Agenda item

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol i'w hystyried.

 

Cyfeirioddyr Hwylusydd at y nifer o eitemau sydd wedi'u trefnu ar gyfer y cyfarfod nesaf sydd wedi'i drefnu ar gyfer 14 Rhagfyr ac awgrymodd ei bod yn trafod gyda'r Cadeirydd a Phrif Swyddog ar ôl y cyfarfod i symud rhai eitemau i gyfarfodydd eraill er mwyn galluogi trafodaeth lawn ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) ac adroddiad Gosod y Gyllideb 2023-24 (Cam 2).   Roedd y Pwyllgor o blaid yr awgrym hwn.

 

Fe amlinellodd yr Hwylusydd y newidiadau canlynol oedd wedi cael eu gwneud i Raglen Gwaith i'r Dyfodol ers y cyfarfod diwethaf:-

 

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am yr Archwiliad o Lety Dros Dro - mae'r adroddiad yma wedi cael ei symud i fis Ebrill 2023 er mwyn i fersiwn derfynol y Cynllun Ailgartrefu Cyflym gael ei gyflwyno;

·         BodlonrwyddCwsmeriaid y Gwasanaeth Cofrestr Tai - bydd y wybodaeth yma'n cael ei chynnwys yn rhan o adroddiad y Gofrestr Tai sy'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Chwefror 2023; ac

·         Adolygiad Tai Gwarchod - bydd yr adroddiad yma bellach yn cael ei gyflwyno ym mis Chwefror 2023.

 

O ran y camau gweithredu sy'n deillio o'r cyfarfod diwethaf, dywedodd yr Hwylusydd  bod ymweliad safle i weld yr eiddo gwag wedi cael ei drefnu ar gyfer 9 Rhagfyr 2022.  Bydd gwybodaeth ychwanegol am yr ymweliad safle yn cael ei anfon at Aelodau'r Pwyllgor maes o law.  Mewn cysylltiad â'r camau gweithredu sy'n ymwneud ag adroddiad am Dlodi yn cael ei ddwyn ymlaen ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol, dywedodd yr Hwylusydd bod adroddiad wedi cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn ddiweddar am yr argyfwng costau byw ac fe fyddai hi'n rhannu hyn gydag Aelodau'r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.  Byddai perfformiad ar dlodi'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2022 hefyd. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge a oedd modd darparu nodyn briffio i bob Aelod o'r Cyngor yn nodi sut mae'r Cyngor yn delio ag eiddo h?n oedd â lleithder a llwydni. Gofynnodd hefyd a oedd modd darparu gwybodaeth am system awyru araf yr oedd o'n credu y dylid ei ddarparu tra'n gosod ffenestri newydd, yn rhan o'r nodyn briffio. Dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi bod gan y Pwyllgor Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol prysur, ac felly fe fyddai'n gwerthfawrogi nodyn briffio i roi sicrwydd i Aelodau os nad oedd modd llunio adroddiad o fewn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.  Awgrymodd y Cadeirydd bod adroddiad ar y mater yma'n cael ei gynnwys yn Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer mis Ionawr 2023.

 

Fe awgrymodd yr Hwylusydd bod nodyn briffio yn cael ei ddarparu i bob Aelod ar ôl y cyfarfod a bod penderfyniad pa unai ddylai'r adroddiad gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor gael ei wneud ar ddyddiad arall.  

 

            Cafodd yr argymhellion, fel y'i hamlinellwyd o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a'u heilio gan y Cynghorydd Rob Davies. 

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

Dogfennau ategol: