Agenda item

Deddf Rhentu Cartrefi Cymru

Pwrpas:        Amlinellu’r newidiadau arfaethedig i’r ffordd y mae landlordiaid yng Nghymru yn gosod eu heiddo, a fydd yn cael eu cyflwyno ar 1 Rhagfyr 2022.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-reolwr - Rheoli Tai yr adroddiad i roi trosolwg o’r Ddeddf Rhenti Cartrefi newydd a’r newidiadau a fydd yn dod i rym o 1 Rhagfyr 2022.   Nod y Ddeddf yw symleiddio’r broses o rentu cartref yng Nghymru a rhoi mwy o wybodaeth i bartïon am eu hawliau a’u rhwymedigaethau.  

 

            Fe eglurodd yr Uwch-reolwr pan fydd y Ddeddf wedi cael ei rhoi ar waith yn llawn, fe fyddai’n creu system cwbl newydd i denantiaethau preswyl yng Nghymru.   Y bwriad oedd disodli’r trefniadau tenantiaeth fyrddaliadol sicr a threfniadau deiliadaethau amaethyddol sicr sydd ar waith ar hyn o bryd o dan Ddeddf Tai 1985 a Deddf Tai 1988. 

 

            Wrth dynnu sylw at y newidiadau sylfaenol yn y Ddeddf, dywedodd yr Uwch-reolwr y bydd tenantiaid a thrwyddedai yn dod yn ‘ddeiliaid contract’ ac y byddai cytundebau tenantiaeth yn cael eu disodli gyda ‘chontractau meddiannaeth’ o dan y gyfraith newydd. Byddai’n rhaid i Gontractau Meddiannaeth gael eu nodi mewn ‘datganiad ysgrifenedig’ a’i bwrpas oedd cadarnhau telerau’r contract.   Fe fyddai yna ddau fath o gontract fel a ganlyn:-

 

1.    Contract Diogel - Y bydd Sir y Fflint yn ei fabwysiadu fel landlord.

2.    Contract Safonol - A fydd yn cael ei ddefnyddio’n bennaf yn y sector preifat.

 

Fe fydd gweithredu’r Ddeddf newydd yn Sir y Fflint o 1 Rhagfyr yn golygu y bydd deiliaid contract newydd yn derbyn contract newydd, a bydd unrhyw ddeiliaid contract presennol yn cychwyn ar gyfnod o ymgynghori er mwyn eu hannog i drosi o’u tenantiaethau presennol i gontract er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau newydd.   Bydd cyfres o sioeau teithiol yn cael eu cynnal o fis Chwefror 2023 er mwyn egluro’r Ddeddf newydd i denantiaid.   

 

Mynegodd y Cynghorydd Bernie Attridge bryder am rôl y Pwyllgor Craffu wrth ystyried yr adroddiad a rhoi adborth cyn cyfarfod y Cabinet yr wythnos ganlynol.  Nid oedd yn teimlo fod yna unrhyw gyfle i ddiwygio’r newidiadau sydd wedi’u cynnig yn y Ddeddf gan y byddai’n dod yn gyfraith ar 1 Rhagfyr.  Dywedodd na allai ddod o hyd i wybodaeth gefndir am yr ymgynghoriad a gynhaliwyd a gofynnodd pa ymgynghoriad sydd wedi’i gynnal gan yr Aelod Cabinet ac Arweinydd y Cyngor drwy Lywodraeth Cymru (LlC) ar y newidiadau arfaethedig, ac a oedd ymgynghoriad wedi’i gynnal gyda’r tenantiaid cyn i’r newidiadau ddod i rym ar 1 Rhagfyr 2022. Mynegodd bryderon hefyd am gael gwared ar denantiaethau rhagarweiniol a oedd yn eu lle gan y Cyngor i gael gwared ar denantiaid gwael.

 

Dywedodd yr Uwch-reolwr nad oedd hi’n ymwybodol o’r broses ymgynghori ond fe eglurodd fod y Ddeddf wedi dod yn gyfraith yn 2016 a bod LlC wedi oedi ei gyflwyno a gweithredu’r gyfraith tan 1 Rhagfyr 2022.  Fe eglurodd ei fod yn gyfraith roedd yn rhaid i’r Cyngor ei weithredu ac y byddai’r ymgynghoriad gyda phreswylwyr a thenantiaid yn sicrhau eu bod yn deall beth roedd y newidiadau yn eu golygu. Roedd yna newidiadau cadarnhaol o fewn y Ddeddf oedd yn ymwneud â rhoi mwy o hawliau i denantiaid a dwyn landlordiaid i gyfrif os nad oedd gwaith atgyweirio yn cael ei wneud i eiddo.  

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) y byddai adborth gan y Pwyllgor yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod y Cabinet yr wythnos nesaf. Fe ailadroddodd yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio y sylwadau pan ddaeth y Ddeddf yn gyfraith yn 2016 ac awgrymodd fod yr Aelodau a oedd yn Aelodau Etholedig yn y Cyngor bryd hynny yn gallu cofio’r broses ymgynghori yn ystod y cyfnod hwnnw.  Dywedodd y byddai’n sôn am bryderon y Cynghorydd Attridge wrth y Cabinet.  

 

Siaradodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin i gefnogi’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Attridge o ran cadw Tenantiaethau Rhagarweiniol, a rhoddodd enghraifft o denantiaid yn ei ward ei hun a oedd wedi achosi gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod, ond roedd modd cael gwared arnynt yn gyflym gan eu bod ar Denantiaeth Ragarweiniol.  

 

Mynegodd y Cynghorydd Dale Selvester bryderon y bydd y newidiadau i’r Tenantiaethau Rhagarweiniol yn galluogi tenantiaid i ofyn am gael trosglwyddo’n fwy aml, a fyddai’n cael effaith negyddol ar nifer yr eiddo gwag yn y Sir. Mynegodd bryder hefyd am y newidiadau i Hysbysiadau Gadael a’r cyfrifoldeb sydd bellach ar y Cyngor.   Roedd yn pryderu am fater hysbysiad o’r fath a’r potensial am feirniadaeth petai’r hysbysiad yn cael ei roi am ryw reswm, a’i bod yn dod i’r amlwg wedyn nad oedd yr eiddo wedi’i adael.

 

Fe soniodd y Cadeirydd am newidiadau i Hawliau Olyniaeth Pellach, a rhoddodd enghraifft o berson ifanc a adawyd mewn eiddo ar ôl marwolaeth y rhieni. Mynegodd bryder o ystyried y cymhorthdal ystafell wag, fe allai’r person yma fod yn wynebu methiant a gofynnwyd a fyddai yna gyfle i’r person ifanc yma symudi eiddo llai.   

 

Gan ymateb i gwestiynau a ofynnwyd, fe eglurodd yr Uwch-reolwr mai’r rheswm nad oeddynt yn argymell cael Tenantiaeth Ragarweiniol oedd o dan y gyfraith newydd, nid oedd yna wahaniaeth rhwng y Tenantiaethau, ac nid oedd hyn yn llwybr cyflym i droi pobl allan.   Gan ymateb i’r sylwadau am gynnydd mewn eiddo gwag, fe eglurodd bod ceisiadau trosglwyddo’n cael eu rheoli’n ddyddiol a byddent yn parhau i gael eu rheoli yn yr un modd.   Fe groesawodd y newid i Hysbysiadau  Gadael ac fe soniodd am y rhwystredigaeth o wybod bod eiddo’n cael ei adael, a’r amser hir blaenorol i’r eiddo gael ei ddychwelyd i’r Cyngor.   Bydd y polisi a gweithdrefn newydd yn golygu bod yr eiddo’n cael ei gymryd yn ôl dim ond pan fydd y Cyngor yn fodlon ei fod wedi cael ei adael.   Fe ddywedodd hi hefyd y byddai sgyrsiau’n parhau i gael eu cynnal gyda thenantiaid ar ôl olyniaeth er mwyn sicrhau bod yr eiddo yn fforddiadwy, ond yn y pendraw, eu penderfyniad nhw oedd pa unai dewis aros yn yr eiddo neu ofyn am drosglwyddiad. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd fel rhan o Hawliau Olyniaeth Pellach, a fyddai person yn cael eu rhoi ar Denantiaeth Ragarweiniol petaent yn llwyddo i gael contract meddiannaeth.   Dywedodd yr Uwch-reolwr y byddai’n egluro hyn ar ôl y cyfarfod.  

 

Gan ymateb i gwestiynau pellach gan y Cynghorydd Attridge, dywedodd yr Uwch-reolwr ei bod hi’n ansicr a fyddai sylwadau am y Ddeddf yn cael eu derbyn a dywedodd drwy edrych ar y broses ymgynghori flaenorol efallai bod pryderon a fynegwyd gan Aelodau’r Pwyllgor eisoes wedi cael eu gwneud a’u hystyried gan LlC.  Dywedodd y byddai’n holi LlC a phartneriaid cyfreithiol pa unai oedd adolygiad o’r Ddeddf wedi’i gynllunio, ac yn rhoi’r wybodaeth yma i’r Cabinet tra’n ystyried yr adroddiad ym mis Tachwedd 2022.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Attridge argymhelliad pellach i’r rhai sydd wedi’u rhestru yn yr adroddiad, a bod yr Uwch-reolwr yn adolygu’r ymgynghoriad a wnaed yn flaenorol a holi LlC a phartneriaid cyfreithiol pa unai a oedd adolygiad o’r Ddeddf wedi’i gynllunio, a rhoi’r wybodaeth yma, os ar gael i’r Cabinet tra’n ystyried yr adroddiad ym mis Tachwedd 2022.   Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Rob Davies.  

 

            Ar ôl cael eglurhad gan yr Uwch-reolwr, cynigiodd y Cynghorydd Dave Evans, bod argymhelliad 2 yn cael ei restru yn yr adroddiad ac yn cael ei newid i ddarllen fel hyn:-

 

  • Bod gan y Pwyllgor bryderon difrifol am gael gwared ar denantiaethau rhagarweiniol o’r polisi. 

 

Gan ymateb i gwestiynau pellach oedd yn ymwneud â Thenantiaethau Rhagarweiniol, fe eglurodd yr Uwch-reolwr y byddai pwerau’r Cyngor yn cael eu lleihau yn rhan o’r Ddeddf newydd ac nad oedd yn rhoi amser cyflymach i’r Cyngor i derfynu.   Dywedodd ei bod hi’n bwysig nodi nad oedd y Cyngor yn ymgymryd â sawl achos o droi allan a bod y mwyafrif o Denantiaethau Rhagarweiniol yn llwyddiannus yn cael eu troi’n Denantiaethau Diogel.

 

Dywedodd yr Hwylusydd y byddai pob sylw gan Aelodau’r Cabinet yn cael eu casglu a’u hanfon at yr Aelod Cabinet a Swyddogion cyn cyfarfod y Cabinet.

 

Cafodd yr argymhellion fel y’i diwygiwyd gan y Cynghorydd Bernie Attridge a Chynghorydd Dave Evans eu cynnig gan y Cynghorydd Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Rob Davies.  

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r newidiadau a gynhigiwyd i’r modd y mae landlordiaid yng Nghymru yn rhentu eu heiddo i’w weithredu o 1 Rhagfyr 2022;

 

(b)       Bod gan y Pwyllgor bryderon difrifol am gael gwared ar denantiaethau rhagarweiniol o’r polisi; a

 

(c)        Bod yr Uwch-reolwr yn adolygu’r ymgynghoriad a wnaed yn flaenorol a holi LlC a phartneriaid cyfreithiol pa unai a oedd adolygiad o’r Ddeddf wedi’i gynllunio, a rhoi’r wybodaeth yma, os ar gael i’r Cabinet tra’n ystyried yr adroddiad ym mis Tachwedd 2022.

Dogfennau ategol: