Agenda item

Materion Cyfansoddiadol gan gynnwys Pwyllgorau

Pwrpas:        Cymeradwyo'r trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â’r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â Rheol 1.1 (vii)-(xiv) Gweithdrefn y Cyngor.  Yr oedd yr adroddiad hefyd yn ymdrin â phenodi Pwyllgorau a Chadeiryddion eraill, a materion eraill megis dyrannu seddi gyda chydbwysedd gwleidyddol.

 

Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, gyda phob un yn ymdrin ag un penderfyniad a oedd angen ei wneud, a’r materion perthnasol ar gyfer eu hystyried.  Ystyriwyd pob adran yn ei thro, a phleidleisio arni.

 

 

 

(i)        Penodi Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r canlynol: Pwyllgor Apeliadau; Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd; Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd; Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio; Pwyllgor Cwynion; Pwyllgor Apeliadau Cwynion; Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu; Cydbwyllgor Llywodraethu (ar gyfer Pensiynau); Pwyllgor Trwyddedu; Pwyllgor Cynllunio; Pwyllgor Safonau; a phum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu (fel y rhestrwyd ym mharagraff 1.01 yr adroddiad). 

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts fod y Pwyllgor Trwyddedu’n cael ei drosglwyddo i Gr?p Annibynnol. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts ddiwygiad i’r argymhelliad yn yr adroddiad, a chynnig y dylid creu Pwyllgor Newid Hinsawdd newydd i hybu gweledigaeth y Cyngor o chwilio am atebion i effaith newid hinsawdd ar gymunedau lleol yn Sir y Fflint.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Chris Bithell ac fe’i cymeradwywyd wedi cynnal pleidlais ar y mater.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol:

 

Pwyllgor Apeliadau

Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd

Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Pwyllgor Newid Hinsawdd

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Pwyllgor Cwynion

Pwyllgor Apeliadau Cwynion

Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu

Cydbwyllgor Llywodraethu (ar gyfer Pensiynau)

Pwyllgor Trwyddedu

Pwyllgor Cynllunio

Pwyllgor Safonau; a’r

Pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu fel y rhestrwyd yn yr adroddiad. 

 

(ii)        Pennu maint Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod rhaid penderfynu ar faint pob Pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol.  Yr oedd y Cyngor wedi cytuno o’r blaen y dylai’r prif Bwyllgorau fod yn ddigon mawr er mwyn gallu cynrychioli’r holl grwpiau gwleidyddol.

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod maint y Pwyllgor Cwynion, Pwyllgor Apeliadau Cwynion, a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu, fel y nodwyd yn 1.04 yn yr adroddiad, wedi ei gynyddu ar ôl hynny i 13 er mwyn cynrychioli’r holl grwpiau gwleidyddol.

 

Wrth ymateb i’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Bernie Attridge am y cydbwysedd gwleidyddol arfaethedig, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, a’r angen i benderfynu ar gydbwysedd gwleidyddol ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd newydd, awgrymodd y Prif Swyddog fod cylch gorchwyl ac aelodaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn cael eu pennu yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Sir ar 19 Gorffennaf, a bod cydbwysedd gwleidyddol Pwyllgorau’n cael eu hadolygu a’u hailgyfrifo hefyd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Richard Jones.  Pan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod maint pob Pwyllgor fel ag y nodir ym mharagraff 1.04 yr adroddiad, a maint y Pwyllgor Cwynion, Pwyllgor Apeliadau Cwynion, a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu yn cael ei gynyddu i 13; a

 

(b)       Bod cydbwysedd gwleidyddol a chylch gorchwyl y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn cael ei sefydlu yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Sir ar 19 Gorffennaf 2022. 

 

(iii)       Cylch Gorchwyl Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog ei bod yn ofynnol i’r Cyfarfod Blynyddol benderfynu ar gylch gorchwyl y Pwyllgorau a benodwyd ganddo.  Fe’u nodir yn y Cyfansoddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Hilary McGuill.  Pan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cylch gorchwyl ar gyfer pob Pwyllgor fel y’u nodir yn y Cyfansoddiad yn cael eu cymeradwyo.

 

(iv)      Cydbwysedd Gwleidyddol

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod rhaid i’r Cyngor benderfynu yn y Cyfarfod Blynyddol, neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl hynny, ar ddyraniad seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â’r Rheolau Cydbwysedd Gwleidyddol sydd wedi eu cynnwys yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990 fel y’u diwygiwyd.  Nid yw’r rheolau hynny’n berthnasol i’r Cabinet nag i’r Pwyllgor Safonau.  Byddai rheolau cydbwysedd gwleidyddol yn berthnasol i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd newydd.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog fod Cynghorwyr yn ystyried y cydbwysedd gwleidyddol a gynigiwyd ar gyfer ystyriaeth fel mesur dros dro hyd nes bod ymgynghoriad wedi ei gynnal gydag Arweinwyr Grwpiau yngl?n â dyraniad seddi ar Bwyllgorau, gan fod dyraniadau eraill yn gallu bod yn bosibl.  Byddai cydbwysedd gwleidyddol yn cael ei ailystyried yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Sir ar 19 Gorffennaf 2022.

 

Er mwyn cael cydbwysedd gwleidyddol, bu’n angenrheidiol gwahanu’r Pwyllgorau ‘cyflogaeth’, sef y Pwyllgor Cwynion, Pwyllgor Apeliadau Cwynion a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu.   Fel arall, byddai’r grwpiau llai dan anfantais drwy orfod defnyddio rhan o’u dyraniad seddi ar gyfer pwyllgorau nad oedd yn gorfod cyfarfod yn aml.  Yr oedd y gwahanu hwn yn gofyn am gytundeb penodol gan holl Aelodau’r Cyngor.

 

Eglurodd y Prif Swyddog ei fod wedi bod yn arferiad o’r blaen i benodi cynrychiolydd o’r Cyngor Sir i’r Awdurdod Tân yn seiliedig ar gydbwysedd gwleidyddol, ac yr oedd hyn wedi ei gynnwys yn y cyfrifiad.

 

Yr oedd 117 o seddi ar gyfer Cynghorwyr drwy holl Bwyllgorau’r Cyngor yn seiliedig ar y gr?p presennol o aelodau.  Nodwyd hawl pob gr?p i seddi yn y tabl yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at baragraff 1.12 yr adroddiad, a mynegodd bryderon am reolau 3 a 4 yn ymwneud ag enwebu ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio.  Cynigiodd y Cynghorydd Peers y dylid rhoi mwy o ystyriaeth i reolau 3 a 4, fel y’u nodwyd yn yr adroddiad, er mwyn gwella gweithdrefnau cyfredol.  Cytunodd y Prif Swyddog i drafod y cynnig gydag Arweinwyr Grwpiau yn ystod y 12 mis nesaf.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Richard Jones fod cyrff allanol eraill y dylid eu cynnwys yng nghyfrifiadau cydbwysedd gwleidyddol, a chyfeiriodd at CLlLC a Heddlu Gogledd Cymru fel enghreifftiau.  Eglurodd y Prif Swyddog fod gwahanol reolau’n berthnasol o ran sut y cyfrifid cydbwysedd gwleidyddol ar gyrff allanol eraill, a oedd yn seiliedig ar eu cyfansoddiad gwleidyddol hwy, nid un y Cyngor. 

 

Dygodd y Cynghorydd Bernie Attridge gynnig gweithdrefnol gerbron i ohirio’r cyfarfod er mwyn galluogi i’r cydbwysedd gwleidyddol gael ei ailgyfrifo i gynnwys dyraniad i CLlLC.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Richard Jones.   Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts nad oedd CLlLC wedi ei chynnwys o’r blaen yng nghyfrifiad y cydbwysedd gwleidyddol a chynigiodd na fyddai CLlLC yn cael ei chynnwys yn y cydbwysedd dros dro a oedd yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. 

 

Tynnodd y Cynghorydd Attridge ei gynnig i ohirio’r cyfarfod yn ôl.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Dyrannu’r seddi yn unol â chydbwysedd gwleidyddol, fel y’i

nodir yn Atodiad 1, a rheolau aelodaeth Pwyllgorau, fel y’u

nodir ym mharagraffau 1.09-1.14; 

 

(b)       Dyrannu’r seddi ar y Pwyllgor Cwynion, Pwyllgor Apeliadau

Cwynion a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu i roi amrediad

gwleidyddol eang i’r aelodaeth; a

 

(c)        Rhoi mwy o ystyriaeth i reolau 3 a 4, fel y’u nodir ym mharagraff 1.12 yr adroddiad, er mwyn gwella gweithdrefnau presennol yn ymwneud ag enwebu ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio.  

 

(v)       Penodi Cadeiryddion y Pwyllgorau Sefydlog

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Cadeiryddion Pwyllgorau yn cael eu penodi gan wahanol gyrff, rhai ohonynt a oedd yn destun cyfyngiadau.  Yr oedd tabl ym mharagraff 1.17 yr adroddiad yn amlinellu pa gorff oedd yn penodi pa Gadeirydd a pha gyfyngiadau (os o gwbl) oedd yn berthnasol. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge yr enwebiadau canlynol, ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Richard Jones:

 

  • penodi’r Cynghorydd Carol Ellis yn Gadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd;
  • penodi’r Cynghorydd Mike Peers yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio;
  • penodi’r Cynghorydd Rosetta Dolphin yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu; a
  • phenodi’r Cynghorydd Rob Davies yn Gadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts ddiwygiad i’r uchod, gan gyflwyno’r enwebiadau canlynol, ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Billy Mullin:

 

  • penodi’r Cynghorydd Ted Palmer yn Gadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd; a
  • phenodi'r Cynghorydd Richard Lloyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio.

 

Cafwyd pleidlais ar ba un a ddylid ethol y Cynghorydd Carol Ellis, fel y’i henwebwyd gan y Cynghorydd Bernie Attridge, neu’r Cynghorydd Ted Palmer, fel y’i henwebwyd gan y Cynghorydd Ian Roberts, i fod yn Gadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd. Wedi pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Ted Palmer yn Gadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Cafwyd pleidlais ar ba un a ddylid ethol y Cynghorydd Mike Peers, fel y’i henwebwyd gan y Cynghorydd Bernie Attridge, neu’r Cynghorydd Richard Lloyd, fel y’i henwebwyd gan y Cynghorydd Ian Roberts, i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio. Wedi pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Richard Lloyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio.

 

Wedi pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Rob Davies yn Gadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.

 

Wedi pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Rosetta Dolphin yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog y penodir Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd gan y Cyngor yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Sir ar 19 Gorffennaf 2022.

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod Cadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn cael eu dewis gan y grwpiau gwleidyddol yn seiliedig ar gryfder y gwahanol grwpiau a oedd â seddi ar y Cabinet.  Yr oedd Cadeiryddion yn cael eu dyrannu i grwpiau a oedd â lle ar y Cabinet yn gyntaf, a byddai unrhyw hawl yn cael ei dalgrynnu i lawr i’r rhif cyfan agosaf.  Byddai’r Cadeiryddion a oedd yn weddill wedyn yn cael eu dyrannu i grwpiau heb sedd ar y Cabinet (gan dalgrynnu i fyny i’r rhif cyfan agosaf).

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge yr enwebiadau canlynol ar gyfer y Gr?p Annibynnol, a chynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts yr enwebiadau canlynol ar gyfer y Gr?p Llafur. 

 

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu            Gr?p i Ddewis Cadeirydd

Adnoddau Corfforaethol                       Annibynnol (y Cynghorydd Richard Jones)

Y Gymuned, Tai ac Asedau                 Annibynnol (y Cynghorydd Helen Brown)

Addysg, Ieuenctid a Diwylliant             Llafur (y Cynghorydd Teresa Carberry)

Yr Amgylchedd a’r Economi                 Llafur (y Cynghorydd David Evans)

Gofal Cymdeithasol ac Iechyd             Democratiaid Rhyddfrydol

 

Wedi pleidlais, cymeradwywyd yr enwebiadau uchod.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Cadeiryddion y Pwyllgorau canlynol yn cael eu penodi (gan nodi unrhyw gyfyngiadau ar gymhwysedd):

 

·             Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd – y Cynghorydd Ted Palmer

·             Pwyllgor Cynllunio – y Cynghorydd Richard Lloyd

·             Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd – y Cynghorydd Rob Davies

·             Pwyllgor Trwyddedu – y Cynghorydd Rosetta Dolphin

 

(b)       Bod y Pwyllgor Cwynion, Pwyllgor Apeliadau Cwynion a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu yn penodi eu Cadeiryddion eu hunain o blith eu haelodau; a

 

(c)        Bod y grwpiau canlynol yn cadeirio'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fel yr amlinellwyd:

 

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu                  Gr?p i Ddewis Cadeirydd

Adnoddau Corfforaethol                             Annibynnol (y Cynghorydd Richard Jones)

Y Gymuned, Tai ac Asedau                       Annibynnol (y Cynghorydd Helen Brown)

Addysg, Ieuenctid a Diwylliant                  Llafur (y Cynghorydd Teresa Carberry)

Yr Amgylchedd a’r Economi                      Llafur (y Cynghorydd David Evans)

Gofal Cymdeithasol ac Iechyd                   Democratiaid Rhyddfrydol

 

(vi)      Cymeradwyo’r Cyfansoddiad

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod y Cyfansoddiad yn nodi sut mae’r Cyngor yn gweithredu, ac mae’n cynnwys:

 

·         rheolau a gweithdrefnau ar gyfer rheoli cyfarfodydd a busnes y Cyngor;

·         dirprwyaethau i’r Cabinet (yn cynnwys dewis yr hyn sy’n mynd i fod yn swyddogaeth weithrediaeth a’r hyn nad yw’n mynd i fod yn swyddogaeth weithrediaeth);

·         dirprwyaethau i bwyllgorau a grwpiau cynghori yn unol â’u cylch gorchwyl;

·         dirprwyaethau i swyddogion; a

·         chodau a phrotocolau i gynnal safonau uchel o lywodraethu ac ymddygiad moesegol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog yr adolygir y codau a’r protocolau yn y Cyfansoddiad yn barhaus i sicrhau eu bod yn aros yn gyfredol a pherthnasol. Adolygid pob cod / protocol o leiaf unwaith yn ystod tymor y Cyngor hwn fel rhan o’r adolygiad hwnnw. Gwneid newidiadau hefyd fel bo’r angen os oedd adolygiad wedi ei drefnu eisoes wedi digwydd, neu os nad oedd disgwyl i adolygiad fod am gryn amser. Bydd y Pwyllgor Safonau’n cytuno ar y rhaglen ar gyfer adolygu’r Cyfansoddiad yn ei gyfarfod nesaf.

 

Y mae’r Cyngor wedi mabwysiadu polisi interim yn ymwneud â sut i gymryd rhan mewn cyfarfodydd; er enghraifft, ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu o bell. Gan fod y Cyngor newydd bellach wedi ei sefydlu, bydd yn bosibl adolygu’r protocol hwnnw sy’n nodi bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn dweud bod rhaid i Aelodau ac eraill gael yr hawl o fod yn bresennol o bell, os ydynt yn dymuno. Nid oes cyfarpar technolegol i alluogi hyn ddigwydd yn y rhan fwyaf o ystafelloedd cyfarfod y Cyngor ar hyn o bryd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Paul Johnson.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r rheolau, gweithdrefnau, dirprwyaethau a’r codau / protocolau sydd yn y Cyfansoddiad.

 

(vii)     Enwebu i Gyrff Mewnol

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod y Cynllun Dirprwyo presennol yn darparu ar gyfer Pwyllgor Penodiadau ar gyfer swyddogion haen gyntaf ac ail haen, yn cynnwys saith Aelod.  Nid oedd hwn yn Bwyllgor sefydlog a byddai’n cael ei gynnull pan fo angen drwy geisio enwebiadau gan Arweinwyr Grwpiau. Yn y gorffennol yr oedd yn arferol i Aelodau’r Pwyllgor ddod o’r holl grwpiau, gan gynnwys yr Aelod Cabinet perthnasol. Ni fyddai cydbwysedd gwleidyddol, yn ffurfiol, er hynny.

 

Cymeradwyodd y Cynghorydd Ian Roberts yr argymhellion yn yr adroddiad, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sean Bibby.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cyfansoddiad y Pwyllgor Penodiadau.

 

(viii)    Pwyllgor Safonau

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod y Pwyllgor Safonau’n cynnwys pum Aelod annibynnol, cynrychiolydd o Gyngor Tref a Chymuned, a thri Chynghorydd (ac eithrio’r Arweinydd ac Aelodau Cabinet). Y mae’n rhaid penodi’r tri Chynghorydd Sir am oes y Cyngor (5 mlynedd), a gallant wasanaethu am ddau dymor ar y mwyaf. Gofynnodd y Prif Swyddog am enwebiadau ar gyfer penodi tri Chynghorydd i’r Pwyllgor.

 

Cynigiwyd y Cynghorwyr Bill Crease ac Antony Wren gan y Cynghorydd Bernie Attridge. 

 

Cynigiwyd y Cynghorydd Teresa Carberry gan y Cynghorydd Ted Palmer.

 

Cynigiwyd y Cynghorydd Andrew Parkhurst gan y Cynghorydd Hilary McGuill.

 

Ni chafwyd enwebiadau eraill. 

 

Gan fod pedwar enwebiad wedi ei gyflwyno, tynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge ei enwebiad ar gyfer y Cynghorydd Bill Crease yn ôl.

 

Wedi pleidlais, etholwyd y Cynghorwyr Teresa Carberry, Andrew Parkhurst ac Antony Wren yn briodol i’r Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi cyfansoddiad ac aelodau’r Pwyllgor Safonau, yn cynnwys penodi’r Cynghorwyr Teresa Carberry, Andrew Parkhurst ac Anthony Wren i ddisodli’r Cynghorwyr Gladys Healey, Patrick Heesom ac Arnold Woolley.

 

 

(ix)      Penodiadau i Gyrff Allanol

 

Dywedodd y Prif Swyddog y gallai’r Cyngor enwebu Cynghorwyr i wasanaethu ar wahanol gyrff megis yr Awdurdod Tân, Panel yr Heddlu a Throsedd, yn ogystal â sefydliadau elusennol lleol (a elwir gyda’i gilydd yn “gyrff allanol”). Yr oedd rhai cyrff allanol yn rhanbarthol, rhai’n berthnasol i’r sir gyfan, a rhai’n lleol yn unig.  Gwnaed penodiadau ar gyfer holl dymor y Cyngor.  Gan fod llenwi pob swydd wag yn gallu bod yn broses hir, rhoddwyd awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr enwebu fel bo’r angen, mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr Grwpiau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge yr argymhellion, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Richard Jones.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr Grwpiau, i wneud penodiadau i gyrff allanol ar gyfer tymor y Cyngor hwn. Yn cynnwys awdurdod i newid unrhyw benodiad (mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr Grwpiau) yn ystod tymor y Cyngor fel bo’r angen.

 

 

Ar y cam hwn yn y cyfarfod, cafwyd egwyl fer cyn ystyried eitemau busnes cyffredin.

 

NEWID YN NHREFN Y RHAGLEN

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r eitem yn ymwneud â Threfniadau Cydweithio Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau Mabwysiadu a Maethu Cymreig (awdurdodau lleol) yn cael ei thrafod yn gynt.

 

Dogfennau ategol: