Agenda item

Etholiadau Cyngor Sir y Fflint Dydd Iau 5 Mai 2022

Pwrpas:        I adrodd i’r Cyngor Sir ar gynnal a chanlyniadau etholiadau Cyngor Sir 2022.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad am ganlyniadau etholiadau’r Cyngor Sir yn 2022.  Cadarnhaodd yr adroddiad fod yr etholiadau lleol wedi eu cynnal yn unol â chyfraith etholiadau, canllawiau, arferion cyffredin a’r safonau perfformiad sydd wedi eu gosod ar gyfer Swyddogion Canlyniadau.  Nododd yr adroddiad gyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor ar gyfer y tymor newydd. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod proses yr etholiadau lleol wedi bod o safon uchel a bod uniondeb wedi ei gynnal.  Mynegodd ei werthfawrogiad o ymroddiad a phroffesiynoldeb timau Etholiadau a Rheoli’r Cyfrif, a chydweithrediad pawb a fu’n rhan o’r broses etholiadol, gan gynnwys llawer o sefydliadau lleol a ddarparodd eu heiddo i fod yn orsafoedd pleidleisio, a Choleg Cambria am ddarparu lle ar gyfer Canolfan Gyfrif.   Diolchodd y Prif Weithredwr hefyd am gydweithrediad yr ymgeiswyr, asiantwyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr am ddilyn y cyngor ac arweiniad a roddwyd drwy gydol y cyfnod cyn yr etholiad.

 

Hysbysodd y Prif Weithredwr ei fod, ar y cyd â’r Tîm Etholiadau, wedi gwerthuso perfformiad a dysg o’r etholiadau er mwyn eu rhannu â’r Comisiwn Etholiadol ar gyfer ei adroddiad gwerthuso cenedlaethol, ac ar gyfer cynllunio etholiadau yn y dyfodol.  Tynnodd sylw ar y defnydd helaeth o’r cyfryngau cymdeithasol yn ystod cyfnod yr etholiad, a, chan gyfeirio at ganllawiau cyfredol y Comisiwn Etholiadol yngl?n â’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y byddai’r angen am fwy o eglurhad yn cael ei godi mewn adborth ffurfiol i’r Comisiwn.    

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod Sir y Fflint yn parhau i fod yn uchel ei pharch am y dull o reoli etholiadau, yr arferion a’r ddarpariaeth.  Dywedodd fod y nifer a bleidleisiodd yn yr etholiad wedi bod ychydig yn is yn 2022 (36%) nag yn 2017 (38.73%), a thynnodd sylw at ganlyniadau’r etholiad fel y’u nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i’r Tîm Etholiadau, Timau Rheoli’r Cyfrif, a phawb a fu’n rhan o broses yr etholiadau.  Dywedodd fod yr etholiadau a’r cyfrif wedi eu trefnu a’u cynnal yn dda.  Talodd y Cynghorydd Roberts deyrnged yn arbennig i’r Swyddog Canlyniadau am ei berfformiad canmoladwy drwy gydol yr etholiadau, a’i gyngor ac arweiniad wrth ymateb i’r holl faterion a godwyd.  Wrth ddod i gasgliad, diolchodd y Cynghorydd Roberts hefyd i’r holl ymgeiswyr a oedd wedi cyflwyno’u henwau ar gyfer yr etholiadau lleol. 

 

Cytunodd y Cynghorydd Bernie Attridge gyda sylwadau’r Cynghorydd Roberts, a diolchodd i’r Swyddog Canlyniadau, y Dirprwy Swyddog Canlyniadau, a phawb a fu’n rhan o broses yr etholiadau am eu heffeithlonrwydd a’u proffesiynoldeb.

 

Diolchodd y Cynghorwyr Chris Bithell, Marion Bateman, Bill Crease, Gladys Healey, Dennis Hutchinson, Hilary McGuill, Richard Jones a Billy Mullin i Swyddogion a staff am eu gwaith, eu hymroddiad, ac am reolaeth a chanlyniad llwyddiannus i’r etholiadau. 

 

Tynnodd y Cynghorydd Richard Jones sylw at yr angen i gydnabod y gwasanaeth a roddwyd gan gyn-Gynghorwyr na fyddai’n dychwelyd ar gyfer tymor arall yn eu swydd gyda’r Cyngor Sir.  Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y cyflwynid bathodyn i Gynghorwyr pan fônt yn ymddeol, a chynhelid digwyddiad dinesig yn ddiweddarach yn y flwyddyn a fyddai’n cynnwys Cynghorwyr nad oedd yn dychwelyd, er mwyn cydnabod eu hamser mewn gwasanaeth cyhoeddus. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge yr argymhellion, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Helen Brown.    

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: