Agenda item
Diweddariad Llywodraethu ac Ymgynghoriadau
- Cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd, Dydd Mercher, 15fed Mehefin, 2022 9.30 am (Eitem 7.)
- View the declarations of interest for item 7.
- Cefndir eitem 7.
Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion llywodraethu.
Cofnodion:
Cyflwynodd Mr Latham adroddiad y Diweddariad Llywodraethu gan amlygu ei fod fel arfer ar gyfer ei nodi, ond roedd ganddo argymhelliad ynghylch MiFID II yn yr adroddiad hwn. Oherwydd bod aelodau newydd yn y Pwyllgor, aeth trwy’r adroddiad gan ddechrau gyda diweddariad o’r cynllun busnes a dywedodd bod y Gronfa yn cynllunio hyfforddiant sefydlu i’r aelodau newydd ar risgiau seiber a pharhad busnes.
Roedd y Gronfa wedi bod yn aros i un cod newydd TPR gael ei gyhoeddi ond roedd hyn wedi’i oedi ymhellach.
Nododd Mrs McWilliam y pwyntiau allweddol canlynol mewn perthynas â’r Bwrdd Pensiwn gyda’r cadeiryddion:
- Cafodd Phil Pumford ei ail-benodi fel Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun ar gyfer y cyd-undebau llafur (fel yr amlinellir ym mharagraff 1.02). Cytunodd y Prif Weithredwr ar hyn yn ffurfiol yn unol â’r cyfansoddiad a nododd Mrs McWilliam pa mor ddiolchgar oedd hi am barodrwydd Mr Pumford i sefyll am dymor arall.
- Yng nghyfarfod y Bwrdd Pensiwn ar 8 Mehefin, cafwyd trafodaethau ar y strategaeth gyfathrebu arfaethedig, gwytnwch diogelwch seiber a’r prisiau actiwaraidd. Roeddent wedi trafod defnydd o’r wefan gan fod y Bwrdd wedi gofyn i weld nifer y bobl a oedd wedi edrych ar y wefan trwy gyfrwng y Gymraeg. Nodwyd bod oddeutu 60 o bobl yn edrych ar y wefan yn Gymraeg (allan o’r miloedd o bobl sy’n edrych arni yn Saesneg), felly byddai gwaith pellach yn cael ei wneud i dynnu sylw at y dewis o fersiwn Gymraeg.
- Gwahoddwyd aelodau’r Bwrdd i gwblhau arolwg yngl?n ag effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu’r Bwrdd.
Esboniodd Mr Latham gefndir yr argymhelliad yn ymwneud ag ‘optio i fyny’ i statws proffesiynol ar gyfer MiFID II fel yr amlinellir ym mharagraff 1.05. Roedd y Gronfa yn cael ei dosbarthu fel cleient manwerthu sy’n cyfyngu ar y gwasanaethau buddsoddi penodol y gall ymgynghorwyr a rheolwyr cronfa eu darparu, oni bai eu bod yn ‘optio i fyny’ i statws proffesiynol. I gael eu trin fel cleient proffesiynol, mae’n rhaid iddynt ddangos bod ganddynt wybodaeth briodol i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir. Roedd gan y Prif Weithredwr blaenorol (Cyngor Sir y Fflint) gyfrifoldeb am lofnodi’r cyflwyniadau ‘optio i fyny’, ond cynigwyd y dylid dirprwyo’r cyfrifoldeb hwn bellach i Mr Latham fel Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd. Byddai cofnodion y cyfarfod hwn wedi’u cymeradwyo yn rhan o’r cyflwyniad i ‘optio i fyny’ a rennir gydag ymgynghorwyr a rheolwyr.
Fel yr amlinellir ym mharagraff 1.06, rhoddodd Mr Latham grynodeb o’r datblygiadau o ran p’un a ystyrir bod y CPLlL yn cydymffurfio â Sharia ai peidio. Cadarnhaodd bod barn gyfreithiol yn cael ei cheisio gan Fwrdd Ymgynghorol y CPLlL.
Roedd Mr Latham yn eistedd ar bwyllgor yr awdurdod lleol o Gymdeithas Pensiynau a Chynilion Oes (“PLSA”) ac roedd yn rhan o’r gwaith i ddrafftio’r adroddiad fel yr amlygir ym mharagraff 1.08. Mae’r adroddiad yn ystyried yr heriau a’r cyfleoedd yn y CPLlL.
Roedd meysydd allweddol yn ymwneud â pholisi, gweithredu a monitro strategaeth ym mharagraff 1.09 ac roedd digwyddiadau hyfforddiant a gynhelir yn y dyfodol yn gynwysedig er mwyn i aelodau’r Pwyllgor eu nodi a’u mynychu.
Mae’r Gronfa yn cofnodi ac adrodd ar unrhyw dor-cyfraith ym mhob Pwyllgor. Aethpwyd i’r afael â’r achosion newydd o dor-cyfraith a ychwanegwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor ym mharagraff 1.10 ar dudalen 91.
Roedd cyfrifoldebau dirprwyedig yn eitem safonol o baragraff 1.11 ac roedd atodiad 7 yn cynnwys yr Atodlen Dirprwyo Swyddogaethau i Swyddogion y Pwyllgor wedi’i ddiweddaru mewn perthynas â’r argymhelliad yn ymwneud â MiFID II.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn ystyried a nodi’r diweddariad.
(b) Cytunodd y Pwyllgor y dylai’r gwaith o gwblhau a chyflwyno unrhyw geisiadau i ‘optio i fyny’ i statws cleient proffesiynol mewn perthynas â MiFID II yn y dyfodol gael ei ddirprwyo i Bennaeth Gronfa Bensiynau Clwyd.
Dogfennau ategol:
- Governance Update and Consultations, eitem 7. PDF 164 KB
- Enc. 1 for Governance Update and Consultations, eitem 7. PDF 103 KB
- Enc. 2 for Governance Update and Consultations, eitem 7. PDF 232 KB
- Enc. 3 for Governance Update and Consultations, eitem 7. PDF 469 KB
- Enc. 4 for Governance Update and Consultations, eitem 7. PDF 59 KB
- Enc. 5 for Governance Update and Consultations, eitem 7. PDF 75 KB
- Enc. 6 for Governance Update and Consultations, eitem 7. PDF 94 KB
- Enc. 7 for Governance Update and Consultations, eitem 7. PDF 153 KB
- Enc. 8 for Governance Update and Consultations, eitem 7. PDF 56 KB
- Enc. 9 for Governance Update and Consultations, eitem 7. PDF 252 KB