Agenda item

Diweddariad Llywodraethu

Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion perthnasol i lywodraethu.  Gofyn i’r Pwyllgor ystyried ac argymell i’r Cyngor newidiadau arfaethedig i Gyfansoddiad y Cyngor a’r Protocol Bwrdd Pensiynau, ac i ystyried a chymeradwyo’r Cynllun Dirprwyo diwygiedig.

Cofnodion:

            Tynnodd Mr Latham sylw at yr argymhellion a’r pwyntiau allweddol canlynol i’r Pwyllgor:

 

-       Roedd canlyniad arolwg effeithiolrwydd y Bwrdd Pensiynau wedi’i grynhoi yn atodiad 3.

-       Roedd yr argymhellion yn cynnwys newidiadau arfaethedig i Gyfansoddiad a Phrotocol y Bwrdd Pensiynau fel yr amlinellir ym mharagraffau 1.04 i 1.09.   Roedd y prif newidiadau’n cynnig symud cyfrifoldebau oddi wrth y Prif Weithredwr blaenorol i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd. Roeddent hefyd yn cynnig ychwanegu’r Rheolwr Corfforaethol Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol at y Panel Ymgynghorol, yn lle’r Prif Weithredwr. Roedd y Swyddog Monitro wedi ystyried y newidiadau ac wedi eu cefnogi. Y camau nesaf fyddai i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor eu hystyried, cyn iddynt fynd gerbron Cyngor Sir y Fflint i’w cymeradwyo. Ar y pwynt hwn, dywedodd y Cadeirydd a’r Cynghorydd Wren eu bod yn aelodau o Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ond roedd Mr Lathan a Mrs McWilliam, y Cynghorydd Annibynnol yn teimlo nad oedd gwrthdaro yn y rolau hyn, ac os rhywbeth, byddai’n ddefnyddiol iddynt fod yno.

-       Roedd diweddariad gan Fwrdd Cynghori’r Cynllun yn atodiad 5.

-       Fel y dangosir ym mharagraff 1.11, bu penodiadau newydd yn dilyn ymddiswyddiad llawer o weinidogion yn yr Adran Ffyniant Bro, Tai a’r Gymuned. 

-       Roedd gwybodaeth ym mharagraff 1.13 am ddyfarniad newydd gan y Goruchaf Lys fyddai’n debygol o effeithio ar y Gronfa a chyflogwyr. Roedd CLlL a’r Corff Cymeradwyo yn ymwybodol o’r mater a dywedodd Mr Latham y bydd angen i’r Gronfa wneud newidiadau ôl-weithredol i gofnodion efallai yn cynnwys cyfrifiadau buddion. Y gobaith yw y bydd canllawiau cenedlaethol maes o law.

-       Amlinellwyd digwyddiadau hyfforddi yn y dyfodol ym mharagraff 1.14 a gofynnodd Mr Latham i aelodau’r Pwyllgor gysylltu â Mrs Fielder os oeddent yn dymuno mynychu. Roedd yr hyfforddiant ar Adolygu’r Strategaeth Fuddsoddi i fod i gael ei gynnal ar 5 Hydref, a phwysleisiodd fod hwn yn hyfforddiant hanfodol a’i bod yn bwysig bod aelodau’n mynychu.

-       Roedd risg allweddol yn ymwneud â’r anawsterau recriwtio a chadw. Roedd y mater hwn yn cael ei ystyried gan y Panel Ymgynghorol oherwydd yr effaith mae’n ei gael ar y Gronfa.

 

            Yn dilyn pryderon Mr Hibbert a godwyd ac a drafodwyd yn y cyfarfod blaenorol am lythyr Michael Lynk ar Balestina, awgrymodd Mr Hibbert fod y Gronfa’n adolygu rhan ‘Gymdeithasol’ yr ESG yn ymwneud â’r cwmnïau y mae’r Gronfa’n buddsoddi ynddynt.  Dywedodd Mr Latham fod gwaith ar y gweill gyda’r WPP a Robeco ar y mater hwn. Ychwanegodd Mrs Fielder fod gr?p Buddsoddi Cyfrifol WPP yn cyfarfod yn rheolaidd â Robeco i drafod themâu ymgysylltu a’r stociau a chyfranddaliadau sy’n cael eu pleidleisio arnynt a’u hymgysylltu â nhw yn y meysydd hyn, a chyfeiriodd at yr atodiadau i eitem naw ar y rhaglen. 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Ystyriodd y Pwyllgor y diweddariad a’i nodi.

(b)      Ystyriodd y Pwyllgor y newidiadau arfaethedig i Gyfansoddiad y Cyngor a Phrotocol y Bwrdd Pensiynau, o ran y cyfrifoldebau'n ymwneud â’r gronfa bensiynau ac argymhellodd i’r newidiadau arfaethedig gael eu hystyried gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ac yna eu cymeradwyo gan y Cyngor.

(c)       Cymeradwyodd y Pwyllgor y newidiadau arfaethedig i’r Amserlen Dirprwyo Swyddogaethau i Swyddogion. 

 

Dogfennau ategol: