Agenda item

Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 4) a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (Mis 4)

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 4), Adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (Mis 4) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Cyllid Corfforaethol) adroddiadau ar sefyllfa derfynol mis 4 2022/23 ar gyfer monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa a ragwelwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd diffyg gweithredol o £0.285 miliwn (gan eithrio effaith y dyfarniad tâl y byddai angen ei ddiwallu o arian wrth gefn), gan adael balans o £6.911 miliwn yn y gronfa wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn (cyn effaith y dyfarniadau tâl terfynol).   Rhannwyd y wybodaeth ddiweddaraf am effaith cyllid Caledi Llywodraeth Cymru (LlC) ynghyd ag amrywiadau amcanol yn yr adroddiad gan gynnwys newidiadau sylweddol ar draws portffolios.  Cyflwynwyd y sefyllfa bresennol mewn perthynas ag incwm Treth y Cyngor ac effaith dyfarniadau cyflog dan risgiau yn y flwyddyn a risgiau sy’n dod i’r amlwg ynghyd â risgiau eraill gan gynnwys gorwariant a ragwelir ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a Digartrefedd sy’n parhau i gael ei fonitro’n agos.  Disgwyliwyd i bob un o’r arbedion effeithlonrwydd sydd ar y gweill yn ystod y flwyddyn gael eu cyflawni yn 2022/23.   Roedd y sefyllfa gyfredol gyda chronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi yn nodi balans cronfa wrth gefn amcanol o £6.911 miliwn gan eithrio effaith dyfarniadau tâl terfynol.   Byddai adroddiad o’r sefyllfa ddisgwyliedig mewn perthynas â chronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi yn cael ei gyflwyno ym mis 5.

 

Yn y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant arfaethedig o £0.188 miliwn yn fwy na’r gyllideb yn ystod y flwyddyn yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £6.287 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellir.

 

Gan fynegi ei bryder, cyfeiriodd y Cadeirydd at y costau ychwanegol sydd ynghlwm ag amrywiadau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor o £2.2 miliwn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge am wybodaeth gefndirol ynghylch y rhesymau dros y tair elfen o orwariant a pham nad oedd y rhain yn rhan o’r cyllidebau rhagamcanol: (i) gofal preswyl mewnol “yn sgil costau cynnal a staff”, (ii) gorwariant ar gostau cyfreithiol mewn Gwasanaethau Cymdeithasol yn sgil nifer cynyddol o achosion llys a’r defnydd o weithwyr proffesiynol cyfreithiol allanol a (iii) Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a oedd yn cynnwys 40 o leoliadau newydd.   Gofynnodd hefyd am y risg posibl i’r Cyfrif Refeniw Tai ar golli incwm casglu cyfraddau d?r.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod amrywiadau’n anochel o ystyried yr ystod eang o wasanaethau gyda chyllidebau sylweddol ynghyd â newidiadau mewn galw a phwysau chwyddiant.  Nododd bod prosesau cyllidebol cadarn ar waith gan gynnwys y gylched monitro misol sy’n cynnig gwybodaeth fanwl am amrywiadau ar draws y portffolios a’r risgiau sydd ynghlwm â chyllidebau.   Aeth ymlaen i gyfeirio at ansefydlogrwydd rhai gwasanaethau megis Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a’r angen i gynnal lefelau cronfeydd wrth gefn er mwyn diogelu’r Cyngor rhag amgylchiadau annisgwyl.

 

O ran costau cyfreithiol cynyddol mewn perthynas â Gwasanaethau Plant, cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at y broses anodd o sicrhau cydbwysedd wrth osod cyllideb heb or-ragweld gwasanaethau a gaiff eu harwain gan alw, megis diogelu, sy’n ddyletswydd statudol ar y Cyngor.

 

Amlygodd y Prif Weithredwr lefel ac ansawdd y data a ddarperir yn yr adroddiadau monitro hyn a’r heriau sydd ynghlwm â rhagweld meysydd gwasanaeth ansefydlog lle gall amrywiadau godi.   Rhoddodd sicrwydd bod meysydd o’r fath yn cael eu monitro’n agos a bod y sefyllfa’n peri pryder ar y cam hwn yn y flwyddyn ariannol.

 

Cafwyd gohiriad byr cyn ail-gychwyn y cyfarfod.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2022/23 oedd £92.133 miliwn, gan ystyried bod yr holl symiau a ddygwyd ymlaen ac arbedion yn trosglwyddo’n ôl i’r rhaglen.  Roedd newidiadau yn ystod y chwarter olaf yn bennaf oherwydd cyflwyno ffrydiau ariannu grantiau, cymeradwyo dyraniadau ychwanegol yn adroddiad canlyniadau 2021/22 ac ailbroffilio’r gyllideb.  Roedd y sefyllfa alldro a ragwelwyd yn £90.590 miliwn gan adael £1.543 miliwn o danwariant a argymhellwyd y dylid ei gario drosodd er mwyn cwblhau cynlluniau yn 2023/24 fel y nodwyd.   Nodwyd un dyraniad ychwanegol ar gyfer Canolfan Asesu Plant T? Nyth, ac nid oedd unrhyw arbedion wedi’u nodi yn ystod y chwarter hwn.   Roedd y sefyllfa gyffredinol ar ariannu cynlluniau cymeradwy yn adlewyrchu £3.125 miliwn o arian dros ben yn sgil nifer o dderbyniadau cyfalaf a dderbyniwyd yn ystod y chwarter cyntaf, cyn ystyried y derbyniadau cyfalaf  ychwanegol a/neu ffynonellau cyllid.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion yn y ddau adroddiad gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/23 (mis 4) bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet; ac

 

(b)       Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (mis 4) bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet.

Dogfennau ategol: