Agenda item
Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
- Cyfarfod Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, Dydd Iau, 30ain Mehefin, 2022 2.00 pm (Eitem 6.)
- Cefndir eitem 6.
Diweddariad i’r Aelodau ar weithrediad y cynllun ac unrhyw ddiweddariadau cenedlaethol/rhanbarthol.
Cofnodion:
Eglurodd yr Uwch-reolwr (Ymgynnwys a Chynnydd) y prif bwyntiau yn yr adroddiad, gan sôn fod Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2008 wedi dod i rym yn 2008, ond heb ei gweithredu’n llawn nes Medi 2021.
Byddai’r cyfundrefnau Anghenion Addysgol Arbennig ac Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gweithredu ochr yn ochr am dair blynedd. Darparwyd gwybodaeth yngl?n â’r prosesau ar gyfer adnabod a oedd gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol a symud plentyn o un gyfundrefn i’r llall, ac esboniwyd y Cynlluniau Datblygu Unigol. Ers cyhoeddi’r Cod bu modd sefydlu prosesau a phaneli ar gyfer adnabod a oedd gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol a gweithredu’r Cynlluniau Datblygu Unigol.
Dywedodd yr Uwch-reolwr (Ymgynnwys a Chynnydd) fod y Cod yn pennu nifer o swyddogaethau statudol, gan gynnwys creu swyddi Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn ysgolion a’r Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y Blynyddoedd Cynnar â chyfrifoldeb am blant cyn ysgol. Rhoddwyd braslun o’r system ECLIPSE a oedd yn sicrhau bod ysgolion a’r awdurdod yn cyflawni eu cyfrifoldebau ac yn bodloni’r gofynion newydd ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Darparwyd gwybodaeth yngl?n â’r hyfforddiant a ddarperid i ysgolion, y gofynion newydd a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn ysgolion, yn ogystal â newidiadau ar gyfer dysgwyr ôl-16.
Cadarnhaodd yr Uwch-reolwr (Ymgynnwys a Chynnydd) ei bod yn aelod o’r Gr?p Llywio Cenedlaethol a sefydlwyd i gynorthwyo Cynghorau â’r Ddeddf ADY a’r Tribiwnlys Addysg a sicrhau bod y gwaith o ddatblygu cynllun ariannu ôl-16 yn deg i’r holl awdurdodau lleol. Cadarnhaodd yr heriwyd Llywodraeth Cymru yngl?n â niwtraliaeth costau’r ddeddfwriaeth ADY newydd, gan gynnwys llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor hwn, ac yn sgil hynny bod Llywodraeth Cymru bellach yn darparu ychwaneg o gyllid am dair blynedd i gynghorau ac ysgolion. Rhannwyd mwy o wybodaeth hefyd am y modd y bwriedid defnyddio’r grant.
Soniodd yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol fod teuluoedd ac ysgolion wedi ymateb yn gadarnhaol iawn i’r system a’r prosesau newydd. Bu mwy o gydweithio â’r Cydlynwyr ADY, plant a phobl ifanc a rhieni, yn unol ag egwyddorion y Cyngor. Roedd yr ymateb yn galonogol.
Mynegodd y Cynghorydd Save Mackie bryderon y gallai hyn droi’n broses lafurus a drud i ysgolion. Soniodd am ganllawiau Llywodraeth Cymru yngl?n â’r prosesau ar gyfer dysgwyr ôl-16 a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac awgrymodd bod y Cydbwyllgor yn derbyn adroddiad yngl?n â’r dull o adnabod anghenion a chomisiynu addysg ôl-16 ar gyfer pobl ifanc Sir y Fflint. Roedd y Pwyllgor o blaid yr awgrym hwn.
Cadarnhaodd yr Uwch-reolwr (Ymgynnwys a Chynnydd) y byddai’r cyllid dan adolygiad parhaus, a rhoes wybodaeth am gyfarfodydd y fforwm y bu swyddogion a gweinidogion Llywodraeth Cymru’n bresennol ynddynt er mwyn sicrhau fod hyn yn ganolog i’r trafodaethau. Rhoes wybodaeth fanwl am gyfarfodydd y gweithgor rhanbarthol ôl-16 a’r dull gweithredu ‘llifo drwodd’, a chytunodd i ddod ag adroddiad gerbron y Cydbwyllgor yn fuan.
Holodd Mrs Lynn Bartlett a oedd yr holl blant yn symud o un system i’r llall, ynteu a oedd rhai o’r plant nad oeddent yn bodloni’r meini prawf. Roedd hi’n falch hefyd bod Iechyd yn cynorthwyo â hyn, yn enwedig felly gyda phlant yn y blynyddoedd cynnar. Cadarnhaodd yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol fod y diffiniad o Anghenion Dysgu Ychwanegol yn eithaf tebyg i Anghenion Addysgol Arbennig, ond y gallai rhai disgyblion bellach dderbyn cymorth drwy ddarpariaeth gyffredinol yr ysgol heb fod angen Cynllun Datblygu Unigol. Eglurodd y gallai fod llai o blant yn cael eu hadnabod yn ffurfiol ag ADY, ond fod ysgolion bellach yn cynnwys rhieni a theuluoedd yn fwy yn y penderfyniadau hyn, a’r flaenoriaeth oedd sicrhau y bodlonid anghenion yr unigolion dan sylw. Cadarnhaodd y bu cysylltiadau da â chydweithwyr iechyd erioed.
Holodd y Cadeirydd yngl?n â hawl rhieni i apelio, a dywedodd yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol fod rhieni’n dal â’r hawl i apelio, a bod plant a phobl ifanc yn meddu ar yr un hawl. Pe byddai rhieni neu blant yn anfodlon ag asesiad/penderfyniad yr ysgol neu’r Cynllun Datblygu Unigol, y cam cyntaf iddynt fyddai cysylltu â’r awdurdod. Byddai’r awdurdod yn ystyried y mater ac os cadarnheid y penderfyniad/cynllun heb gynnig unrhyw newidiadau, byddai gan y rhieni neu’r plentyn hawl i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru.
Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Preece ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad, ac eiliodd Mrs Lynn Bartlett y cynnig hwnnw.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn derbyn ac yn ystyried yr adroddiad ynghylch Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Dogfennau ategol: