Agenda item

Strategaeth ariannol tymor canolig a chyllideb 2023/24

Pwrpas:        Cyflwyno'r amcangyfrif cyntaf ar gyfer gofyniad cyllideb 2023/24 a'r strategaeth ar gyfer ariannu'r gofyniad.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr eitem ac eglurodd bod y Cyngor yn adolygu ac yn diweddaru’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn flynyddol, a chyn cynllunio'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol.

 

Mae’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn rhagweld yr adnoddau fyddai’r Cyngor ei angen i fodloni ein sail costau sy’n newid yn gyson, ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Roedd y rhagolwg diwygiedig yn dangos bod y Cyngor yn debygol o gael isafswm gofyniad cyllidebol o £16.503 miliwn ychwanegol o adnoddau refeniw ar gyfer 2023/24.

 

Yn ystod yr hydref, byddai’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn cael eu gwahodd i adolygu pwysau costau, a’r cyfleoedd ar gyfer rheoli costau ac effeithlonrwydd, o dan eu cylch gorchwyl perthnasol. Byddai gweithdai’n cael eu cynnal i Aelodau i egluro’r sefyllfa a ragwelir a’r strategaeth cyllideb yn fwy manwl. Byddent yn cael eu trefnu ar gyfer mis Medi.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi’r strategaeth i gyflawni cyllideb gyfreithiol, gytbwys, oedd yn seiliedig ar gyllid cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru drwy Gyllid Allanol Cyfun, nodi arbedion effeithlonrwydd gwasanaeth a chorfforaethol a chynnydd blynyddol mewn Treth y Cyngor.

 

Fel rhan o’r Setliad Llywodraeth Leol 2022/23, roedd y Cyngor wedi cael ffigurau dangosol ar gyfer 2023/24 a 2024/25.  Er bod hyn yn cael ei groesawu, byddai setliad Llywodraeth Leol y ddwy flynedd nesaf yn sylweddol is na’r ddwy flynedd flaenorol, oedd yn golygu heriau sylweddol ac yn cynyddu’r swm oedd angen ei fodloni o ffynonellau eraill.

 

Roedd Aelodau’n ymwybodol, er y gellid nodi rhai arbedion cost ac effeithlonrwydd fel rhan o’r broses cyllideb flynyddol, ar ôl degawd o dan-gyllido llywodraeth leol, nad oes arbedion costau o raddfa ar ôl, ac roedd y Cyngor wedi glynu at yr egwyddor na fyddai’r Cyngor yn lleihau cyllideb ar gyfer unrhyw wasanaeth i’r pwynt ble bydd y gwasanaeth yn anniogel. Wrth wneud hynny, ni fyddwn yn bodloni ein dyletswyddau statudol neu ein safonau ansawdd.

 

Felly, byddai’r angen i ystyried meysydd o ddiwygio gwasanaethau i greu mwy o arbedion cost pan fyddai’n bosibl, yn faes ble byddai angen i’r Cyngor wneud llawer iawn o waith arno dros yr haf i ddod o hyd i ddatrysiadau fyddai’n galluogi'r Cyngor osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys. 

 

Roedd amserlen y gyllideb wedi’i hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Strategol y trefniadau ar gyfer y gweithdai i Aelodau, fyddai’n galluogi pob Aelod i fynd drwy’r ffigurau’n fwy manwl. Hefyd, o ran y Dyfarniadau Cyflog Cenedlaethol, pe bai’r ffigwr yn fwy na 3.5%, byddai hynny’n rhoi mwy o bwysau ar y gyllideb ar gyfer 2023/24.  Eglurodd y Prif Weithredwr ei bod yn broses heriol o ran y gyllideb a phwysleisiodd bwysigrwydd y Gweithdai i Aelodau.  Yn dilyn ceisiadau, cadarnhaodd y byddai sesiwn friffio i’r holl Aelodau yn cael ei chynnal ar 22 Gorffennaf, gan John Rae o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ar sut mae’r fformiwla cyllido’n gweithio.  

 

O ran dyfarniadau cyflog i athrawon, dywedodd y Cynghorydd Roberts y byddai pob hanner canran ychwanegol yn gyfystyr â thua £200,000 yn fwy. Byddai hynny’n berthnasol i’r holl weithlu. 

 

 

PENDERFYNWYD:

                                          

(a)       Derbyn a nodi’r gofyniad ychwanegol o ran y gyllideb;

 

(b)       Cytuno ar y broses a’r amserlen ar gyfer y gweithdai i Aelodau;

 

(c)        Cyfeirio’r pwysau costau at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn yr hydref; a

 

(d)       Nodi’r atebion sydd ar gael i fodloni’r pwysau costau ac ailosod y strategaeth gyllido ar gyfer 2023/24.

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts y byddai newid i drefn yr eitemau ar y rhaglen ac y byddai eitem rhif 23 ar y rhaglen: Cynllun y Gwasanaeth Bwyd 2022-23 ar gyfer Cyngor Sir y Fflint yn cael ei ystyried nesaf.

 

Dogfennau ategol: