Agenda item
Y Diweddaraf am y Cofrestru Adnoddau Deinamig
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai, Dydd Mercher, 8fed Mawrth, 2023 10.00 am (Eitem 34.)
- Cefndir eitem 34.
Pwpras: Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn gweithredu’r System Cofrestru Adnoddau Deinamig.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai a’r Rheolwr Busnes adroddiad ar y cyd i roi trosolwg a diweddariad ar y System Trefnu Adnoddau Deinamig, y newidiadau a wnaed i’r gwasanaeth yn ystod camau profi’r cyfnod peilot a’r mesurau newydd a roddwyd ar waith i wella ein cyfraddau bodlonrwydd cwsmeriaid cyffredinol o ran y gwasanaeth oedd yn cael ei ddarparu.
Roedd caffael a buddsoddi yn y feddalwedd yn cael ei gyfrif yn gatalydd i gyflawni swyddogaeth atgyweirio tai oedd yn canolbwyntio mwy ar y cwsmer. Roedd disgwyl i’r feddalwedd newydd hefyd fod â chryn botensial am enillion ar y buddsoddiad, trwy greu gwasanaeth atgyweiriadau tai oedd yn fwy cynhyrchiol, effeithlon ac effeithiol, llai o alwadau’n ôl gan gwsmeriaid a lleihau am faint o amser roedd gweithwyr yn teithio.
Roedd y cynigion yn yr adroddiad yn ategu ac yn cyd-fynd yn llwyr â’r gwaith oedd yn cael ei wneud i wella’r cynnig ar-lein gan y gwasanaeth tai, i’w gwneud yn haws ac yn fwy syml i gwsmeriaid weld diffygion a rhoi gwybod am waith atgyweirio a chefnogi’r hyn mae cwsmeriaid ei eisiau – gwasanaeth apwyntiadau cyfleus i gwblhau gwaith.
Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge faint o weithwyr oedd wedi bod ynghlwm â’r cyfnod profi. Gofynnodd hefyd a fyddai’r system yn gweithio ar draws bob crefft ac os oedd tenantiaid yn ffonio i roi gwybod am broblem, sut fyddai modd mesur maint y dasg. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod 4 gweithiwr wedi bod yn profi’r system yn rhan o’r cynllun peilot. Cadarnhaodd y byddai pob crefft yn gallu gweithio drwy’r system ac y byddai maint y dasg yn cael ei asesu yn rhan o’r archwiliad cyn gwneud y gwaith.
Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin a oedd y System Trefnu Adnoddau Deinamig yn debyg i’r system oedd eisoes ar waith. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth ei bod yn debyg i system flaenorol, ond roedd bellach wedi’i datblygu’n broses ddigidol yn hytrach na’r broses bapur h?n oedd ar waith.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Linda Thew yngl?n â chost y system, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth i ddarparu’r wybodaeth hon ar ôl y cyfarfod.
Gwnaeth y Cynghorydd Sam Banks sylw na fydd rhai tenantiaid hyn o bosib’ yn hyderus â thechnoleg a mynegodd bryder yngl?n â sut y byddent hwy’n rhoi gwybod am broblemau. Fe wnaeth y Rheolwr Gwasanaeth sicrhau’r Aelodau y byddai tenantiaid yn dal i allu rhoi gwybod am broblemau fel arall a gallai rhywun gysylltu â nhw trwy ddulliau nad oeddent yn rhai digidol wedyn rhag iddynt deimlo’n anghyfforddus â thechnoleg.
Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd David Evans a’u heilio gan y Cynghorydd Kevin Rush.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi cam nesaf camau peilot a phrofi’r System Trefnu Adnoddau Deinamig cyn i’r Cyngor newid i System Trefnu Adnoddau Deinamig cwbl weithredol; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Cyngor i hyrwyddo’r cynnig gwasanaeth, lle gallai tenant gael apwyntiad ar gyfer ceisiadau gwaith atgyweirio a chynnal a chadw, yn unol â’r amseroedd targed ac ymweliadau y cytunwyd arnynt.
Dogfennau ategol:
- Dynamic Resource Scheduler (DRS) System Update, eitem 34. PDF 802 KB
- Appendix 1 - DRS Power Point Presentation for Operatives and back office support staff, eitem 34. PDF 2 MB
- Appendix 2 - DRS Sector Map, eitem 34. PDF 10 MB
- Appendix 3 - Project Plan, eitem 34. PDF 193 KB