Agenda item

Cais am Drwydded Bersonol

Yr Aelodau i ystyried a gwneud penderfyniad yngl?n â chais am Drwydded Bersonol

 

 

Cofnodion:

GWRANDAWIAD A PHENDERFYNIAD AR Y CAIS

 

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd a chyflwynodd aelodau’r panel.

 

4.         YMDDYGIAD GYRRWR CERBYD HURIO PREIFAT / CERBYD HACNI (AR Y CYD)

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu'r adroddiad i ystyried cais am Drwydded Bersonol dan y Ddeddf Trwyddedu 2003.  Cafodd y gofynion ar gyfer Trwydded Bersonol eu rhagnodi gan Ran 6 Deddf Trwyddedu 2003 a chawsant eu rhestru yn yr adroddiad.  Mae Atodlen 4 y Deddf Trwyddedu 2003 yn rhestru’r troseddau perthnasol sy’n ymwneud â chais am drwydded Bersonol.

 

Cynghorodd y Swyddog Trwyddedu bod yr ymgeisydd wedi datgelu trosedd berthnasol nad oedd yn cael ei ystyried wedi’i threulio dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (c.53), a darparodd ei dystysgrif sylfaenol Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

yn cadarnhau hyn.  Fe esboniodd, lle’r oedd ymgeisydd wedi cael trosedd berthnasol nad oedd yn cael ei ystyried wedi’i threulio, mae’n rhaid i’r Awdurdod Trwyddedu gyflwyno rhybudd i Brif Swyddog Heddlu Gogledd Cymru i’w hysbysu o’r ffaith.  Os yw’r Prif Swyddog yn fodlon y byddai cymeradwyo’r drwydded yn tanseilio amcan atal trosedd mae’n rhaid i Heddlu Gogledd Cymru roi rhybudd i’r Awdurdod Trwyddedu yn nodi’r rhesymau pam (rhybudd o “wrthwynebiad”).  Rhoddodd Heddlu Gogledd Cymru rybudd o wrthwynebiad i’r cais hwn, a dderbyniwyd ar 15Gorffennaf 2022. Ar ôl ystyried sylwadau Heddlu Gogledd Cymru, gofynnwyd i’r Is-bwyllgor Trwyddedu i wneud y penderfyniad canlynol:

 

(a)       gwrthod y cais os yw’n cael ei ystyried yn angenrheidiol ar gyfer hyrwyddo’r

amcan atal trosedd gwneud hynny, neu

(b)       cymeradwyo’r cais mewn unrhyw achos arall.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i’r ymgeisydd siarad i gefnogi ei gais.

 

Cyn i’r ymgeisydd annerch y Pwyllgor, siaradodd gynrychiolydd o’r Datrysiadau Hyfforddiant Lletygarwch i gefnogi’r ymgeisydd.  Dywedodd ei fod yn gweithio’n galed, ac yn aelod pwysig o’r gymuned leol, a byddai’n hyrwyddo’r amcanion trwyddedu. 

 

Siaradodd yr ymgeisydd yngl?n â’i edifeirwch am ei weithredoedd, a oedd wedi arwain at euogfarn.  Fe esboniodd ei fod wedi ymddwyn allan o gymeriad, ac mai’r euogfarn oedd ei drosedd gyntaf ac yr unig un.  Siaradodd am ei ddedfryd, ac esboniodd y byddai’n cael ei leihau yn dilyn cwblhau cwrs perthnasol.  Roedd yn ymgymryd â chwrs llawn gwybodaeth ac o gymorth iddo.  Diolchodd i’r Pwyllgor am roi cyfle iddo esbonio ei amgylchiadau.    

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Swyddog Trwyddedu Heddlu Gogledd Cymru esbonio’r rhesymau dros y ‘rhybudd o wrthwynebiad’ i’r cais.  Cynghorodd y Swyddog Trwyddedu bod y drosedd a gyflawnwyd yn drosedd berthnasol dan Ddeddf Trwyddedu 2003 a dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 nid oedd yr euogfarn wedi’i threulio eto.  Cafodd ei ystyried y byddai caniatáu Trwydded Bersonol yn gwrthwynebu’r amcan Atal Trosedd, ac nid oedd gweithredoedd yr ymgeisydd yn cyd-fynd â chyfrifoldebau Goruchwyliwr Safle Penodol.

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i Gyfreithiwr y Cyngor ofyn cwestiynau i’r partïon.  

 

Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd am amgylchiadau ei drosedd. Rhoddodd yr ymgeisydd fanylion o’r amgylchiadau, a dywedodd mai dyma oedd ei drosedd gyntaf, ac roedd ganddo gywilydd.  Dywedodd ei fod wedi myfyrio ar y drosedd, ac roedd wedi canfod parch at effeithiau negyddol alcohol.   Cadarnhaodd ei fod wedi talu dirwy, a’i fod yn dilyn cwrs, a fydd yn lliniaru ei ddedfryd ar ôl ei gwblhau. Gofynnodd y Cyfreithiwr am ragor o wybodaeth gan yr ymgeisydd yngl?n â’i ddealltwriaeth o gyfrifoldebau deilydd trwydded.  Roedd yr ymgeisydd yn deall bod rhaid i ddeiliad y drwydded gefnogi amcanion y drwydded, a’i fod yn parchu safbwynt yr heddlu nad oedd ei weithred yn cyd-fynd â’r amcanion, ond cadarnhaodd mai trosedd untro oedd hwn, a’i fod yn dilyn cwrs i adlewyrchu ar ei weithred. 

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr i Swyddog Trwyddedu Heddlu Gogledd Cymru am y drosedd, a’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer gyrru cerbyd ar ôl yfed alcohol.  Cadarnhaodd y Swyddog Trwyddedu nad yw’r euogfarn yn cael ei threulio ar hyn o bryd dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 a’i fod yn gymwys am 20 mis o ddyddiad y trosedd.  Mewn ymateb i gwestiynau pellach gan y Cyfreithiwr, esboniodd y Swyddog Trwyddedu y rhesymau pam roedd Heddlu Gogledd Cymru o’r farn na fyddai cymeradwyo Trwydded Bersonol i’r ymgeisydd yn cyd-fynd â’r amcanion atal trosedd a thrwyddedu, ac nid oedd ei weithredoedd yn cyd-fynd â chyfrifoldebau Goruchwyliwr Safle Penodol. Yn ystod y drafodaeth, cadarnhawyd, dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 bod y cyfnod adfer ar gyfer colli trwydded yrru yn dod i ben pan roedd y cyfnod y gwaharddiad yn dod i ben, a bod y cyfnod yn ymwneud ag ardystiad gyrru yn 5 mlynedd o ddyddiad yr euogfarn.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i aelodau'r Panel ofyn mwy o gwestiynau.  Mewn ymateb i gwestiwn i’r ymgeisydd am pam ei fod wedi cymryd y camau a wnaeth, a arweiniodd at gyflawni trosedd, dywedodd yr ymgeisydd ei fod wedi gwneud camgymeriad ar y pryd, ac roedd yn difaru ei benderfyniadau.

 

Siaradodd cynrychiolydd o Ddatrysiadau Hyfforddiant Lletygarwch i gefnogi’r ymgeisydd, a dywedodd y gallai’r ymgeisydd hyrwyddo’r amcanion trwyddedu. 

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd, cynrychiolwyr yn bresennol, a’r Swyddog Trwyddedu adael y cyfarfod i alluogi’r Is-bwyllgor i ddod i benderfyniad. 

 

 

4.1       Penderfyniad ar y Cais

 

Gwahoddwyd y Swyddog Trwyddedu, cynrychiolwyr trydydd parti, a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailgynnull y cyfarfod.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i wrthod cais am Drwydded Bersonol, ar ôl clywed holl dystiolaeth y partïon, darllen y dogfennau, ac ystyried canllawiau statudol a datganiad y polisi trwyddedu, yn unol â Deddf Trwyddedu 2003, am y rhesymau canlynol:

 

                    mae yfed a gyrru’n euogfarn berthnasol, ac nid oedd y cyfnod Adfer wedi

dod i ben;

                    er bod yr Ymgeisydd wedi dangos edifeirwch, a bod yn agored a gonest

am amgylchiadau’r drosedd, ystyriodd yr Is-bwyllgor ei bod yn

ddifrifol a diweddar, gan ei bod wedi’i chyflawni ym mis Tachwedd 2021;

                    ystyriodd yr Is-bwyllgor sylwadau

Heddlu Gogledd Cymru, yngl?n â’r cais yn tanseilio

yr amcan atal trosedd, ac nid oedd yn ystyried bod yr Ymgeisydd wedi gweithredu ddigon

fel arall

                    oherwydd yr uchod, roedd yr Is-bwyllgor o’r farn y byddai’r

Amcan Atal Trosedd yn cael ei danseilio pe bai’r drwydded yn cael ei chymeradwyo.

 

4.2       Penderfyniad

 

Darllenodd y Cadeirydd benderfyniad yr Is-bwyllgor (fel yr uchod) a chyn cloi’r cyfarfod, cynghorodd yr ymgeisydd fod ganddo hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad, os yw’n dymuno.

 

Mewn ymateb i’r cwestiwn gan y cynrychiolydd Datrysiadau Hyfforddiant Lletygarwch, esboniodd y Cadeirydd nad oedd digon o amser wedi pasio ers dyddiad y drosedd, ac roedd yr Is-bwyllgor wedi penderfynu na fyddai’r amcan Atal Trosedd yn cael ei ddiwallu.

 

PENDERFYNWYD:

 

Gwrthod y cais, oherwydd nad oedd yr ymgeisydd yn cael ei ystyried yn unigolyn cymwys ac addas i ddal Trwydded Bersonol yn ôl diffiniadau’r Ddeddf Trwyddedu

2003 am y rhesymau canlynol:

 

                    mae yfed a gyrru’n euogfarn berthnasol, ac nid oedd y cyfnod Adfer wedi

dod i ben;

                    er bod yr Ymgeisydd wedi dangos edifeirwch, a bod yn agored a gonest

am amgylchiadau’r drosedd, ystyriodd yr Is-bwyllgor ei fod yn

ddifrifol a diweddar, gan ei bod wedi’i chyflawni ym mis Tachwedd 2021;

                    ystyriodd yr Is-bwyllgor sylwadau

Heddlu Gogledd Cymru, yngl?n â’r cais yn tanseilio

yr amcan atal trosedd, ac nid oedd yn ystyried bod yr Ymgeisydd wedi gweithredu ddigon

fel arall

                    oherwydd yr uchod, roedd yr Is-bwyllgor o’r farn y byddai’r

Amcan Atal Trosedd yn cael ei danseilio pe bai’r drwydded yn cael ei chymeradwyo.