Agenda item

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: daeth tri i law erbyn y dyddiad cau.

 

Y Cynghorydd Bernie Attridge - (1) Costau cyfalaf at gyfer Theatr Clwyd (2) Canolfan Ddigartrefedd yn Queensferry; a (3) Staff yn dychwelyd i’r swyddfa.

Cofnodion:

Roedd tri chwestiwn gan y Cynghorydd Bernie Attridge a dderbyniwyd o fewn y terfyn amser wedi cael eu cylchredeg i Aelodau cyn y cyfarfod:

 

“1.   A yw’n bosibl i’r Cyngor llawn gael diweddariad brys ar y Costau Cyfalaf i Theatr Clwyd, a faint o arian sydd raid i Gyngor Sir y Fflint ddod o hyd iddo i wneud iddo ddigwydd?

2.    A yw’n bosibl i ni gael diweddariad brys ar y ganolfan digartrefedd yn Queensferry nad yw wedi cael caniatâd cynllunio, a beth yw cynlluniau Cyngor Sir y Fflint i’w symud a phryd?

3.    A yw’n bosibl rhoi gwybod ar frys i’r Cyngor llawn pryd fydd staff yn dychwelyd i’r swyddfa?”

 

Mynegodd y Cynghorydd Attridge ei siom nad oedd y cwestiynau yr oedd wedi eu cyflwyno wythnosau’n ôl wedi cael eu cynnwys ar y rhaglen ac a anfonwyd at Aelodau dros e-bost y bore hwnnw. Nid oedd yn credu bod ei gwestiynau wedi cael eu trin yn y ffordd gywir a honnodd nad oedd rhai Aelodau wedi cael cyfle i ddarllen y cwestiynau cyn y cyfarfod gan nad oeddent wedi gallu cael mynediad at eu negeseuon e-bost efallai. Cyfeiriodd at yr arfer hanesyddol pan oedd cwestiynau wedi cael eu cylchredeg yn bersonol yng nghyfarfodydd y Cyngor. Am y rheswm hwnnw, gofynnodd am i’w gwestiynau gael ei hailgyflwyno yn y cyfarfod nesaf.

 

Caniataodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Attridge gyflwyno cwestiwn brys yr oedd wedi ei gyflwyno y bore hwnnw, ac roedd hithau wedi ceisio eglurhad pellach arno. Darllenodd y cwestiwn fel a ganlyn:

 

“Rydym yn ymwybodol o dri newid pwysig ar wahân yn ymwneud â Thai ond yn bennaf i denantiaid Cyngor Sir y Fflint, a’u rhyngweithio ag Aelodau. Ymhlith y materion a nodwyd mae:

1.    Atal hysbysu Aelodau am denantiaid newydd yn symud i’w ward.

2.    Defnyddio GDPR fel rheswm i atal Aelodau rhag cynorthwyo tenantiaid Cyngor Sir y Fflint; a

3.    Hysbysu tenantiaid Cyngor Sir y Fflint yn ddiweddar am newidiadau sylweddol i gytundebau tenantiaeth sy’n effeithio ar bob Tenant, heb roi gwybod i Aelodau, felly nid yw Aelodau’n gallu ateb cwestiynau’r Tenantiaid am y newidiadau hyn. Gan fod y newidiadau hyn yn ymddangos fel awydd i ddatgysylltu’r berthynas rhwng Aelod/Tenant, a all yr Aelod Cabinet Tai gadarnhau’n bendant nad dyma’r achos a’i fod yn ddim byd ond amryfusedd cyfathrebu a dealltwriaeth?”

 

Fel Aelod Cabinet Tai ac Adfywio, dywedodd y Cynghorydd Sean Bibby nad oedd yn ymwybodol o unrhyw newidiadau ac y byddai’r materion a godwyd yn cael eu trafod â’r Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau).

 

Ar ôl gofyn am gyngor, datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol fel tenant mewn t? Cyngor.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod yr arfer o rannu cwestiynau a gyflwynwyd ymlaen llaw fel copïau papur yng nghyfarfodydd y Cyngor wedi newid yn ystod y blynyddoedd diweddar oherwydd bod Aelodau’n cymryd rhan mewn cyfarfodydd ar-lein drwy gydol y pandemig. Fodd bynnag, cytunodd y byddai’n well eu rhannu dros e-bost ac fel copïau papur mewn cyfarfodydd hybrid pan oedd mwyafrif y cyfranogwyr yn bresennol.

 

Fel yr awgrymwyd gan y Prif Swyddog, cytunodd y Cynghorydd Attridge y byddai’r ymatebion i’w dri chwestiwn a gyflwynwyd yn flaenorol yn cael eu cylchredeg i bob Aelod a chael eu cynnwys yn y cofnodion. Eglurodd y Cadeirydd y byddai ymateb ysgrifenedig i’r cwestiwn brys hefyd yn cael ei gylchredeg. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cylchredeg ymatebion ysgrifenedig i’r tri chwestiwn a’r cwestiwn brys a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Attridge i bob Aelod.