Agenda item
Goddefebau
Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.
Bydd aelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn y cyfarfod tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad.
Cofnodion:
Eglurodd y Swyddog Monitro y derbyniwyd dau o geisiadau am oddefebau ar ôl dosbarthu’r rhaglen.
Y Cynghorydd Bill Crease
Ceisiai’r Cynghorydd Crease oddefeb i ysgrifennu at swyddogion Cyngor Tref Cei Connah a Chyngor Sir y Fflint neu siarad â hwy, i ysgrifennu at Gyngor Tref Cei Connah a Chyngor Sir y Fflint a’u pwyllgorau, siarad yn eu cyfarfodydd a/neu ateb cwestiynau ynddynt, i aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth, ac i bleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyngor a’r Pwyllgor Cynllunio yng Nghyngor Tref Cei Connah a Chyngor Sir y Fflint. Roedd a wnelo’r cais â’r ffaith ei fod yn ddeiliad un o’r lleiniau yn Lôn y Felin. Roedd ei wraig hefyd yn ddeiliad un o’r lleiniau yn Lôn y Felin. Roedd hefyd yn Gadeirydd Cymdeithas Rhandiroedd Lôn y Felin.
Credai y byddai ei wybodaeth gefndirol, gan gynnwys bod yn Gadeirydd Cymdeithas Rhandiroedd Lôn y Felin, yn dod ag arbenigedd i unrhyw drafodaethau yngl?n â rhandiroedd. Roedd o’r farn y byddai dan anfantais o beidio â chael cyfrannu mewn cyfarfodydd, yn enwedig felly yn sgil newid yn y ddeddfwriaeth yn ddiweddar a ganiatâi i aelodau o’r cyhoedd siarad mewn cyfarfodydd,
Y Cynghorydd Antony Wren
Ceisiai’r Cynghorydd Wren oddefeb i ysgrifennu at swyddogion Cyngor Tref Cei Connah a Chyngor Sir y Fflint neu siarad â hwy, i ysgrifennu at Gyngor Tref Cei Connah a Chyngor Sir y Fflint a’u pwyllgorau, siarad yn eu cyfarfodydd a/neu ateb cwestiynau ynddynt, i aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth, ac i bleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyngor a’r Pwyllgor Cynllunio yng Nghyngor Tref Cei Connah a Chyngor Sir y Fflint. Roedd a wnelo’r cais â’r ffaith ei fod yn denant ar un o’r lleiniau yn Rhandiroedd Lôn y Felin, Cei Connah (eiddo Cyngor Sir y Fflint wedi’i osod ar brydles i Gyngor Tref Cei Connah), yn Ysgrifennydd Cymdeithas Rhandiroedd Lôn y Felin, yn aelod o Bwyllgor Safonau Cyngor Sir y Fflint, a’i fod ddim yn uwchraddol nac israddol i unrhyw denant arall.
Esboniodd fod ei wraig hefyd yn ddeiliad un o’r lleiniau yn Lôn y Felin. Roedd ei resymau dros geisio goddefeb yr un fath â rhai’r Cynghorydd Crease.
Rhoes y Swyddog Monitro gyngor i’r Pwyllgor yngl?n â chaniatáu goddefebau a soniodd am geisiadau tebyg a ddaeth gerbron y Pwyllgor Safonau yn y gorffennol.
DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD
Cynigiodd y Cadeirydd y dylai’r cyfarfod fynd i sesiwn caeedig – yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol (Hawl i Wybodaeth) 1985. Eiliwyd hyn gan Gill Murgatroyd.
Aeth y Cynghorwyr Crease a Wren i’r ystafell aros ar-lein ac ataliwyd ffrwd fyw’r cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan yr ystyrid fod yr eitem yn eithriedig yn rhinwedd paragraff 18C, Rhan 4, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Yn dilyn y drafodaeth caniatawyd i’r Cynghorwyr Crease a Wren ddychwelyd i’r cyfarfod ac fe ail-ddechreuodd y ffrwd fyw.
PENDERFYNWYD:
(a) Caniatáu goddefeb i’r Cynghorydd Bill Crease fel Cynghorydd Sir y Fflint a Chynghorydd Tref Cei Connah dan baragraffau (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Goddefebau) (Cymru) 2001 i ysgrifennu at swyddogion Cyngor Tref Cei Connah a Chyngor Sir y Fflint a siarad â hwy, ac i siarad yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Cei Connah a Chyngor Sir y Fflint a’u gweithgorau/is-bwyllgorau ac ateb cwestiynau ynddynt, ond ar yr amod y byddai’n rhaid iddo ymadael â’r ystafell wrth drafod y mater neu bleidleisio yn ei gylch. Wrth siarad â swyddogion byddai’n rhaid i dyst annibynnol fod yn bresennol a byddai’n rhaid cymryd cofnodion o unrhyw gyfarfodydd felly. Caniatawyd goddefeb am ddeuddeg mis tan 5 Mehefin 2023.
(b) Caniatáu goddefeb i’r Cynghorydd Antony Wren fel Cynghorydd Sir y Fflint a Chynghorydd Tref Cei Connah dan baragraffau (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Goddefebau) (Cymru) 2001 i ysgrifennu at swyddogion Cyngor Tref Cei Connah a Chyngor Sir y Fflint a siarad â hwy, ac i siarad yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Cei Connah a Chyngor Sir y Fflint a’u gweithgorau/is-bwyllgorau ac ateb cwestiynau ynddynt, ond ar yr amod y byddai’n rhaid iddo ymadael â’r ystafell wrth drafod y mater neu bleidleisio yn ei gylch. Wrth siarad â swyddogion byddai’n rhaid i dyst annibynnol fod yn bresennol a byddai’n rhaid cymryd cofnodion o unrhyw gyfarfodydd felly. Caniatawyd goddefeb am ddeuddeg mis tan 5 Mehefin 2023.
Dogfennau ategol:
- Dispensation - Cllr Bill Crease, eitem 2. PDF 644 KB
- Dispensation Form - Cllr Antony Wren, eitem 2. PDF 58 KB