Agenda item
Cynllun Chwarae Haf Sir y Fflint 2022
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, Dydd Iau, 20fed Hydref, 2022 2.00 pm (Eitem 29.)
- Cefndir eitem 29.
Darparu adborth ar Gynllun Chwarae Haf Sir y Fflint 2022.
Cofnodion:
Gan gyflwyno’r adroddiad, dywedodd yr Uwch Reolwr - Darpariaeth Ieuenctid Integredig bod Cynlluniau Chwarae’r Haf wedi bod yn cael eu cynnal yn llwyddiannus ers 1996. Darparodd wybodaeth ar y 57 o gynlluniau chwarae a oedd yn cynnwys meini prawf ar gyfer safleoedd, a chyfranogiad 30 o Gynghorau Tref a Chymuned a’r 2 safle sy’n targedu’r Gymraeg. Roedd dull dwyieithog yn cael ei ddatblygu gyda phob gweithiwr chwarae a oedd yn derbyn hyfforddiant Cymraeg. Dros yr haf, cafwyd bron i 4,000 o gofrestriadau, gyda 15,500 yn mynychu’r sesiynau 2 awr, roedd y data’n cael ei gasglu’n ddigidol ar gyfer bob sesiwn. Roedd hyn yn galluogi rhieni i gofrestru eu plant cyn mynychu er mwyn sicrhau bod y sesiynau’n cael eu cynnal yn llyfn gyda gwybodaeth mewn perthynas â’r plant eisoes wedi’i huwchlwytho. Amlinellodd yr Asesiadau Risg Iechyd a Diogelwch ar-lein a’r refeniw gan Gynghorau Tref a Chymuned, y Grant Gwaith Chwarae a’r Grant Haf o Hwyl i gefnogi’r cynlluniau. Roedd y sefyllfa mewn perthynas â’r cyllid ar gyfer Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles yn parhau i fod yn aneglur. Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr hefyd at yr ymgynghoriad a gwblhawyd gyda’r bobl ifanc a’u teuluoedd a gafodd ei fwydo’n ôl er mwyn datblygu’r ddarpariaeth, ac amlinellodd sut y gellid datblygu’r ddarpariaeth chwarae ymhellach.
Myfyriodd yr Uwch Reolwr ar y gwaith a gwblhawyd gan Janet Roberts dros y 26 mlynedd diwethaf. Roedd Janet yn ymddeol ac roedd arno eisiau diolch iddi’n bersonol am ei chefnogaeth. Roedd hi’n gadael y gwasanaeth mewn sefyllfa gadarnhaol gyda 90 o bobl ifanc wedi’u cyflogi dros yr haf a rhai’n ymuno â’r Gwasanaeth Ieuenctid.
Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie ei fod yn drist pan glywodd fod Janet yn gadael, a myfyriodd ar y trafodaethau yr oedd wedi’u cael gyda hi yn y Pwyllgor dros y blynyddoedd. Cyfeiriodd at weithdai yr oedd wedi’u mynychu gyda Janet, dywedodd fod ei brwdfrydedd yn amlwg, a’i fod wedi bod yn bleser bod yn rhan o’i siwrnai.
Gan gyfeirio at yr adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Mackie yr hoffai fod wedi gweld yr amcanion a gwybodaeth ynghylch yr hyn roeddent yn ceisio ei gyflawni yn ystod paratoadau’r cynlluniau chwarae ynghyd â’r canlyniadau yn yr adroddiad. Teimlai y byddai hyn yn galluogi’r Pwyllgor i ddeall cyfeiriad y gwasanaeth a gofyn cwestiynau. Mewn ymateb i hynny, ystyriodd yr Uwch Reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig bwyntiau’r Cynghorydd Mackie gan ddweud y byddai’r gwasanaeth yn gweithredu system newydd ym mis Ionawr, a fyddai’n galluogi proses ar gyfer mapio’r ddarpariaeth yn erbyn yr asesiad cyfleoedd chwarae digonol a data lleol eraill. Amlinellodd sut fyddai’r data’n amlygu’r rhesymau pam fod cynlluniau’n cael eu lleoli mewn cymunedau arbennig, y fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau a ble nodwyd darpariaeth gynaliadwy.
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Carolyn Preece, cytunodd y Prif Swyddog i fynd i’r afael â’r mater mewn perthynas â’r llythyrau i Gynghorau Tref a Chymuned er mwyn ceisio cael yr hysbysiadau allan yn gynt yn ogystal â dangos effaith y cyfraniadau ar y cynllun. Gan gyfeirio at y pwynt ynghylch Haf o Hwyl, cadarnhaodd y byddai’r Cyngor yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru am gyllid pellach ar gyfer lles emosiynol a chorfforol pobl ifanc.
Roedd y Prif Swyddog yn falch bod Janet Roberts (Swyddog Datblygu Chwarae) yn bresennol heddiw er mwyn gallu diolch iddi am ei blynyddoedd o wasanaeth yng Nghyngor Sir y Fflint. Roedd ei hymrwymiad i bopeth yn ymwneud â chwarae yn elfen allweddol o gymhelliant ac uchelgais Janet i sicrhau llwyddiant y rhaglen cynllun chwarae. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ar yr ystod o gyfleoedd a ddarparwyd i blant a phobl ifanc drwy’r cynlluniau chwarae. Diolchodd y Swyddog Datblygu Chwarae i’r Cynghorydd Mackie a’r Uwch Reolwr am eu sylwadau. Dywedodd fod y gwaith yn hynod o bwysig a diolchodd i aelodau am eu cefnogaeth. Diolchodd i’w Prif Swyddog a’i Rheolwyr Atebol dros y 26 mlynedd diwethaf am eu cefnogaeth. Dywedodd ei bod yn angerddol am weithio gyda phlant y sir, a’i bod wedi cael pleser yn gwneud hynny. Roedd y rhaglen yn darparu cyfnodau o les i blant a phobl ifanc, a gyda chynlluniau megis y cynllun cyfeillio, cefnogaeth i blant o Wcráin a phlant sy’n derbyn gofal, y sesiynau chwarae dwy awr hyn oedd y llefydd mwyaf diogel i rai plant.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr adroddiad a oedd yn defnyddio’r termau “plant ag anableddau” a “phlant diamddiffyn”, a nododd mai’r termau a ffafrir bellach oedd plant anabl a phlant mewn perygl. Gan gyfeirio at y gefnogaeth a ddarperir i blant o Wcráin, gofynnodd a oedd teuluoedd o Syria ac Affganistan yn cael eu cefnogi hefyd. Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod cefnogaeth yn cael ei darparu i blant o Syria ac Affganistan.
Siaradodd y Cadeirydd gyda Janet gan ddweud, er nad oeddent wedi cwrdd, ei bod wedi clywed llawer o sôn am ei gwaith ac ar ran y Pwyllgor, rhoddodd anrheg fechan iddi i ddiolch am ei gwaith.
Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Preece ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Ryan McKeown.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cydnabod y bartneriaeth effeithiol gyda Chynghorau Tref a Chymuned lleol i ddarparu’r cynllun chwarae cyffredinol i blant rhwng 5 a 12 oed ar draws y sir yn ystod yr haf a Chynllun Cyfeillio Sir y Fflint i blant anabl rhwng 5 ac 17 oed;
(b) Bod y Pwyllgor yn cydnabod y cyfraniad gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer cynllun chwarae’r haf drwy’r grant Gwaith Chwarae Dros y Gwyliau ac yn annog LlC i barhau i gynnig y cyllid hwn; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r datblygiadau parhaus o fewn y gwasanaeth i gryfhau’r perthnasoedd gyda sefydliadau partner er mwyn sicrhau bod y plant sy’n wynebu’r perygl mwyaf yn Sir y Fflint yn cael eu nodi a’u bod yn cael cyfle i chwarae dros yr haf.
Dogfennau ategol: