Agenda item
Darpariaeth Ieuenctid Integredig - Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Cyflawni
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, Dydd Iau, 1af Rhagfyr, 2022 2.00 pm (Eitem 39.)
- Cefndir eitem 39.
Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am Gynllun Cyflawni’r Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig.
Cofnodion:
Rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) wybod nad oedd yr Uwch Reolwr, Darpariaeth Ieuenctid Integredig yn gallu mynychu’r cyfarfod, ond roedd wedi paratoi’r adroddiad ac roedd hi wedi cytuno i rannu adborth a chwestiynau gan yr Aelodau gydag ef yn dilyn y cyfarfod.
Amlinellodd y Prif Swyddog y gwaith partneriaeth a oedd yn mynd rhagddo i gefnogi pobl ifanc fel y nodir yn yr adroddiad. Darparodd wybodaeth am y gefnogaeth, datblygiad a’r hyfforddiant a ddarperir i’r partneriaid hynny i alluogi darpariaeth gwasanaeth effeithiol. Eglurodd bod heriau recriwtio sylweddol ar gyfer y gwasanaeth hwn a oedd wedi cael effaith ar y gwasanaeth y gellid ei darparu, ond eglurodd bod gwaith ieuenctid yn werthfawr tu hwnt ac yn cynnwys llwybrau cynnydd ar gyfer pobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth i ystyried datblygu gyrfa yn y gwasanaeth hwnnw. Cyfeiriodd at y gwaith partneriaeth Fframwaith Prentisiaeth gydag Addysg Oedolion Cymru a Phrifysgol Glynd?r i sicrhau bod cymwysterau ar gael i bobl ifanc eu cwblhau’n lleol.
Rhoddodd y Prif Swyddog wybod bod yr Uwch Reolwr, Darpariaeth Ieuenctid Integredig yn ystyried sut gellir mesur, nodi targedau a monitro allbynnau ar gyfer y gwasanaeth a’r effaith ar bobl ifanc. Roedd y newidiadau yr oedd yn eu cynnig yn cynnwys newid cyflenwr y system monitro electronig i ddull mwy effeithiol ac roedd gwybodaeth mewn perthynas â hyn wedi’i chynnwys yn yr adroddiad. Roedd yr Uwch Reolwr, Darpariaeth Ieuenctid Integredig hefyd yn awyddus i ddefnyddio’r wybodaeth a’r atodiadau yn yr adroddiad i siapio gwasanaethau yn y dyfodol i gefnogi pobl ifanc. Dywedodd y Prif Swyddog fod cefnogi lles emosiynol pobl ifanc yn eu helpu i ymgysylltu’n well yn yr ysgol ac yn cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch eglurdeb ym mhwynt 1.03 o’r adroddiad gan y Cynghorydd Dave Macie, eglurodd y Prif Swyddog ei fod yn cyfeirio at y Wobr Dug Caeredin, a oedd yn boblogaidd iawn ymhlith ysgolion ac yn fuddiol iawn ar gyfer pobl ifanc. Roedd yr Uwch Weithiwr Ieuenctid hefyd yn arweinydd Dug Caeredin ac yn cynnig cefnogaeth i ysgolion i gynnig eu rhaglenni eu hunain a bodloni’r prosesau achredu. Darparodd wybodaeth am y ganolfan mynediad agored yn yr Wyddgrug a’r camau a oedd yn cael eu cymryd i alluogi hyn i barhau.
Awgrymodd y Cynghorydd Dave Mackie y byddai modd cynnal gweithdy i Aelodau’r Pwyllgor i amlinellu sut y gellid darparu’r amcanion o fewn Cynllun Cyflawni 2021-2024. Croesawodd y Prif Swyddog yr awgrym hwn a dywedodd y gellid trefnu gweithdy yn hwyrach yn 2023 ac y gellid gwadd pobl ifanc i’r gweithdy i amlinellu eu safbwynt i’r Pwyllgor.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Cunningham fod y Fframwaith Prentisiaeth yn rhagorol ac nad yw’r Brifysgol yn addas i bawb. Roedd yn falch ei fod yn cael ei gyflwyno fel cymhwyster i annog pobl ifanc i ymuno â’r Gwasanaeth Ieuenctid drwy’r Fframwaith Prentisiaeth.
Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Bill Crease ar y pedwar argymhelliad a’r systemau rheoli data, cytunodd y Prif Swyddog fod data meintiol yn hollbwysig at ddibenion craffu a dwyn swyddogion i gyfrif, ond nid hwn oedd yr unig ffordd i werthuso canlyniadau. Roedd hi’n teimlo bod lleisiau pobl ifanc yn hollbwysig i ddangos yr effaith gadarnhaol roedd y gwasanaeth yn ei chael ar eu bywydau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Mrs Lynne Bartlett am fap o’r Sir yn amlinellu lleoliad y clybiau ieuenctid, darpariaeth partneriaeth a’u cysylltiad gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod map o’r fath ar gael. Defnyddiwyd y system mapio GIS ar gyfer nifer o ddarpariaethau’r Cyngor ac roedd yn cael ei ddiweddaru gan yr Uwch Reolwr, Darpariaeth Ieuenctid Integredig a’r Uwch Reolwr, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ar hyn o bryd. Eglurodd bod mapio lleoliadau’r clybiau ieuenctid ac edrych ar y data ar gyfer achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi galluogi i adnoddau gael eu targedu’n effeithiol.
Amlinellodd yr Uwch Reolwr, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid y perthnasoedd gwaith agos â’r Gwasanaethau Ieuenctid a phartneriaid yn Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â materion yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Eglurodd sut roedd yr adran TG yn cysylltu’r wybodaeth a oedd ar gael ar hyn o bryd gyda’r Fframwaith GIS o fewn y Cyngor. Mynychodd y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid ac Ieuenctid y Bartneriaeth Lleihau Galw yn y Gymuned sef y gr?p gorchwyl ymddygiad gwrthgymdeithasol a arweinir gan yr Heddlu. Roedd y wybodaeth a dderbyniwyd gan y Gr?p hwn ynghyd â’r wybodaeth a dderbyniwyd gan y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid wedi galluogi gwaith â Gwasanaethau Ieuenctid Sorted Sir y Fflint a Chyfiawnder Ieuenctid i ystyried datblygu dulliau allgymorth i dargedu’r adnoddau hynny lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi’i nodi. Cynhaliwyd cyfarfodydd wythnosol gyda sarsiantiaid cymunedol yng Ngogledd a De Sir y Fflint gan ddefnyddio’r data a gasglwyd yn y cyfarfodydd hynny i dargedu gwasanaethau i’r ardaloedd sydd fwyaf eu hangen.
Siaradodd y Cynghorydd Carolyn Preece o blaid y system Upshot a fyddai’n arbed arian i’r Cyngor dros y tair blynedd nesaf.
Cynigiodd y Cynghorydd Bill Crease ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Carolyn Preece.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r penderfyniad i ddisodli’r system QES gydag Upshot, er mwyn gallu casglu data’n fwy effeithiol ar draws rhaglenni’r Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig, gan ganiatáu ar gyfer system monitro, gwerthuso a dysgu gwell a fyddai’n arwain at ddarpariaeth gwasanaeth gwell.
(b) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo hwyluso hyfforddiant ar gyfer sefydliadau partner, megis clybiau chwaraeon a sefydliadau mewn lifrai, er mwyn cynyddu effaith ymarfer gwaith ieuenctid, a chefnogi iechyd a lles pobl ifanc yn Sir y Fflint;
(c) Bod y Pwyllgor yn cydnabod y cynnydd a wnaed yn erbyn y cynllun ac y dylai’r tîm Darpariaeth Ieuenctid Integredig ehangach ystyried diwygiadau i’r cynllun yn y dyfodol yn ofalus iawn yn unol ag adborth gan bobl ifanc;
(d) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r penderfyniad i ddechrau’r broses Achrediad Marc Ansawdd yn y Gwanwyn, gan ddechrau gydag Efydd ac yn dilyn yr argymhellion allweddol o’r broses hon, dod â’r cynllun yn ôl i’r Cabinet i gytuno i symud ymlaen i Arian ac Aur.
Dogfennau ategol:
- Integrated Youth Provision – Delivery Plan Update, eitem 39. PDF 142 KB
- Enc. 1 for Integrated Youth Provision – Delivery Plan Update, eitem 39. PDF 1 MB
- Enc. 2 for Integrated Youth Provision – Delivery Plan Update, eitem 39. PDF 78 KB
- Enc. 3 for Integrated Youth Provision – Delivery Plan Update, eitem 39. PDF 1 MB