Agenda item
Adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau 2022
AdroddiadPrifWeithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol - Aelod Cabinet Cyllid, Cynhwysiant, Cymunedau Cryf gan gynnwys Gwerth Cymdeithasol a Chaffael
Atodir y dogfennau canlynol i gynorthwyo Aelodau:
· Copi o adroddiad Adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau 2022
· Copio’r Cofnod o Benderfyniad
· Copy o’r Hysbysiad Galw i Mewn
Cofnodion:
Sylwadau gan lofnodwyr y galw i mewn
Cyfeiriodd y Cynghorydd Bernie Attridge at y rhesymau a roddwyd dros y galw i mewn, gan ddweud eu bod yn rhesymau eithaf eang ac amlinellodd ei gwestiynau, fel a ganlyn:
- Allai swyddogion gadarnhau’r gwahaniaethau rhwng fersiynau 2 a 3 o’r Polisi Cynhyrchu Incwm (PCI).
- A yw’r Aelod Cabinet yn meddwl ei bod yn dderbynion cynyddu ffioedd a thaliadau am wasanaethau mynwentydd 6% pan nad oes unrhyw newid arfaethedig i ffioedd a thaliadau gorfodaeth parcio sifil.
- Pam bod y ffioedd a’r taliadau cysylltiedig â dathliadau priodas wedi cynyddu’n sylweddol?
- O dan y Polisi Cynhyrchu Incwm mae’n rhaid ystyried effaith ffioedd a thaliadau ar gymunedau. A yw’r Aelod Cabinet yn credu bod effaith y cynnydd mewn ffioedd a thaliadau’n dderbyniol?
- Pa Aelodau sy’n eistedd ar y Bwrdd Rhaglen sy’n ystyried y newidiadau arfaethedig i’r ffioedd a’r taliadau, fel y’u hamlinellir yn y PCI; a
- Lle mae sylwadau’r Bwrdd Rhaglen ar y cynnydd arfaethedig mewn ffioedd a thaliadau?
Cyfeiriodd y Cynghorydd Attridge at reswm 1 dros y galw i mewn sy’n ymwneud â chynnydd o 88% mewn rhent i gr?p cymunedol y teimlwyd y byddai’n cael canlyniadau distrywiol, a phe bai hyn yn cael ei wneud ar draws sir y Fflint gallai achosi goblygiadau cymdeithasol i grwpiau cymunedol eraill. Cododd bryderon ynghylch y cynnydd arfaethedig, yr oedd yn credu iddo gael ei gynnig oherwydd nad oedd y Cyngor wedi adolygu’r rhent ers nifer o flynyddoedd ac nid oedd yn teimlo y dylid cosbi’r gr?p cymunedol oherwydd hyn. Dywedodd nad oedd yn teimlo bod hyn yn dderbyniol o gwbl.
Dywedodd y Cynghorydd Bill Crease ei fod yn teimlo bod y cynnydd arfaethedig o 88% mewn rhent i gr?p cymunedol yn enghraifft o’r hyn all fynd o’i le wrth ddefnyddio mesur safonol yn ddiwahân. Dywedodd bod y gr?p dan sylw wedi treulio llawer iawn o amser yn gwella’ adnodd ar gyfer y gymuned yn arwyddocaol a’i fod wedi rhedeg llawer o sesiynau a fu o fudd i’r gymuned uniongyrchol ac ehangach. Roedd yn teimlo, oherwydd methiant y Cyngor i reoli ei bolisi prydlesu’n gywir ac i adolygu rhent mewn ffordd safonol, bod y gr?p cymunedol hwn yn wynebu cynnydd o 88% am rentu adnodd nad oedd yn rhaid i’r Cyngor, y Gwasanaeth Ceidwaid na Pharc Gwepra wneud unrhyw gyfraniad ariannol tuag ato.
Cyfeiriodd y Cadeirydd, fel un o lofnodwyr y galw i mewn, at ffioedd hurio ystafelloedd o fewn y rhestr o ffioedd a thaliadau nad ydynt wedi cynyddu o gymharu â hurio ystafelloedd y gwasanaethau ieuenctid a chymunedol sydd wedi cynyddu 6%, a gofynnodd pam bod gwahaniaeth. O ran y PCI, gwnaeth sylwadau ar y datganiad yn y polisi y dylai gwasanaethau fod yn barod i roi gwybodaeth ategol i ddangos bod adferiad costau llawn neu gymhariaeth â chyfradd y farchnad yn cael ei wireddu, lle caniateir hynny, ac awgrymodd bod y Pwyllgor, mewn cyfarfod yn y dyfodol, yn derbyn y costau llawn er mwyn cymharu â chyfraddau’r farchnad. Cyfeiriodd hefyd at y datganiad yn y Polisi y dylid casglu gwybodaeth er mwyn deall gallu cwsmeriaid i dalu. Gofynnodd i Aelod y Cabinet a yw’r Bwrdd Rhaglen, wrth drafod ffioedd a thaliadau, yn derbyn tystiolaeth bod gan gwsmeriaid y gallu i dalu.
Ymatebion gan y gwneuthurwyr penderfyniadau
Eglurodd y Prif Weithredwr bod y cynnydd arfaethedig o 88% mewn rhent gr?p cymunedol yn berthnasol i brydles ac nad oedd yn dod o fewn cylch gorchwyl y PCI ac nad oedd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad rhestru ffioedd a thaliadau a gyflwynir i’r Cabinet. Dywedodd bod prydlesi’n cael eu trafod yn unigol a bod y brydles dan sylw ar hyn o bryd dan drafodaeth a bod gohebiaeth wedi’i hanfon at y gr?p cymunedol ond na chafwyd unrhyw ymateb. Mae hwn yn fater sydd ar y gweill o hyd gyda rhagor o sgyrsiau i ddigwydd. O ran prydlesi, mae’r drefn yn wahanol ac yn gyfrifoldeb ar y swyddog priodol perthnasol i eiddo, fel y nodir yn y Cyfansoddiad sy’n ymwneud â chaniatáu prydlesi neu adnewyddu neu aildrefnu prydlesi.
Mewn ymateb i’r pryderon na chafodd y gr?p cymunedol ei hysbysu ynghylch y cynnydd, eglurodd y Prif Weithredwr, pan fo prydles yn dod at y terfyn neu’n cael ei hadolygu, bod trafodaeth yn digwydd gyda’r gr?p cymunedol perthnasol. Dywedodd y byddai’n disgwyl bod trafodaethau’n parhau dros gyfnod o amser felly bydd yn bosibl trafod y brydles. O ran dyddiadau adnewyddu’r brydles, roedd hyn hefyd yn disgyn o fewn swyddogaeth ddirprwyedig y swyddog priodol. Mae adolygiadau o brydlesi’n digwydd yn rheolaidd ac, er eglurder, mae prydles y gr?p cymunedol y mae’r llofnodwyr wedi’i chodi wedi dirwyn i ben, felly mae’n angenrheidiol adolygu’r brydles a chynnal trafodaeth i weld a ydynt yn dymuno trefnu prydles newydd neu drosglwyddo i sefydliad arall. Roedd yn teimlo bod hon yn drefn deg a chyfiawn i bawb sydd â phrydles gyda’r Cyngor.
Mewn ymateb i’r diffyg trafodaeth yn Craffu, eglurodd y Prif Weithredwr bod trafod a phennu lefelau ffioedd a thaliadau’n fater sydd wedi’i ddirprwyo i Brif Swyddogion, fel y nodir yn y Cyfansoddiad
Mewn ymateb i gwestiynau am ddathliadau priodas, eglurodd y Prif Weithredwr (Llywodraethu) y gwahaniaethau rhwng ffioedd statudol a ffioedd yn ôl disgresiwn. Os disgrifir ffi fel un statudol, mae’n ffi sydd wedi’i gosod ac ni ellir ei newid, fodd bynnag os disgrifir ffi fel ‘ffi yn ôl disgresiwn’ gellir defnyddio disgresiwn wrth ei gosod ond nid yw hyn yn golygu bod gan y Cyngor ryddid i bennu unrhyw swm y mae’n dymuno ei osod. Mae Gwasanaethau’r Cofrestrydd yn dod o dan ffioedd yn ôl disgresiwn, ond mae’n rhaid i’r Cyngor allu mantoli’r gyllideb dros gyfnod o 3 blynedd a byddai’r Aelodau’n gweld bod rhai ffioedd wedi cynyddu ac eraill wedi gostwng, sy’n gysylltiedig â’r angen i fantoli ar draws y farchnad. Cyn cynnig newidiadau i ffioedd, bydd Rheolwr y Gwasanaeth Cyswllt Cwsmeriaid yn gwneud cyfrifiadau cymhleth ac mae’r wybodaeth hon o bosibl yn rhywbeth yr hoffai’r Pwyllgor edrych arni mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Mewn perthynas â sut y mae’r Cyngor yn gosod y gyfradd chwyddiant, eglurodd y Swyddog Gweithredol Strategol bod 3 cyfradd chwyddiant y gellid eu defnyddio ac wrth edrych ar y normadol, y mynegai prisiau defnyddwyr yw hwn gyda chostau tai, a byddai fel arfer yn seiliedig ar y flwyddyn pan gynhelir yr adolygiad blynyddol, fel y nodir yn y PCI Cyhoeddwyd y fersiwn cyntaf o’r PCI fis Hydref 2017 gyda’r adolygiad blynyddol cyntaf wedi’i gynnal yn 2019. Yn ôl yr adolygiad roedd angen gwneud prosesau’r polisi’n fwy cadarn ac adroddwyd y newidiadau hynny i’r Pwyllgor Craffu a’r Cabinet yn 2019 gyda hynny’n caniatáu diweddaru’r PCI i amlygu’r mynegeion chwyddiant a ddefnyddiwyd. Cydnabuwyd bod rhai egwyddorion cystadleuol a gwrthgyferbyniol yn y Polisi yn ymwneud ag adfer costau llawn a chydbwyso hynny yn erbyn yr egwyddorion eraill yn y PCI.
O ran y gwahaniaethau rhwng fersiynau 2 a 3 o’r PCI eglurodd y Swyddog Gweithredol Strategol mai mân newidiadau oedd y rhain yn ymwneud â rhoi mwy o eglurder ynghylch rhai rolau a chyfrifoldebau er mwyn sicrhau eu bod yn gyson ac yn glir drwy’r PCI. Mewn ymateb i gwestiwn am rôl y Bwrdd Rhaglen, dywedodd y Swyddog Gweithredol Strategol mai swyddogaeth pob Bwrdd Rhaglen portffolio oedd monitro cynhyrchiant incwm, yn cynnwys ffioedd a thaliadau, fel yr amlinellir yn y PCI. Mae’r adolygiad blynyddol yn dechrau ym mis Ebrill bob blwyddyn pan ystyrir y gyfradd chwyddiant cyn cysylltuâ phob maes gwasanaeth sy’n gyfrifol am ffioedd a thaliadau.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y broses y mae’r tîm cyllid yn ei dilyn, gan egluro mai rôl y tîm yw cydlynu’r modd y rhoddir y PCI ar waith. Yn gyntaf roedd angen cytuno beth fyddai’r cynnydd blynyddol, ac yn seiliedig ar y PCI, cytunwyd ddiwedd mis Mawrth mai 6% fyddai hyn. Wedi hynny codwyd pob ffi a thaliad perthnasol 6%, yn unol â’r atodlen, cyn rhoi gwybod i bob Prif Swyddog, a benderfynodd yn eu tro, gan ddilyn ein barn a’n hegwyddorion proffesiynol o fewn y polisi, a ddylid argymell y cynnydd o 6% neu swm gwahanol i’r Aelod Cabinet perthnasol. Byddai’r ffioedd a’r taliadau newydd yn dod i rym o 1 Hydref 2022, felly yn amodol ar gymeradwyaeth, bydd amser i roi gwybod i gwsmeriaid am y cynnydd.
Mewn ymateb i gwestiwn am yr effaith ar y gyllideb, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y cynnydd sydd wedi’i argymell i’r holl ffioedd a thaliadau’n gyfwerth â chyfraniad o tua £50,000 i’r gyllideb yn ystod y flwyddyn. Byddai hyn yn cael ei symud ymlaen i’r flwyddyn nesaf fel targed effeithlonrwydd incwm net y bydd angen ei wireddu o hyd yn y gyllideb.
Mewn ymateb i’r cwestiwn am orfodaeth parcio sifil, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod trefniadau statudol ychydig yn wahanol yn gysylltiedig â hyn. Dylid cyfrif am yr holl arian a gesglir o ffioedd parcio, ac er y gallai’r Cyngor gynyddu taliadau gorfodaeth parcio sifil, dim ond ar bethau penodol y gellir gwario’r arian, er enghraifft rheolaeth traffig, gwelliannau i barthau cyhoeddus mewn meysydd parcio a chludiant cyhoeddus.
Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts ymddiheuriadau dros yr Aelod Cabinet nad oedd wedi gallu mynychu’r cyfarfod, a dywedodd mai effaith penderfyniadau’r Cyngor ar gymunedau sy’n flaenllaw yn yr holl brosesau gwneud penderfyniadau a bod gallu pobl i dalu am unrhyw gynnydd yng nghostau gwasanaethau yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried. Siaradodd hefyd am degwch, sydd hefyd yn ystyriaeth flaenllaw mewn prosesau gwneud penderfyniadau. Mewn perthynas â thaliadau gorfodaeth parcio sifil, os yw’r Pwyllgor eisiau cynyddu’r taliadau, dywedodd y Cynghorydd Roberts y dylid cyfeirio’r mater i sylw’r Cabinet er ystyriaeth. Dywedodd pan ddaeth yn Arweinydd ei fod wedi synnu nad yw prydlesi’n cael eu hadolygu’n fwy aml, a bod prydlesi r?an yn cael eu hadolygu ar yr un pryd â ffioedd a thaliadau gyda’r effaith ar grwpiau cymunedol yn cael ei ystyried, ond fel y dywedodd y Prif Weithredwr eisoes, disgwylir am ymateb gan y gr?p cymunedol y mae llofnodwyr y galw i mewn yn cyfeirio ato, ac er bod yr effaith ar gymunedau’n bwysig, rhaid codi’r lefel o ffioedd sy’n briodol i lefel y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu.
Mewn ymateb i’r sylwadau’r Cynghorydd Roberts, gofynnodd y Cadeirydd os yw gallu cwsmeriaid i dalu ffioedd a thaliadau uwch hefyd yn cael ei ystyried gan ei fod y poeni na fyddai rhai yn gallu talu. Cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts y Cadeirydd at benderfyniadau’r Cyngor yn ystod y pandemig a’r gefnogaeth a roddwyd i bobl a oedd yn wynebu anawsterau ariannol. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai yna gonsesiynau fel yr amlinellir yn y PCI
Mewn ymateb i sylwadau’r Cadeirydd am y cynnydd mewn taliadau gorfodaeth parcio sifil i wneud yn iawn am gynnydd mewn ffioedd eraill, er enghraifft mynwentydd a hurio ystafelloedd,, eglurodd y Cynghorydd Roberts pe bai’r Pwyllgor yn dymuno cynyddu ffioedd a thaliadau am orfodaeth parcio sifil 6% byddai angen i’r Pwyllgor argymell hyn.
Wrth roi eglurhad ar sylwadau’r Cynghorydd Roberts yngl?n â thenantiaethau ac adolygiadau, dywedodd y Prif Weithredwr nad yw’n bosibl defnyddio rhesymeg syml gyda thenantiaethau sydd ag adolygiadau rhent (a dyddiadau adolygu) wedi’u pennu yn fframwaith cyfreithiol y cytundeb prydlesu. Pan gaiff adolygiadau eu cynnal rhaid ystyried y rhent sy’n cael ei dalu ar y pryd yng ngoleuni cyfraddau presennol y farchnad fel rhan o’r adolygiad hwnnw neu ddal i fyny fel rhan o adnewyddu’r brydles.
Awgrymodd y Cadeirydd y gallai’r Pwyllgor o bosib fod eisiau ystyried gofyn i’r Cabinet roi ystyriaeth i gynyddu ffioedd a thaliadau gorfodaeth parcio sifil er mwyn gostwng y ffioedd a’r taliadau am wasanaethau mynwentydd a hurio ystafelloedd cymunedol. Cyfeiriodd y Swyddog Strategol Gweithredol at sylwadau blaenorol y Prif Swyddog (Llywodraethu) a dywedodd y dylai’r Pwyllgor gofio y bydd rhai ffioedd a thaliadau wedi’u gosod drwy ddeddfwriaeth ac y byddai yna ofynion cyfreithiol ynghlwm â hwy, ac na fyddai felly’n bosibl adfer mwy o gostau mewn un maes i gefnogi maes arall. Lle mae gofynion statudol cysylltiedig â ffioedd a thaliadau mae’r rhain yn drech na’r PCI.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Strategaeth Ariannol ac Yswiriant) nad oes bwriad i gynyddu ffioedd a thaliadau hurio ystafelloedd ieuenctid a chymunedol ac y byddai’r ffi yn aros yr un fath yn 2022 ag yr oedd yn 2021.
Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor
Dywedodd y Cynghorydd Sam Swash nad oedd eitem i’w gweld yn y rhestr o ffioedd a thaliadau sy’n cynnwys cynnydd o 88%. Cododd bryderon nad oedd y galw i mewn yn rhoi unrhyw fanylion i alluogi Aelodau’r Pwyllgor i wneud penderfyniad gwybodus a bod nifer o faterion newydd wedi’u codi yn ystod y cyfarfod nad oeddent wedi’u cyfeirio atynt yn yr hysbysiad o alw i mewn. Dywedodd na allai weld unrhyw reswm da pam bod manylion yr hyn oedd yn cael ei herio’n wedi’u cadw oddi wrth y Pwyllgor tan y cyfarfod ei hun ac roedd yn teimlo bod hyn yn golygu nad oedd hyn yn rhoi cyfle i’r Aelodau gyflawni eu rôl ar y Pwyllgor a chraffu’n llawn ar y penderfyniad.
Gofynnodd y Cynghorydd Chris Dolphin, er yn canmol y Cadeirydd am ei wybodaeth, oni ddylai’r is-gadeirydd fod wedi cadeirio’r cyfarfod gan ei fod yn un o lofnodwyr y galw i mewn. Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ei fod wedi rhoi Cyngor i’r Cadeirydd cyn y cyfarfod, sef os yw Cadeirydd yn bresennol mewn cyfarfod yna nhw ddylai gadeirio, fel sydd wedi’i nodi yn y Cyfansoddiad
Mynegodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson bryder nad oedd gwybodaeth am fynwentydd a gorfodaeth parcio sifil wedi’i rhannu gyda’r Pwyllgor ymlaen llaw fel bod cyfle i ffurfio barn. Dywedodd mewn perthynas â’r cynnydd o 88% mewn rhent gr?p cymunedol, fel yr amlinellwyd yn yr hysbysiad galw i mewn, gyda hwnnw’n gynnydd blwyddyn ar flwyddyn arwyddocaol, na chafwyd unrhyw dystiolaeth gan lofnodwyr y galw i mewn nad oedd y polisi gwerthuso wedi’i gydymffurfio ag o ar yr adeg yma. Holodd a oedd y contract wedi’i weithredu ar y gyfradd gywir yn flaenorol ac a allai hyn fod wedi bod yn groes i’r polisi, lle gallai grwpiau cymunedol eraill ddadlau, gyda pheth cyfiawnhad, bod ffafriaeth wedi digwydd. Dywedodd er bod peidio cynyddu rhent yn ystod y pandemig yn ddealladwy, a hoffai wybod pwy oedd wedi awdurdodi’r lefel yma o rent cyn y pandemig ac a oedd un gr?p cymunedol wedi cael ffafriaeth dros grwpiau eraill.
Dywedodd y Cadeirydd bod y llofnodwyr yn derbyn na ddylai rheswm 1 yn yr hysbysiad galw i mewn fod wedi’i gynnwys ac o ganlyniad i hynny na fyddai cytundebau prydles yn cael eu trafod yn y cyfarfod.
Gofynnodd y Cynghorydd Dolphin am ragor o wybodaeth ynghylch rôl y Bwrdd Rhaglen gan ei fod yn teimlo nad atebwyd cwestiwn y Cynghorydd Attridge am hyn. Gofynnodd y Cynghorydd Attridge ai’r Bwrdd Rhaglen sy’n gwneud penderfyniadau am ffioedd a thaliadau ynteu a ydynt yn cael eu dirprwyo i’r swyddog perthnasol. Dywedodd y Prif Weithredwr nad yw Byrddau Rhaglen yn gwneud penderfyniadau. Fel rhan o gyfarfodydd y Bwrdd Rhaglen byddai trafodaeth weithredol gyda’r Aelod Cabinet ar ffioedd a thaliadau ond yn y pen draw byddai’r penderfyniad yn cael ei ddirprwyo i’r Prif Swyddog i gyflwyno cynigion i’r Cabinet ar gyfer penderfyniad terfynol.
Diolchodd y Cadeirydd i Aelodau’r Pwyllgor am eu cyfraniad a dywedodd mai dymuniad pob aelod yw ceisio sicrhau’r gorau i bobl Sir y Fflint ac roedd yn teimlo y dylai swyddogion ystyried cynyddu ffioedd a thaliadau gorfodaeth parcio sifil er mwyn gwneud yn iawn am y ffioedd a’r taliadau eraill a ddangosir yn yr atodlen.
Atgoffodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y Pwyllgor ynghylch yr opsiynau ar gyfer gwneud penderfyniadau fel y manylir yn eitem 3 ar y rhaglen.
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge Opsiwn 3 a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Crease.
Gofynnodd y Cadeirydd a oedd cynnig y Cynghorydd Attridge yn cynnwys gofyn i’r Cabinet ystyried cynyddu ffioedd a thaliadau gorfodaeth parcio sifil er mwyn gostwng y ffioedd a’r taliadau a ddangosir yn yr atodlen megis mynwentydd. Cadarnhaodd y Cynghorydd Attridge bod hyn wedi’i gynnwys yn yr argymhelliad.
Cynigiodd y Cynghorydd Ibbotson ddiwygiad i gynnig y Cynghorydd Attridge bod rhif 3 yn cael ei newid i rif 1 yn y cynnig. Gofynnodd y Cadeirydd am gyngor o ran ai diwygiad oedd hwn, gan ei fod yn teimlo ei fod yn argymhelliad gwahanol.
Cynghorodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y dylai’r Pwyllgor bleidleisio ar gynnig y Cynghorydd Attridge ac os oedd y cynnig yn aflwyddiannus yna y gallai’r Cynghorydd Ibbotson gynnig bod y Pwyllgor yn cefnogi Opsiwn 1.
Gwahoddodd y Cadeirydd y rhai a wnaeth yr alwad i mewn i grynhoi.
Dywedodd y Cynghorydd Attridge nad oedd ganddo unrhyw beth arall i’w ychwanegu ac roedd yn teimlo bod safbwyntiau llofnodwyr yr alwad i mewn wedi’u hegluro’n ddigon da i’r Pwyllgor.
Dywedodd y Prif Weithredwr na ddylai’r galw i mewn fod wedi’i drafod heddiw oherwydd bod y materion yn rhai sy’n ymwneud â phrydlesi’n hytrach na ffioedd a thaliadau a’r Polisi Cynhyrchu Incwm. Mae’r materion perthnasol i ffioedd a thaliadau wedi’u trafod a’r pwyntiau a godwyd wedi’u hateb yn llawn.
Dywedodd y Cadeirydd bod yr alwad i mewn wedi’i derbyn a’i bod felly’n briodol i’w hystyried.
Yn dilyn cyngor gan y Prif Swyddog (Llywodraethu), cadarnhawyd y gallai’r Cynghorydd Ibbotson siarad ar y cynnig cyn i’r Pwyllgor bleidleisio.
Dywedodd y Cynghorydd Ibbotson nad oedd y Pwyllgor wedi cael cyfle i ystyried y materion a godwyd gan y llofnodwyr yn yr alwad i mewn ymlaen llaw gan olygu nad oedd yr aelodau wedi cael cyfle i wneud eu gwaith o graffu ar y materion yn iawn Siaradodd ar y cynnig yn ymwneud â ffioedd a thaliadau am orfodaeth parcio sifil a’r cyngor a roddwyd gan swyddogion y dylid neilltuo’r refeniw o’r taliadau hyn ar gyfer materion priffyrdd. Roedd yn bryderus pe cefnogwyd y cynnig i gefnog Opsiwn 3 y byddai’r Pwyllgor yn gofyn i’r Cabinet roi’r Cyngor mewn sefyllfa anghyfreithlon.
Dywedodd y Cadeirydd bod hwn yn gyfle i’r Pwyllgor ofyn i’r Cabinet roi sylw i’r anghysondebau yn y ffioedd a’r taliadau. Heriodd yr honiad y byddai’r penderfyniad yn anghyfreithlon gan ddweud mai dim ond os byddai’r arian a gasglwyd yn fwy na’r gwasanaeth a ddarperir y byddai’n anghyfreithlon.
Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau bleidleisio ar Opsiwn 3. Roedd y cynnig yn aflwyddiannus yn dilyn pleidlais.
Cynigiodd y Cynghorydd Ibbotson Opsiwn 1 a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Swash.
Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau bleidleisio ar Opsiwn 1. Roedd y cynnig yn llwyddiannus yn dilyn pleidlais.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb a'u cyfraniad.
PENDERFYNWYD:
Wedi ystyried y penderfyniad, bod y Pwyllgor yn fodlon â’r eglurhad a dderbyniodd felly gellir yn awr gweithredu’r penderfyniad.
Dogfennau ategol:
- Cabinet report - Annual Review of Fees and Charges, eitem 18. PDF 102 KB
- Cabinet Enc. 1 - Schedule of fees, eitem 18. PDF 413 KB
- Cabinet Enc. 2 - Income Generation Policy, eitem 18. PDF 255 KB
- Decision 3991 - Fees and Charges, eitem 18. PDF 66 KB
- Call in Notice, eitem 18. PDF 47 KB