Agenda item

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol , GwE 2021-2022

I gael diweddariad ar y cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth rhanbarthol gwella ac effeithiolrwydd ysgolion, GwE a’r effaith ar ysgolion.

Cofnodion:

            Diolchodd y Cadeirydd i GwE am y gefnogaeth y maent wedi’i darparu i arweinwyr ysgolion yn ystod y Pandemig ac am eu cefnogaeth barhaus i ysgolion Sir y Fflint wrth gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru (CiG). 

 

Esboniodd Mr Martyn Froggett (Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant) bod cyflwyniad wedi cael ei baratoi i ychwanegu at yr adroddiadau sydd ynghlwm wrth y rhaglen.  Cyflwynodd Phil McTague (Arweinydd Craidd Uwchradd) a David Edwards (Arweinydd Craidd Cynradd), a fyddai hefyd yn cynorthwyo gyda’r cyflwyniad a oedd yn canolbwyntio ar waith sy’n cael ei wneud mewn ysgolion ar hyn o bryd, gwybodaeth am bolisïau a chymorth adfer ar ôl y pandemig i ysgolion gan Lywodraeth Cymru (LlC).

 

Rhoddodd yr Arweinydd Craidd Cynradd gyflwyniad a oedd yn trafod y meysydd canlynol:-

·         Tri phrif flaenoriaeth GwE:-

 

ØGweithredu’r Cwricwlwm i Gymru

ØSicrhau prosesau hunanwerthuso cadarn

ØArolygiadau Estyn

 

·         Cynradd - Cwricwlwm i Gymru

 

Ønodi ffactorau unigryw eu hysgol a sut mae’r rhain yn cyfrannu at y pedwar pwrpas

Øadolygu eu gweledigaeth, gwerthoedd ac ymddygiadau i gefnogi’r cwricwlwm

Øbod yn ystyriol o’r ystyriaethau allweddol e.e. elfennau statudol a gorfodol

Øadolygu modelau dylunio’r cwricwlwm

Øystyried rôl cynnydd ac addysgeg yn eu cwricwlwm

Ødechrau dylunio, cynllunio, treialu a gwerthuso pynciau newydd. 

 

·         Cynradd - Hunanwerthuso a sicrhau ansawdd

 

·         Cynradd - Arolygiadau Estyn

 

Parhaodd yr Arweinydd Craidd Uwchradd gyda’r cyflwyniad a oedd yn cwmpasu’r meysydd canlynol:

 

·         Uwchradd - Cefnogaeth i’r Cwricwlwm i Gymru

 

Ø  Mae holl ysgolion Sir y Fflint wedi gwneud defnydd eang o’r rhaglen gefnogaeth ranbarthol

Ø  Mae ymgysylltiad da wedi bod â’r grwpiau cynllunio rhanbarthol / lleol.

Ø  Mae’r ysgolion wedi derbyn y cynnig o fewnbwn penodol ac unigryw gan dîm GwE ar addysgu a dysgu

Ø  Mae cydweithio ar gynnydd trwy glystyrau a thrwy gynghreiriau

Ø  Yn nhymor yr haf, ymgymerwyd ag adroddiadau ‘Chwe Cham’ (yn canolbwyntio ar ofynion y Gweinidog Addysg i symud ymlaen tuag at y CiG) gyda phob ysgol yn dilyn trafodaethau rhwng ysgolion a’u Hymgynghorwyr Gwella Ysgolion.

 

·         Uwchradd - hunanwerthuso a sicrhau ansawdd

 

·         Paratoi ar gyfer arolygiadau mewn ysgolion uwchradd o dan Fframwaith newydd Estyn.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst am gadernid a mesur gwrthrychol Arolygiadau Estyn, dywedodd Mr Martyn Froggett (Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant), yn y gorffennol oherwydd bod Estyn yn canolbwyntio ar ganlyniadau arholiadau roedd gwaith yr oedd y disgyblion wedi’i gwblhau yn yr ystafell ddosbarth wedi dod yn ail.  R?an sylfaen tystiolaeth Estyn oedd y llyfrau yr oedd y disgyblion yn gweithio ohonynt ar y pryd, a’r gwersi yr oeddent yn eu cael a oedd yn cael eu cymedroli.  Esboniodd sut y byddai hyn yn gweithio mewn ysgolion.  Roedd GwE yn cefnogi ysgolion ond dywedodd y byddai’n cymryd rhywfaint o amser i sefydlu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd.

 

 

            Esboniodd Mr Phil McTague (Arweinydd Craidd Uwchradd) mai’r amrywiad o fewn yr ysgol sydd fwyaf arwyddocaol ac esboniodd beth oedd GwE yn canolbwyntio arno.  Rhoddodd wybodaeth am ddadansoddiad o lefel cwestiwn a fyddai’n galluogi strategaethau hyfforddiant i gael eu darparu i greu gwelliannau.  Byddai’r data ar gyfer amrywiadau yn yr ysgol, y dadansoddiad o lefel cwestiwn ac arsylliadau ystafelloedd dosbarth yn gyrru cynnydd a safonau ymlaen.   Teimlai bod hyn yn sicrhau atebolrwydd sy’n fwy seiliedig ar ymchwil mewn ysgolion yn hytrach na chymharu cynnydd un ysgol yn erbyn y llall, yn enwedig gan mai un elfen o berfformiad ysgol yw data.   

 

 

Amlinellodd y Cynghorydd Dave Mackie ei farn am rôl Aelodau mewn Pwyllgorau Craffu a’r angen i ofyn cwestiynau yngl?n ag adroddiadau a gyflwynir i’r Pwyllgor.  Cododd bryder nad oedd y cyflwyniad a ddarparwyd yn berthnasol i’r adroddiad ond yn hytrach yn canolbwyntio ar flaenoriaethau i’r dyfodol.  Cododd nifer o gwestiynau am y data a ddarparwyd yn yr adroddiad a chwestiynodd yr angen am esboniadau ychwanegol i’r data.  

 

 Mewn ymateb dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod llawer iawn o ddogfennau wedi’u hatodi gyda’r adroddiad a oedd yn adlewyrchu gwaith y Gwasanaeth Gwella Ysgolion dros y 12 mis diwethaf.  Darparwyd y cyflwyniad i roi sicrwydd i aelodau ynghylch sefyllfa bresennol y gwasanaeth yn y flwyddyn academaidd newydd, a’r ffocws wrth symud ymlaen i adeiladu ar y blaenoriaethau ar gyfer gwelliant a adlewyrchir yn yr adroddiadau.  Cynhaliwyd gwerthusiad ar lefel GwE, yr Awdurdod Lleol, trwy’r Bwrdd Rheoli a’r Cyd-bwyllgor i nodi cyfeiriad y gwasanaeth wrth fynd ymlaen.  Roedd GwE yn wasanaeth a gomisiynir ar y cyd rhwng y chwe awdurdod lleol yng Nghymru ac roedd yn deall sylwadau’r Cynghorydd Mackie ynghylch gwerth am arian a dywedodd y dylai Aelodau fod yn sicr, mewn cyfuniad â’r adroddiad nesaf ar Hunan Werthuso, bod y Cyngor yn cael gwerth am arian.  Mae cynnydd a pherfformiad cryf ysgolion yn cael ei weld yn y safonau a gyflawnir.  Mae’n dangos y gefnogaeth eang y mae ysgolion a phenaethiaid yn ei chael gan GwE trwy’r ymgynghorwyr gwella ysgolion, a lefel sylweddol yr ymgysylltiad â’r dysgu proffesiynol a ddarperir gan GwE i ysgolion Sir y Fflint.

 

Cytunodd y Prif Swyddog fwydo sylwadau’r Cynghorydd Mackie yngl?n â data cymharu yn ôl i’r Bwrdd Rheoli.  Ond ychwanegodd bod yn rhaid i’r model gwasanaeth newid oherwydd bod sefyllfa ysgolion wedi newid wrth i addysg statudol gael ei gohirio.  Daeth arolygiadau i ben a gwnaeth LlC nifer o newidiadau gan ganolbwyntio ar ddiogelwch a lles staff a disgyblion.  Dros y flwyddyn ddiwethaf bu’r ffocws ar addysg ond o fewn cyfyngiadau’r Pandemig ac amlinellodd oblygiadau hynny.  Roedd yr adroddiadau yn ceisio amlinellu dibenion craidd a sefyllfaoedd mewn ysgolion, ond roedd y ffocws bellach ar ddychwelyd i’r swyddogaeth gwella ysgolion, hunanwerthuso o ansawdd a safon addysg i ddysgwyr yn yr ystafell ddosbarth.  Roedd ysgolion Sir y Fflint yn ymateb yn dda i’r ymyraethau ansawdd hynny a oedd yn sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni eu canlyniadau gorau posibl.   Ble roedd pryderon, amlinellodd bod dulliau manwl mewn lle i ddarparu ymyraethau ychwanegol i sicrhau eu bod yn effeithiol.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Mackie trwy ddweud mai rôl Aelodau oedd bod yn gyfaill beirniadol a darparu her.  Teimlai mai’r elfen feirniadol oedd nad oedd GwE wedi darparu’r amcanion yr oeddent yn chwilio amdanynt, y llwybr y byddent yn ei ddilyn i gyflawni’r amcanion hynny a chyflawni’r gwelliant a nodwyd.  Teimlai y dylai’r wybodaeth hon gael ei darparu er mwyn i Aelodau ymgymryd â gwaith craffu priodol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Bill Crease bod rhoi’r gorau i ganolbwyntio ar werthuso perfformiad mewn arholiadau a chanolbwyntio ar berfformiad disgyblion yn lle yn apelio’n fawr ato, ond roedd heriau ynghlwm wrth hynny hefyd o ran gwerthuso cynnydd.  Roedd yn cytuno â sylwadau’r Cynghorydd Mackie a dywedodd bod gallu gwerthuso a rhoi cynnig ar graffu’r adroddiadau mewn modd gwerthfawr yn anodd a dywedodd bod angen i’r data fod â mwy o ffocws.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn gweld GwE fel cyfaill beirniadol cefnogol gyda disgwyliadau uchel o’n hysgolion.  Roedd yn deall bod y Cwricwlwm i Gymru yn ystyried gweithio mewn partneriaeth rhwng ysgolion, LlC, GwE a darparwyr gwasanaeth â diddordeb.  Roedd hi hefyd yn deall bod LlC yn gweithio i ddarparu adnoddau i gefnogi’r Cwricwlwm hwn ac yn gwerthfawrogi’r cyflwyniad.  Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am y gwaith a oedd wedi digwydd, ond roedd y cyflwyniad yn amlinellu’r hyn a fyddai’n digwydd wrth symud ymlaen.  Darparodd GwE gefnogaeth werthfawr i ysgolion.  Nid oedd pwynt terfyn addysg plentyn yn mynd i gael ei fesur ar sail canlyniadau arholiadau, ac roedd cymaint o bethau eraill mewn ysgolion yr oedd angen arsyllu arnynt. 

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion bod y dirwedd yn newid o atebolrwydd ffocws i edrych ar yr holl ddarpariaeth addysg ac mae eii rôl hi oedd craffu GwE.  Dywedodd bod yr amcanion o fewn yr adroddiad ar gyfer y system gyfan ochr yn ochr â'r 5 Awdurdod Lleol arall er mwyn hybu safonau yn genedlaethol ledled Cymru.   Roedd y gweithgarwch gweithredol manwl yn digwydd fesul ysgol, ac roedd yn croesawu cefnogaeth GwE i alluogi ymchwil ar gyfer pob ysgol unigol er mwyn sicrhau bod anghysonderau yn cael eu datrys, bod safonau yn codi a bod arfer orau yn cael ei rhannu ar draws pob ardal.  Byddai siarad gyda dysgwyr, edrych ar dystiolaeth, datblygu sgiliau a lles yn codi safonau i bob dysgwr ledled Cymru .  Byddai’r weledigaeth graidd, pwrpas, fframwaith atebolrwydd, cefnogaeth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn symud hyn ymlaen. 

 

Roedd y Prif Swyddog yn cydnabod bod llwyth gwaith yr Aelodau wedi bod yn sylweddol oherwydd nifer a maint yr adroddiadau, gan fod GwE yn awyddus i rannu lefel y gwaith a thrawsnewid yn dilyn y pandemig ynghyd â gwybodaeth am weithredu’r Cwricwlwm newydd.  Darparodd wybodaeth am y Bwrdd Rheoli a Chydbwyllgor GwE gan ddweud bod yr adroddiadau hyn wedi cael eu cyflwyno i’r pwyllgorau hyn.  Byddai’n mynd â’r adborth ynghylch maint, graddfa a ffocws yr adroddiadau gyda hi.  

 

Cadarnhaodd yr Hwylusydd ei bod wedi nodi’r cwestiynau a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Mackie ac y byddai’n eu trin fel camau gweithredu yn dilyn y cyfarfod.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at sylwadau’r Prif Swyddog a dywedodd pe bai adroddiadau gyda mwy o ffocws yn cael eu cynnwys yn yr argymhellion a phe bai angen mwy o wybodaeth, byddai modd ymdrin â hynny trwy gynnal gweithdy a fyddai’n galluogi swyddogion i friffio aelodau.

 

Cynigodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn derbyn yr Adroddiad Blynyddol gan GwE, gan nodi effaith gadarnhaol y gwasanaeth rhanbarthol o ran cefnogi ysgolion Sir y Fflint trwy’r pandemig, cynnal ffocws ar ysgolion effeithiol a llwyddiannus a chefnogi ysgolion wrth iddynt baratoi ar gyfer gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

 

 

Dogfennau ategol: