29.
Adolygu gweithrediadau a meini prawf pás cerbyd ar gyfer canolfannau ailgylchu gwastraff t?.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) yr adroddiad. Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn darparu trosolwg o effaith y polisi diwygiedig ynghyd â manylion yr adolygiad a gynhaliwyd a’r cynigion ar gyfer diwygio’r polisi. Cyflwynwyd ystyriaethau pellach
ar weithrediadau ehangach Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref gyda’r bwriad o gyflwyno arbedion a gwelliannau pellach i’r gwasanaeth.
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio yr adroddiad a darparodd drosolwg o’r prif ystyriaethau mewn perthynas â gweithredu’r polisi pas cerbyd yn yr adroddiad. Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio at y ddau weithdy i aelodau a gynhaliwyd yn ystod mis Medi 2022 i gynnal adolygiad o’r polisi er mwyn i Aelodau allu cyflwyno adborth neu bryderon yr etholwyr i swyddogion. Ehangwyd yr adolygiad i gynnwys gweithrediadau ehangach y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, gyda’r bwriad o gyflwyno gwelliannau pellach i’r gwasanaeth ac arbedion effeithlonrwydd a chynyddu’r cyfleoedd ar gyfer ailgylchu. Roedd manylion yngl?n â chynnwys y gweithdai ynghlwm wrth yr adroddiad.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio, yn dilyn gwerthusiad o’r adborth a ddarparwyd o’r gweithdai, bod nifer o gynigion wedi cael eu cyflwyno i’w hystyried. Roedd sylwadau’r Aelodau, yr ystyriaethau cysylltiedig i’w hadolygu ac, yn dilyn gwerthusiad o fanteision ac anfanteision yr ystyriaethau hynny, canlyniad arfaethedig ar gyfer bob sylw, wedi’u nodi yn Atodiad 3 yr adroddiad. Ysgrifennwyd y canlyniadau arfaethedig mewn dogfen bolisi ddiwygiedig i’w hystyried. Roedd y diwygiadau a’r cymalau newydd i’w cynnwys yn y polisi wedi’u hamlygu yn Atodiad 4.
Hefyd, adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio ar welliannau pellach i wasanaeth ac arbedion effeithlonrwydd mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ac fe gyfeiriodd at y cynigion o ran y gwasanaeth archebu, codi tâl am waredu gwastraff (Masnachol / Elusen), oriau agor amgen a chodi tâl am gyflyrwr pridd.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Roy Wakelam at dudalen 55, Atodiad 4 yn yr adroddiad, a gofynnodd a fyddai modd diwygio’r pwynt bwled ‘cerbyd symudedd’ i ‘unrhyw gerbyd symudedd’. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio y gellid rhoi eglurder o ran cyfyngiadau uchder a hyd y cerbyd yn y polisi.
Mynegodd y Cynghorydd Mike Peers bryderon yngl?n â’r rheswm dros wrthod cerbydau gydag arwyddion ysgrifenedig arnynt gyda gwastraff masnachol yn benodol a dywedodd nad oedd y polisi yn cynnwys unrhyw beth nad oedd yn gysylltiedig â gwastraff masnachol. Gofynnodd bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i eithriad ar gyfer preswylwyr â cherbydau ag arwyddion ysgrifenedig arnynt ac nad ydynt yn gysylltiedig â busnes, nac yn cynhyrchu gwastraff masnachol, a lle’r oedd y cerbyd wedi’i gofrestru i eiddo preswyl ac yn destun treth y cyngor. Gofynnodd bod y polisi’n cael ei ddiwygio i adlewyrchu’r amgylchiadau hynny, neu’n cael ei oedi er mwyn i’r Gwasanaethau Stryd allu datblygu eithriad.
Cynigodd y Cynghorydd Peers y dylai’r polisi gael ei ddiwygio i roi pas i’r preswylwyr hynny sydd â cherbyd gydag arwydd ysgrifenedig arno ond nad ydynt yn cynhyrchu gwastraff masnachol nac ychwaith yn gysylltiedig â’r diwydiant adeiladu, ond yn hytrach yn defnyddio’r cerbyd i hyrwyddo eu busnes er budd y gymuned, a dywedodd fod hyn wedi’i ganiatáu yn y gorffennol. Roedd y Cynghorydd Peers o’r farn y dylid cael “system dwy haen” ac y gellid gwella’r sefyllfa bresennol drwy’r wybodaeth a ddarperir wrth wneud cais am bas, a fyddai’n rhoi’r hawl i breswylwyr gael gwared ar eu gwastraff cartref. Wrth ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Peers, eglurodd y Prif Swyddog ei fod yn faes heriol i’w reoli a’i blismona, oherwydd bod llawer iawn o wastraff masnachol yn debyg i wastraff y cartref ac felly mae’n anodd gwahaniaethu rhwng y gwastraff a gynhyrchir gan eiddo domestig, ond sy’n fwy tebygol o gael ei gludo gan gerbyd masnach. Siaradodd y Prif Swyddog am y potensial ar gyfer mwy o geisiadau am basys a fyddai’n effeithio ar gyfraddau ailgylchu a gwastraff.
Awgrymodd y Cynghorydd Peers y dylid diwygio'r Polisi fel a ganlyn: lle mae’r polisi’n nodi na fyddai cerbydau ag arwyddion ysgrifenedig yn cael eu caniatáu, dylai hyn fod yn berthnasol i gerbydau masnach yn gysylltiedig â gwastraff masnachol ac yn Adran 2 - gwirio’r cerbydau o dan y cerbydau a ganiateir, bydd cerbyd ag arwydd ysgrifenedig yn cael ei ganiatáu ar yr amod ei fod wedi’i gofrestru i gyfeiriad preswyl yn Sir y Fflint at ddibenion treth y Cyngor, nid yw’n cynhyrchu unrhyw wastraff busnes neu fasnachol a’r unig wastraff a waredir yw gwastraff domestig. Awgrymodd y Cynghorydd Peers y gallai hyn fod yn rhan o’r broses ac y gellid ei wirio, a gallai’r cerbyd gael ei wirio a’i fonitro gan y gweithiwr wrth iddo gyrraedd safle’r Ganolfan.
Eiliodd y Cynghorydd Richard Lloyd y cynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Peers. Siaradodd y Cynghorydd Lloyd o blaid system codi tâl i alluogi preswylwyr i dalu i eitemau swmpus gael eu cludo i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref er mwyn eu gwaredu os nad ydynt yn gallu cludo’r eitemau eu hunain.
Ymatebodd y Prif Swyddog i’r sylwadau a’r cwestiynau a godwyd gan Aelodau.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorwyr Dan Rose a Mike Peers.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r adolygiad a gynhaliwyd ac yn cefnogi’r diwygiadau arfaethedig i’r Polisi Pas Cerbyd ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, gan ychwanegu’r diwygiad a nodwyd uchod am gerbydau â logos a gwastraff masnachol;
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r awgrym i gynnwys teiars fel llif gwastraff ychwanegol ar system archebu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref er mwyn rheoli a lleihau gwastraff: a
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynigion ychwanegol i wella gwasanaethau a rheolyddion gweithredol Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Dogfennau ategol:
- Household Recycling Centre Vehicle Permit Policy, eitem 29. PDF 122 KB
- Appendix 1 - Household Recycling Centre Vehicle Permit Policy, eitem 29. PDF 75 KB
- Appendix 2 - Household Recycling Centre Vehicle Permit Policy, eitem 29. PDF 1 MB
- Appendix 3 - Household Recycling Centre Vehicle Permit Policy, eitem 29. PDF 72 KB
- Appendix 4 - Household Recycling Centre Vehicle Permit Policy, eitem 29. PDF 408 KB
- Appendix 5 - Household Recycling Centre Vehicle Permit Policy, eitem 29. PDF 58 KB