Agenda item

Adroddiad Estyn ar y Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned o fewn Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru

Cyflwyno Adroddiad Estyn ar y Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned.

Cofnodion:

            Llongyfarchodd y Cadeirydd y Tîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned am yr adroddiad cadarnhaol yn dilyn yr Arolwg Estyn.   Roedd hi’n falch o weld bod Estyn wedi gwneud cais am ddwy astudiaeth achos gan eu bod wedi arsylwi arfer gorau ac yn awyddus i’w rhannu.    Roedd hi hefyd yn fodlon bod y meysydd i’w gwella a nodwyd yn yr adroddiad eisoes wedi cael eu cydnabod gan y Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned sy’n amlygu eu hunanwerthusiad cadarn.

 

            Diolchodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion i’r Cadeirydd am ei sylwadau.   Darparodd amlinelliad cryno o’r gwaith partneriaeth uchelgeisiol gyda Wrecsam a oedd wedi galluogi Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru i ehangu’r ddarpariaeth a chyfleoedd i oedolion sy’n dysgu.   Cwblhawyd llawer o’r gwaith hwn yn ystod y pandemig a thyfodd y Bartneriaeth yn ystod y cyfnod hwn, yn arbennig lefel y cyswllt â Phartneriaid.   Rhoddwyd amlinelliad o’r cynnydd ers y cyfnod hwn a’r trafodaethau a gafwyd gydag Estyn mewn perthynas â’r weledigaeth ar gyfer y Bartneriaeth a’r angen am gyllid cynyddol i ddarparu’r momentwm i sicrhau bod hyn yn parhau am flynyddoedd i ddod.   Gan gyfeirio at yr adroddiad gan Estyn, dywedodd fod y cais am ddwy astudiaeth achos yn ategu at weledigaeth a chyfeiriad y Bartneriaeth, yn ogystal ag argymhellion 1 i 3 a oedd eisoes wedi’u nodi yng Nghynllun Gwella Ansawdd y Bartneriaeth a rannwyd gydag Estyn yn ystod yr Arolwg.  O ran argymhelliad 4, roedd yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol a ddarparwyd yn 2020/21 yn amlygu sut darparwyd cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu i ddysgwyr yn ystod y cyfnod hwn, a darparodd wybodaeth ar sut gall dysgwyr ganfod mwy am gyrsiau a chofrestru, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer ymgysylltu pellach i’r dyfodol.

 

            Dywedodd yr Ymgynghorydd ar gyfer Dysgu Ôl 16 ac Oedolion yn y Gymuned ei bod yn falch iawn o ganlyniad yr adroddiad yn arbennig ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf.    Darparodd sicrwydd i’r tîm mewn perthynas â phrosesau megis yr adroddiad hunanwerthuso a’r cynllun gwella ansawdd.   Roedd hyn hefyd wedi helpu i nodi’r camau nesaf i wella’r cyfleoedd a’r canlyniadau i bob oedolyn sy’n dysgu yn Sir y Fflint.

 

            Llongyfarchodd y Cynghorydd Dave Mackie’r tîm ar adroddiad yr arolwg a’r gwaith a gwblhawyd o fewn blwyddyn.   

 

            Mewn ymateb i sylwadau a godwyd gan y Cynghorydd  Dave Mackie, dywedodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion bod y cwestiynau hyn wedi codi yn y Bwrdd Rheoli, cyfarfodydd Cwricwlwm ac Ansawdd ac yn dod o dan y Cynllun Gwella Ansawdd ar gyfer y Bwrdd.   Roedd hi’n gobeithio y byddai adroddiadau i’r Pwyllgor yn y dyfodol yn darparu gwybodaeth ar ganlyniadau a chyflawniadau wrth i’r Bartneriaeth ddatblygu.   Oedwyd prosesau casglu data cenedlaethol ar bresenoldeb, cyfraddau cwblhau a chyfraddau cyflawni yn ystod Covid, ond dywedodd fod gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod y set ddata nesaf a gesglir yn cael ei chyflwyno.   Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y dyfodol i egluro sut datblygwyd yr argymhellion hyn i gamau gweithredu a chanlyniadau.   Darparodd wybodaeth ynghylch mapio darpariaeth, presenoldeb ar-lein, ynghyd â’r adeiladau a ddefnyddiwyd, a dywedodd bod y wybodaeth hon yn cael ei bwydo’n ôl i gynllun corfforaethol a chynllun busnes portffolio’r Cyngor.   Rhannodd y wybodaeth ddiweddaraf am ddysgu fel teulu a oedd wedi cael ei groesawu gan ysgolion.  

 

            Darparodd yr Ymgynghorydd ar gyfer Dysgu Ôl 16 ac Oedolion yn y Gymuned drosolwg o lansiad y Rhaglen Dysgu fel Teulu y llynedd a’r cyfarfodydd a gynhaliwyd gyda Swyddogion, y Ffederasiwn Penaethiaid a Dirprwy Benaethiaid ysgolion cynradd i hyrwyddo Dysgu Oedolion yn y Gymuned.   Roedd hyn yn llwyddiannus, gydag 14 o ysgolion cynradd a 2 ysgol uwchradd yn cymryd rhan mewn prosiectau gwahanol, ac eglurodd y pynciau a oedd yn derbyn sylw yn y prosiectau.   Darparodd wybodaeth ar y rhaglen Welis yn y Coed a oedd yn gweithio gyda 200 o rieni gan ganolbwyntio ar ddarllen, cyfathrebu a gweithio yn yr awyr agored.   

 

            Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Preece fod hyn yn rhagorol, yn arbennig cais Estyn am ddwy astudiaeth achos arfer orau i hyrwyddo’r rhaglen ar draws Cymru.   Gan fod naratif a fframwaith Estyn wedi newid, ystyriodd a fyddai sesiwn hyfforddiant yn ddefnyddiol i helpu Aelodau i ddeall ar beth mae Estyn yn edrych a’r math o eiriad a ddefnyddir yn eu hadroddiadau.

 

            Soniodd y Cynghorydd Bill Crease am ei amser yn gweithio yn y maes addysg i oedolion ac roedd yn deall yr effaith gadarnhaol y gallai prosiectau fel hyn ei chael.   Gan gyfeirio at yr argymhellion, dywedodd y dylai’r Pwyllgorau Craffu fedru datblygu cyfres o amcanion mesuradwy yn seiliedig ar y pedwar argymhelliad, y gallai’r Pwyllgor eu harchwilio a mesur eu cynnydd yn rheolaidd.   

 

            Diolchodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) i’r Cynghorwyr Mackie a Crease am eu sylwadau defnyddiol a’r sicrwydd a ddarparwyd gan yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion mewn perthynas â’r camau nesaf o ran datblygu’r argymhellion.    Byddai’r cynlluniau gweithredu manwl yn cael eu darparu drwy’r Bartneriaeth a’u cyflwyno’n ôl i’r Pwyllgor er mwyn rhoi trosolwg i Aelodau a chyfle iddynt graffu ar y cynnydd yn erbyn yr argymhellion.   Diolchodd i’r Uwch Reolwr - Gwella Ysgolion a’r Ymgynghorydd ar gyfer Dysgu Ôl 16 ac Oedolion yn y Gymuned a’r tîm sydd ynghlwm â’r Bartneriaeth am eu gwaith a oedd wedi arwain at gynnig gwych i drigolion yn Sir y Fflint a Wrecsam.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at y trosolwg a ddarparwyd gan yr Ymgynghorydd ar gyfer Dysgu Ôl 16 ac Oedolion yn y Gymuned a dywedodd fod yr angen wedi’i nodi’n glir a bod yr adran wedi ystyried sut i sefydlu’r broses i gefnogi’r angen hwnnw.  

 

            Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden bawb a oedd ynghlwm â’r gwaith hwn, dywedodd ei fod yn gyflawniad arbennig a’u bod yn llwyr haeddiannol o’r anrhydeddau gan Estyn.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Bill Crease yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Jason Shallcross.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi canfyddiadau Arolwg Estyn a’u bod wedi cael sicrwydd gan y canlyniadau cadarnhaol ar gyfer y ddarpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned yn Sir y Fflint.

 

Dogfennau ategol: