Agenda item

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Gynigion ar gyfer Deddfwriaeth Bws Newydd

Pwpras:        Cynghori Craffu ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer deddfwriaeth bws newydd ac ymateb arfaethedig Sir y Fflint a gofyn am sylwadau gan y Pwyllgor.

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd y Rheolwr Cludiant fod Llywodraeth Cymru (LlC) yn ceisio adborth ar y cynigion Papur Gwyn a fyddai’n newid y ffordd y byddai gwasanaethau bws yn cael eu llywodraethu a’u gweithredu yng Nghymru.  Rhoddwyd trosolwg manwl o weledigaeth LlC a’r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd, ynghyd â gwybodaeth am y ddeddfwriaeth bresennol (Deddf Cludiant 1985 a 2000) a chyfrifoldebau’r Cyngor.  Darparwyd gwybodaeth gefndir ar y darparwyr bysiau masnachol gyda manylion yr adolygiad o’r rhwydwaith craidd a oedd yn cynnwys canolfannau, prif drefi a chyfnewidfeydd cludiant cyhoeddus a gefnogwyd gan y Cyngor gyda llai o wasanaethau yn gweithredu mewn ardaloedd gwledig. Darparodd wybodaeth hefyd am effeithiau dadreoleiddio dros y blynyddoedd o ran gwasanaethau a’r cymorth ariannol a ddarparwyd gan y Cyngor a Grant Cefnogi Rhwydwaith LlC.  Roedd y pandemig wedi amlygu natur fregus y gwasanaethau a’r effeithiau oherwydd y gostyngiad yn nifer y teithwyr. 

 

            Yna, fe adroddodd y Rheolwr Cludiant ar fentrau LlC i alluogi rheoleiddio gwasanaethau bws ar draws Cymru, a oedd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.  Roedd yn manylu ar y rhestr o fesurau a sut y byddai’r rhain yn cael eu rhoi ar waith gyda LlC, awdurdodau lleol a darparwyr, ac yn cynnwys mesurau i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac allyriadau.  Roedd Awdurdodau Lleol o’r farn bod angen gwneud gwelliannau ond roedd ganddynt bryderon mewn perthynas â lefel y cyllid ar gael i gefnogi hyn, yn ogystal â darpariaethau ar gyfer gwasanaethau gwledig.  Gan gyfeirio at Holiadur LlC, darparodd wybodaeth fanwl am y risgiau a’r goblygiadau ariannol allweddol ac fe gadarnhaodd y byddai sylwadau o’r Pwyllgor hwn yn cael eu hadrodd yn ôl.  

 

            Cytunodd yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi gyda’r pryderon a godwyd a soniodd am ei ddeiseb ar-lein i LlC, “Bysiau i Bobl Nid Er Elw”, gyda’r cyn-Gynghorydd Carolyn Thomas.  Roedd yn credu bod y fenter hon yn ceisio dad-wneud niwed dadreoleiddo gan ganolbwyntio ar ecwiti cymdeithasol a lleihau allyriadau carbon, ond bod yna hefyd gwestiynau heb eu hateb mewn perthynas â chymunedau gwledig.  Roedd yn deall yr effeithiau ar gwmnïau bysiau bach (busnesau bach a chanolig) yn enwedig mewn perthynas â chludiant i’r ysgol, ac y gallai LlC ymyrryd a chymryd cyllid o un cynllun er mwyn ei roi i un arall heb unrhyw fewnbwn gan yr awdurdod lleol.  Gallai’r awdurdod fod yn gyfrannwr uchel gydag adnoddau yn mynd i fannau eraill a holodd a fyddai’r holl lwybrau yn ein cymunedau gwledig yn cael eu blaenoriaethu pan fyddai’n weithredol.

           

            Mynegodd y Cynghorydd Mike Peers sawl pryder yngl?n â darpariaeth y rhwydwaith craidd o fysiau a gwasanaethau trawsffiniol a’r angen i sicrhau bod cymunedau gwledig yn cadw eu gwasanaethau.  Roedd yr amwysedd ynghylch cyfuno adnoddau hefyd yn bryderus.  Gan gyfeirio at y gwasanaethau trên, roedd yn credu y gallai’r rheilffordd Wrecsam - Bidston, yn cynnwys Parcffordd Glannau Dyfrdwy, fod yn ganolbwynt defnyddiol ond roedd y materion yn Castle Cement yn achosi problemau.  

 

            Mewn ymateb i bryderon yngl?n â rheilffordd Wrecsam - Bidston, parcffordd Glannau Dyfrdwy a Castle Cement, adroddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) ar gais Trafnidiaeth Cymru am gyllid ffyniant bro i alluogi cyllid ar gyfer Parcffordd Glannau Dyfrdwy, a fyddai’n mynd i’r afael â’r problemau signal ger Castle Cement ac yn caniatáu i ddau drên ychwanegol redeg heb amharu ar eu gwasanaethau cludo.  Byddai’r cais cyfalaf hwn yn cael ei gyflwyno unwaith y byddai’r porthol ar agor.  Darparodd wybodaeth am gais ffiniol aflwyddiannus y llynedd a oedd yn cynnwys cyfleuster parcio a theithio ym Mhenyffordd.  Roedd y cais wedi cael ei newid a byddai’n cael ei ailgyflwyno ond byddai’r ail rownd o ffyniant bro yn si?r o fod yn fwy cystadleuol ond byddai penderfyniad wedi cael ei wneud erbyn yr hydref.

 

            Diolchodd y Rheolwr Cludiant i’r Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi a’r Cynghorydd Mike Peers am eu sylwadau yngl?n ag ailddyrannu cyllid, yn enwedig gan nad oedd gan yr awdurdod unrhyw reolaeth o ran sut yr oedd yn cael ei ddyrannu.   Roedd y meini prawf yn parhau i fod yn anhysbys a cheisir eglurder yngl?n â hynny.   Pe bai hyn yn methu a byddai Sir y Fflint yn cael ei gadael heb wasanaeth bws, byddai’r System Gludiant Integredig yn methu oherwydd bod bysus yn rhan hanfodol o’r amrywiol fathau o gludiant.  Gallai hyn arwain at gynnydd mewn defnydd o geir ac allyriadau CO2.

 

            Roedd y Cynghorydd Dan Rose yn deall yr hyn yr oedd Llywodraeth Cymru yn ceisio ei gyflawni gyda’r un tocyn ar gyfer bysiau a threnau ac ati, a gofynnodd a fyddai’r awdurdod yn dal yn gyfrifol am y mentrau teithio llesol.   A fyddai hyn yn cael gwared ar bwerau’r cyngor i greu llwybrau ychwanegol o amgylch yr hyn a ddarparwyd gan LlC.  Mewn ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr Cludiant y byddai teithio llesol yn parhau oherwydd i’r awdurdod weithio’n agos â Thrafnidiaeth Cymru a LlC ar gynlluniau strategol a llwybrau trawsffiniol ond byddai’n rhaid i hynny gysylltu â’r cynigion a chanfod canolfannau cludiant.  Cadarnhaodd y Cydlynydd Ardal Cludiant nad oedd unrhyw eglurhad wedi dod i law ar effaith trefniadau cludiant lleol a oedd wedi’u hariannu’n llawn gan Sir y Fflint neu’r cyllid o dan fodel masnachfraint. 

 

            Awgrymodd y Cadeirydd, gan nad oedd Pwyllgor wedi gweld yr ymateb terfynol, dim ond y pryderon a godwyd, y dylid cael gwared ar yr ail argymhelliad. Cytunodd y Pwyllgor i hyn.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd y newid i’r argymhellion gan Mike Peers a Roy Wakelam.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor Craffu yn croesawu’r cynigion i gyflwyno deddfwriaeth newydd i wasanaethau bysiau yng Nghymru, ond yn nodi rhai o’r risgiau a’r heriau a amlygwyd yn yr adroddiad hwn.

 

Dogfennau ategol: