Agenda item

Addysg Ddewisol yn y Cartref

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar lefel y disgyblion sy’n derbyn Addysg Ddewisol yn y Cartref i’r Pwyllgor ar lefel y disgyblion sy’n derbyn Addysg Ddewisol yn y Cartref a goruchwyliaeth y Cyngor o’r dysgwyr hyn.

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr – Cynhwysiant a Dilyniant adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth ar nifer y plant a oedd yn derbyn addysg ddewisol yn y cartref.   Darparodd yr adroddiad wybodaeth ar yr oedrannau a’r niferoedd ar gyfer Sir y Fflint, a oedd yn is na’r cyfartaledd yng Nghymru ar hyn o bryd, a darparwyd amlinelliad o ganran y disgyblion a oedd yn derbyn Addysg Ddewisol yn y Cartref a phryd roedd hyn yn digwydd, nodwyd bod blwyddyn 7 yn flwyddyn dyngedfennol ar gyfer hyn wrth i blant symud i’r ysgol uwchradd.

 

             Nododd yr Uwch Reolwr nad oedd rhaid i rieni geisio cymeradwyaeth na rhoi gwybod i’r Awdurdod eu bod yn dewis addysgu eu plentyn gartref.    Roedd prosesau ar waith er mwyn gallu gofyn cwestiynau i rieni a darparu cyngor a chymorth iddynt ac amlinellodd rhai o’r rhesymau a roddwyd gan rieni.    Nid oedd yn ofynnol i’r Awdurdod ddarparu cefnogaeth ariannol i rieni, ond roedd cyllid grant ar gael i helpu gyda hyn a gwaith yn mynd rhagddo gyda theuluoedd i benderfynu ar y ffordd orau i ddefnyddio’r adnodd. Roedd yn ddyletswydd ar yr Awdurdod i fonitro’r teuluoedd, a phe bai unrhyw bryderon yn codi, gallai’r Awdurdod gyflwyno Gorchymyn Mynychu’r Ysgol ac enwebu ysgol i’r plentyn ei mynychu.   Nid oedd unrhyw orchmynion wedi’u cyflwyno yn y flwyddyn ddiwethaf.    Darparwyd gwybodaeth ar rôl monitro’r gwasanaeth a phenodiad y Swyddog Cefnogi Addysg a oedd yn cael ei gefnogi gan y Gwasanaeth Lles Addysg mewn perthynas â chodi pryderon.   Roedd y Swyddog Cefnogi Addysg wedi derbyn ymateb cadarnhaol i gyfarfodydd, ac amlygodd rhai o’r materion a godwyd gan rieni a’r datrysiadau a nodwyd.   Roedd yr Awdurdod yn rhan o’r fforymau rhanbarthol a chenedlaethol a darparwyd sicrwydd y byddai canllawiau diwygiedig yn cael eu darparu flwyddyn nesaf.   Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cynnig cronfa ddata o bob disgybl a oedd yn derbyn addysg yn y cartref, ond roedd y gymuned Addysg Ddewisol yn y Cartref yn gwrthwynebu’r cynnig hwn, felly byddai’n rhaid aros am ganllawiau mewn perthynas â hyn.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dave Mackie, diolchodd yr Uwch Reolwr iddo am ei sylwadau cadarnhaol, a dywedodd y byddai hi’n rhannu’r rhain â’r tîm.   O ran grwpiau neu debygrwydd, dywedodd fod hyn yn amrywio gyda rhai’n dal i brofi lefelau uchel o orbryder, ac roedd y plant hyn yn gallu cael mynediad at eu haddysg y tu allan i’r ysgol.   Eglurodd fod rhai rheini’n dewis gwneud hyn o ganlyniad i’r pwysau sydd ynghlwm â phresenoldeb yn yr ysgol.   Roedd y Gwasanaeth Lles Addysg yn herio rhieni mewn perthynas â hyn gan ofyn ai dyma oedd y dewis cywir i’r unigolyn ifanc ac a oedd sylwadau a chyfranogiad yr unigolyn ifanc yn cael eu cynnwys yn y broses hon.    Tynnodd sylw hefyd at nifer y disgyblion a oedd wedi dychwelyd i’r ysgol yn dilyn gwaith rhagweithiol gan yr ysgol a’r tîm.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst ynghylch monitro plant nad ydynt yn derbyn addysg, nododd yr Uwch Reolwr fod cydweithwyr ym maes iechyd yn hysbysu’r Awdurdod am blant ym mlwyddyn meithrin a derbyn yn flaenorol.   Roedd hyn yn eu galluogi i gysylltu gyda’r rhieni hynny os nad oedd plant wedi cofrestru mewn ysgol, ond heriwyd yr Awdurdod mewn perthynas â hyn a nodwyd nad oedd ganddynt hawl i’r wybodaeth hon.   Nid oedd yn ofynnol i riant gofrestru gyda’r Awdurdod os nad oeddent wedi bod mewn ysgol.   Roedd LlC wedi gobeithio mynd i’r afael â hyn drwy’r gronfa ddata genedlaethol ond roedd lobïo cryf gan y gymuned Addysg Ddewisol yn y Cartref yn erbyn hyn.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Parkhurst ar gydweithio, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr bod perthnasoedd cryf ar draws gwasanaethau’r Cyngor gyda Swyddog Lles Addysg sy’n rhan o’r Ganolfan Cymorth Cynnar.  Roedd modd cysylltu â rhieni i drafod yr addysg a ddarperir ond nid oedd ganddynt hawl i gael mynediad i eiddo.   Byddai unrhyw bryderon yn cael eu codi gyda chydweithwyr o’r Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn iddynt drefnu ymweliad.

 

            Cadarnhaodd yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu - Ymgysylltu bod nifer o asiantaethau partner ac Awdurdodau Lleol eraill ar draws Cymru ynghlwm â sicrhau bod modd nodi pobl sy’n symud i’r ardal.   Roedd partneriaeth gadarn a chydlynol â’r Tîm Cymunedol, Gwasanaeth Ieuenctid a’r Tîm Datblygu hefyd a oedd allan yn y gymuned yn gyson yn siarad gyda phobl ifanc ac roeddent yn aml yn rhoi gwybod am blant nad ydynt yn mynychu’r ysgol er mwyn gallu gwneud ymholiadau diogelu lle bo angen. 

 

            Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Bill Crease mewn perthynas â phlant yn disgyn drwy’r broses wrth symud o un Awdurdod i’r llall, dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod y portffolio’n rhannu’r pryderon hyn.    Nododd fod y Pwyllgor blaenorol wedi ysgrifennu at LlC yn gofyn cwestiwn penodol am eu bwriad i greu cronfa ddata genedlaethol.   Roedd nifer o rieni wedi gwneud y penderfyniad hwn ac yn amddiffyn eu hawl i wneud y penderfyniad hwnnw, ac roedd yn rhaid parchu hynny.    Roedd gan yr Awdurdod hefyd gyfrifoldebau sylweddol mewn perthynas â diogelu plant a phobl ifanc ac yn teimlo bod y systemau mor gadarn ag y gallant fod yn absenoldeb y gronfa ddata.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Gladys Healey ynghylch diogelu a lefel yr addysg a ddarperir, dywedodd y Prif Swyddog fod y portffolio’n rhannu’r pryderon hyn, ond nododd fod yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr a’r Uwch Ymgynghorydd Dysgu wedi cynnig sicrwydd i Aelodau.   Dywedodd fod yr Awdurdod yn gwneud eu gorau o fewn eu cylch gwaith a’u pwerau i weithio mewn modd adeiladol gyda theuluoedd a oedd wedi gwneud y dewisiadau hynny ac yn ymgymryd â gwaith monitro gan godi unrhyw bryderon diogelu gyda’r tîm Gwasanaethau Plant.   Roedd yr Awdurdod yn parhau i roi pwysau ar LlC am y gronfa ddata genedlaethol, a chytunwyd â sylwadau’r Cynghorydd Healey ei fod yn hanfodol bod bob plentyn yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth i gyflawni eu potensial yn hwyrach ymlaen yn eu bywydau a’r sgiliau craidd angenrheidiol.

 

            Diolchodd y Cadeirydd i’r Uwch Reolwr a’i thîm a nododd nad oedd hi wedi synnu â’r cynnydd yn y niferoedd mewn ysgolion uwchradd gyda disgyblion yn trosglwyddo o’r ysgol gynradd.  Soniodd am ei hymweliadau â disgyblion mewn ysgolion cynradd a oedd yn symud i fyny i’r ysgol uwchradd, a dywedodd mai’r rhieni oedd y rhai pryderus yn aml iawn.   Roedd yn ddealladwy bod y ddwy flynedd diwethaf wedi ychwanegu at y pryderon hynny a’r effaith yn amlwg gyda phlant yn treulio llai o amser gyda’u ffrindiau.   Roedd gwaith y tîm yn hynod o bwysig.

 

Awgrymodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor yn ysgrifennu at LlC i amlinellu eu pryderon mewn perthynas â’r angen am gronfa ddata genedlaethol.   Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn cefnogi’r awgrym hwn. 

 

            Cafodd yr argymhelliad, a amlinellwyd o fewn yr adroddiad, ynghyd ag argymhelliad ychwanegol i ysgrifennu llythyr at LlC i’w hannog i greu cronfa ddata genedlaethol o blant sy’n derbyn addysg yn y cartref, ei gynnig gan y Cynghorydd Bill Crease a’i eilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.  

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cydnabod y pwysigrwydd o barhau i neilltuo amser swyddogion i gefnogi a monitro darpariaeth ar gyfer y gr?p arbennig hwn o blant; ac

 

(b)       Ysgrifennu llythyr at Lywodraeth Cymru i’w hannog i greu cronfa ddata genedlaethol o blant sy’n derbyn eu haddysg gartref.  

 

Dogfennau ategol: