Agenda item

Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu - Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) - Cau Ariannol ar gyfer Prosiect Campws 3-16, Mynydd Isa

AdroddiadPrifSwyddog (Addysg ac Ieuenctid) - Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden.

 

Atodir y dogfennau canlynol i gynorthwyo Aelodau:

 

·         Copi o adroddiad - Cynaliadwy ar gyfer Dysgu - Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) - Cau Ariannol ar gyfer Prosiect Campws 3-16, Mynydd Isa

·         Copi o’r Cofnod o Benderfyniad

·         Copy o’r Hysbysiad Galw i Mewn

 

Cofnodion:

 

Sylwadau gan y rhai a lofnododd y cais galw i mewn

 

Y Cynghorydd David Mackie

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mackie a oedd y Cabinet blaenorol wedi cymeradwyo prosiect Mynydd Isa.   Eglurodd na ddaethpwyd o hyd i unrhyw dystiolaeth o adroddiad yn ystyried hyfywedd prosiect Mynydd Isa nac unrhyw opsiynau neu werthusiad o’r effaith ar ysgolion eraill.   Yn ogystal â hynny, ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw dystiolaeth o benderfyniad gan Aelodau i ddymchwel Ysgol Argoed.    Roedd y weinyddiaeth flaenorol wedi nodi y dylai Pwyllgorau Craffu ystyried yr eitem hon er mwyn bwydo barn Aelodau’n ôl i’r Cabinet.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019 lle ystyriwyd adroddiad ar brosiect Mynydd Isa.   Darparodd wybodaeth am gyfarfodydd o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid lle darparwyd adroddiadau ar y prosiect MIM ers 2019. Nododd y Cynghorydd Mackie, pan holodd Aelodau gwestiynau am y MIM, mai’r ymateb a gafwyd oedd nad oedd MIM yr un fath â PFI. Ni rannwyd unrhyw wybodaeth â Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu ynghylch dymchwel Ysgol Argoed.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at eitemau 1.16 ac 1.17 yn yr adroddiad i gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019 lle ystyriwyd adroddiad ar y prosiect Mynydd Isa.   Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie hefyd at adroddiadau yn ymwneud â phrosiect Mynydd Isa a’r MIM a oedd wedi cael eu cyflwyno i gyfarfodydd o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2020, 14 Gorffennaf 2020 ac 16 Mawrth 2021.   Dywedodd y Cynghorydd Mackie nad oedd unrhyw wybodaeth yn yr adroddiadau i’r Cabinet ynghylch cynlluniau i ddymchwel Ysgol Uwchradd Argoed.  

 

I gloi, dywedodd y Cynghorydd Mackie bod y llofnodwyr yn teimlo y dylid llunio adroddiad yn amlinellu’r opsiynau, rhesymau a’r goblygiadau ehangach cyn dymchwel Ysgol Argoed.   Gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried opsiwn 4 er mwyn rhoi ystyriaeth bellach i’r eitem yn y Cyngor.   Eglurodd y Cynghorydd Mackie ei bryderon mewn perthynas â defnydd y Cyngor o gynllun y MIM.  

 

Anerchodd y Cynghorydd Richard Jones y Pwyllgor.   Dywedodd ei fod yn bryderus nad oedd y prosiect yn cynrychioli gwerth am arian da i Sir y Fflint na Chymru.   Cyfeiriodd at yr adroddiad diweddaru ar Ysgolion yr 21ain Ganrif - Model Buddsoddi Cydfuddiannol a gyflwynwyd yng nghyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2020, dywedodd fod cost arfaethedig y tâl gwasanaeth blynyddol wedi cynyddu’n sylweddol i £1.187 miliwn fel y nodwyd yn yr adroddiad.   Gwnaeth y Cynghorydd Jones sylw ar gyfanswm cost y prosiect dros 25 mlynedd.   Dywedodd nad oedd y Pwyllgorau Craffu wedi cyfrannu llawer, os o gwbl, at y penderfyniad mewn perthynas â dull ariannu.   Gofynnodd am gyfraddau ymyrraeth, costau cyfalaf ar gyfer dodrefn, gosodiadau, offer a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh), cyfnod cyfalafu’r adeilad, costau ffioedd ofer, ystyriaeth o opsiynau eraill oni bai am y cynllun MIM o ran gwerth am arian ac ansawdd cynnyrch am y cyfnod o 25 mlynedd a thu hwnt.  

 

Soniodd y Cynghorydd Mike Peers am oedran Ysgol Uwchradd Elfed, Bwcle, a oedd yn dipyn h?n nag Ysgol Uwchradd Argoed, a gofynnodd a oedd yr ysgol ‘gywir’ yn cael ei disodli.  Cyfeiriodd at y wybodaeth yn yr adroddiad ar ‘gylch bywyd’ yr adeilad a gofynnodd am eglurhad o Amod A.   Soniodd y Cynghorydd Peers am y cynnydd yng nghostau’r taliadau gwasanaeth blynyddol a gofynnodd a oedd modd gwarantu na fyddai’r costau hyn yn cynyddu ymhellach wrth i’r prosiect ddatblygu. 

 

Ymatebion gan y penderfynwyr

 

Soniodd y Cynghorydd Ian Roberts am yr angen am ddarpariaeth addysg o ansawdd uchel i bobl ifanc yn Sir y Fflint.    Cyfeiriodd at y rhesymau a nodwyd gan y llofnodwyr dros alw i mewn.   Rhoddodd y Cynghorydd Roberts wybod bod y modelau a’r prosiectau cyllid yn Rhaglen Fuddsoddi 21ain Ganrif y Cyngor wedi cael eu hystyried a’u derbyn gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid ar 18 Ionawr 2018 a’r Cabinet ar 23 Ionawr 2018.   Dywedodd bod adroddiadau rheolaidd am y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion wedi cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a’r Cabinet.   Dywedodd y Cynghorydd Roberts bod y MIM wedi cael ei drafod ar sawl achlysur a nododd bod y mwyafrif o aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn fodlon gyda’r model cyllid.   Nid oedd y Cynghorydd Roberts yn teimlo bod diffyg cyfranogiad gan aelodau yn y broses o benderfynu.  

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Mike Peers mewn perthynas ag oedran adeiladau ysgolion yn Sir y Fflint, cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts at adeiladau ysgolion a oedd ar raglen gyfalaf y Cyngor a nododd adeiladau eraill ym mhortffolio’r Cyngor a oedd wedi cael eu dymchwel.   Dywedodd y Cynghorydd Roberts bod adroddiad wedi cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid ar 18 Ionawr 2018 ar Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, Band B y Rhaglen Addysg a’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM).   Cyfeiriodd at adroddiadau pellach a gyflwynwyd i gyfarfodydd y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2018, 20 Rhagfyr 2018, 28 Ionawr 2021, a 3 Chwefror 2022.   Nododd y Cynghorydd Roberts hefyd yr adroddiadau a oedd wedi cael eu cyflwyno i gyfarfodydd y Cabinet ar 24 Ionawr 2018, 17 Mawrth 2020, 19 Tachwedd 2019, 14 Gorffennaf 2020, 21 Medi 2021, a 12 Gorffennaf 2022.   Diolchodd y Cynghorydd Roberts i Swyddogion am eu gwaith.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y manteision addysgol sydd ynghlwm â’r cynnig o greu un campws ar gyfer ysgol gynradd ac uwchradd a chyfleusterau a rennir a fyddai’n darparu gwasanaethau dysgu o’r radd flaenaf i blant rhwng 4 ac 16 oed yn ardal Mynydd Isa.   Eglurodd mai’r uchelgais fyddai cael un corff llywodraethu a fyddai’n fwy effeithlon ac yn symleiddio model busnes gweithredol y ddwy ysgol.    Rhoddodd y Prif Swyddog wybod bod y ddarpariaeth bresennol i fabanod a phlant iau ym Mynydd Isa ar ddau safle gwahanol, nid oedd hyn yn effeithlon o ran rheoli ac roedd hefyd yn golygu bod angen cyfnod pontio, sydd, yn ôl gwaith ymchwil, yn peri gorbryder ac yn arafu cynnydd disgyblion.  Roedd y ddwy ysgol yn gweithio’n dda o fewn eu gr?p consortiwm presennol, a soniodd am ganlyniad rhagorol yr Arolwg Estyn diweddar yn Ysgol Gynradd Mynydd Isa.  

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cwricwlwm newydd i Gymru i’w fabwysiadu ym mhob ysgol gynradd ym mis Medi 2022 a’i gyflwyno ym mhob ysgol uwchradd ym mis Medi 2023.   Dywedodd ei fod yn hanfodol bod ysgolion cynradd ac uwchradd yn gweithio gyda’i gilydd i greu cynnig cwricwlwm di-dor i ddysgwyr a byddai cynnig i greu un campws ym Mynydd Isa’n ategu at hyn.   Wrth sôn am les plant a phobl ifanc, dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r cyfle i gael dysgwyr ar yr un safle gyda’r ddwy ysgol yn gweithio gyda’i gilydd ac yn cysoni polisïau mewn perthynas â phresenoldeb, ymddygiad, a lles, yn brofiad cadarnhaol y gellid ei gynnal hyd at ddiwedd addysg uwchradd disgyblion.   

 

Soniodd y Prif Swyddog am fanteision pellach y cynnig a’r cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol pellach staff a mwy o ddefnydd o staff arbenigol.   Gan gyfeirio at Anghenion Dysgu Ychwanegol, eglurodd fod gan Ysgolion Uwchradd Mynydd Isa ac Argoed unedau adnoddau arbenigol Sirol i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol a oedd yn canolbwyntio ar anawsterau iaith a lleferydd.   Dywedodd y Prif Swyddog ei fod yn hollbwysig bod cefnogaeth arbenigol yn cael ei chynnal i ddisgyblion a chefnogaeth ychwanegol yn cael ei darparu yn ystod y cyfnod pontio o addysg gynradd i addysg uwchradd.   Roedd gan Ysgol Uwchradd Argoed hefyd adnoddau i ddisgyblion gydag anawsterau cyfathrebu cymdeithasol, gan gynnwys disgyblion awtistig, ac roedd y cynnig yn darparu ardal bwrpasol i gefnogi anghenion dysgwyr.    Daeth y Prif Swyddog i’r gasgliad bod campws wedi’i gydleoli a’r buddion sydd ynghlwm â’r trefniant yn hanfodol ar gyfer darparu addysg o ansawdd uchel i ddysgwyr yn yr ardal ac roedd hi’n cefnogi’r model a gynigir yn llwyr. 

 

Darparodd y Rheolwr Corfforaethol ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf ac Asedau gefndir i gynllun y MIM ac amlinellodd y manteision, a dywedodd eu bod yn darparu cyllid ychwanegol i’r rhaglen fuddsoddi.   Heb y MIM, eglurodd y byddai rhaglen lai ar gael yn seiliedig ar fuddsoddiad drwy’r llwybr cyfalaf traddodiadol.   Cynghorodd y byddai’n rhaid i brosiect fodloni meini prawf arbennig i fod yn gymwys ar gyfer y cyllid MIM.   Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Richard Jones, eglurodd y Rheolwr Corfforaethol sut fyddai’r prosiect yn cael ei reoli.   Rhoddodd drosolwg cryno o’r cynnydd ac eglurodd bod y caniatâd cynllunio wedi ei roi ym mis Ionawr 2022, roedd y broses ddylunio/datblygu wedi’i chwblhau ac roedd y prosiect bellach ar y cam adeiladu.   Roedd yr Adeiladwr yn llunio costau terfynol gwirioneddol y modiwlau gwaith ar y prosiect adeiladu ar hyn o bryd.   

 

Darparodd y Rheolwr Corfforaethol eglurhad mewn ymateb i’r cwestiynau a’r sylwadau a godwyd gan Aelodau ar gostau a chyfeiriodd at y cyfraniad cyfalaf, tâl gwasanaeth blynyddol, ffioedd prosiect, a’r costau cronedig pe bai’r prosiect yn cael ei derfynu.   Roedd Achos Busnes llawn y Cyngor yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar hyn o bryd a byddai’n rhaid cael cymeradwyaeth Gweinidogol cyn bwrw ymlaen â’r prosiect.   Disgwyliwyd y byddai LlC yn cyflwyno hysbysiad ffurfiol ym mis Awst.  

 

Soniodd y Rheolwr Corfforaethol am amserlen yr adeilad newydd, oedran a chyflwr gwael yr ysgolion cynradd ac uwchradd presennol ym Mynydd Isa, a’r rhesymau pam na ellir ail-foderneiddio neu uno’r adeiladau presennol gydag ysgolion cyfagos.   Rhoddodd y Rheolwr Corfforaethol sicrwydd i aelodau y byddai LlC yn darparu cefnogaeth lawn o ran rheoli contract y prosiect dros y 25 mlynedd nesaf.   

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol sicrwydd pellach i Aelodau bod swyddogion Cyllid y Cyngor wedi cael eu cynnwys ym mhob agwedd o ddechrau’r prosiect.   Dywedodd hefyd yr ymddengys mai’r MIM oedd yr opsiwn gorau ar gyfer prosiect uchelgeisiol a chytbwys.   Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar oblygiadau’r gyllideb refeniw a chyfalaf.

 

Soniodd y Prif Weithredwr am yr angen i ystyried gwerth ehangach y prosiect yn y gymuned a’r gwelliannau i safonau addysg o ganlyniad i hynny.   

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd gan lofnodwyr a alwodd y penderfyniad i mewn unrhyw gwestiynau pellach.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers beth fyddai’n digwydd pe bai’r contractwr yn cael ei ddiddymu yn ystod y ‘cylch bywyd’ 25 mlynedd.   Eglurodd y Rheolwr Corfforaethol ar gyfer Rhaglen Gyfalaf ac Asedau bod WEPCo (Cwmni Partneriaeth Addysg Cymru) yn gyfrifol am benodi contractwr newydd ac mai nhw fyddai’n ymdrin â’r risg honno.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones am eglurhad pellach o’r uchafswm ariannu taliadau gwasanaeth blynyddol a’r cyfraniad gan y Cyngor.   Eglurodd y Rheolwr Corfforaethol ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf ac Asedau y disgwyliwyd i’r costau gwirioneddol fod yn is na’r uchafswm, fodd bynnag, nid oedd cymeradwyaeth i fwrw ymlaen pe bai’r uchafswm yn cynyddu.   Nododd hefyd mai taliad untro ar gyfer caffael dodrefn, gosodiadau ac offer oedd y ffigwr cyfalaf.    Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at y rhesymau dros alw’r penderfyniad i mewn, sef sicrhau ‘gwerth am arian’ parhaus er gwaethaf y cynnydd sylweddol yng nghostau contract y MIM.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a hoffai unrhyw aelodau o’r Pwyllgor ofyn cwestiwn.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Bill Cease y pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Jones mewn perthynas â’r uchafswm ariannu a ph’un a fyddai’r prosiect yn parhau i gynnig ‘gwerth am arian’ er gwaethaf y cynnydd mewn costau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Ian Roberts at y ddau reswm dros alw’r penderfyniad i mewn, a oedd ynghlwm â’r rhaglen.   Diolchodd i swyddogion am egluro’r goblygiadau addysgol, ariannol a chymdeithasol er mwyn sicrhau bod ‘gwerth am arian’ yn cael ei gyflawni. 

 

 Nododd y Cynghorydd David Mackie nad oedd wedi dod o hyd i adroddiad a oedd yn cymharu prosiect Mynydd Isa gydag unrhyw opsiynau eraill ac nad oedd unrhyw gofnod o benderfyniad gan Aelodau i fwrw ymlaen â’r prosiect.   Dywedodd y Cynghorydd Mackie bod y Rheolwr Cyllid Corfforaethol wedi egluro bod cynllun y MIM wedi’i ystyried yn drylwyr a’i gymeradwyo gan swyddogion cyllid y Cyngor, ac o ganlyniad, roedd yn fodlon ei fod yn addas i’r diben.   Fodd bynnag, roedd yn parhau i fod yn anfodlon nad oedd adroddiad wedi’i ddarparu ar bwrpas y prosiect, cymeradwyaeth yr Aelodau, a’i fod wedi disodli prosiect cynharach i’w adeiladu yn Saltney.     

 

Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i’r Cynghorydd Mackie am ei sylwadau a thynnodd sylw aelodau at yr adroddiad ar Ddull Buddsoddi Cydfuddiannol - Partneriaeth Addysg Cymru Ysgolion yr 21ain Ganrif - Gweithred Ymlyniad a ystyriwyd yng nghyfarfod y Cabinet ar 21 Medi 2021.   Pwysleisiodd y Cynghorydd Roberts bod systemau ar waith a oedd yn galluogi Aelodau i godi pryderon a gofyn am ystyriaeth bellach i faterion gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar unrhyw bryd.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Bernie Attridge mai’r rheswm dros alw’r penderfyniad i mewn oedd y cynnydd sylweddol yng nghostau cynllun y MIM ers 2018 a dywedodd nad oedd y mater hwn wedi cael ei godi ar gyfer ystyriaeth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. 

 

Dogfennau ategol: