Agenda item

Hunanwerthuso Gwasanaethau Addysg 2021-22

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar berfformiad gwasanaeth 21-22 a Chanlyniadau Dysgwr ar gyfer 2021.

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) drosolwg o Hunanwerthusiad Ebrill 2021 i Fawrth 2022.   Oherwydd bod Estyn wedi gorfod gohirio ei arolygiadau, dywedodd nad oedd dau adroddiad gwerthuso blaenorol y portffolio wedi dilyn fframwaith Arolygu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol.   Roedd y portffolio bellach wedi dychwelyd at y strwythur hwnnw wrth i Arolygiadau ail-ddechrau.  Cynhaliwyd arolwg diwethaf yr Awdurdod yn 2019, ac roedd Estyn yn cynnig cwblhau’r gylched hon erbyn haf 2024.  Darparwyd gwybodaeth am ffocws yr hunanwerthusiad a oedd yn nodi cryfderau, meysydd i’w gwella a sut oedd y gwelliannau hyn yn cael eu gwneud.   Roedd fframwaith ardal Estyn, ynghyd â’r pedwar argymhelliad a wnaethpwyd, yn gynwysedig yn yr adroddiad ac roedd y portffolio yn parhau i wneud cynnydd yn erbyn yr argymhellion hyn er gwaethaf yr heriau yn sgil y pandemig.  Cafodd yr argymhellion eu mewnosod hefyd ym mlaenoriaethau Cynllun y Cyngor a chynllun busnes y portffolio. 

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie am wybodaeth data, eglurodd y Prif Swyddog oherwydd bod y penderfyniad wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru (LlC), nid oedd modd darparu data ar gyfer ysgolion unigol.  Cyfeiriodd at adran 1.01 yr adroddiad a oedd yn adlewyrchu’r sefyllfa bresennol mewn ysgolion a dywedodd bod gan bob ysgol uwchradd gynlluniau cefnogi mewn lle i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau yr oedd pob ysgol wedi’u nodi.  Ym mhwynt 1.03 yr adroddiad, darparwyd gwybodaeth am bresenoldeb a gwaharddiadau, a drafodwyd yn y cyfarfod diwethaf.  

 

 

            Mewn ymateb i sylwadau pellach yngl?n â data, esboniodd y Prif Swyddog bod yr amgylchedd gweithio wedi newid ac nad oedd yn gallu darparu tablau data ar ganlyniadau arholiadau. Roedd y modelau ar gyfer asesu disgyblion wedi newid a oedd yn golygu ei bod yn anodd cymharu data.  Teimlai y byddai gweithdy i Aelodau yn fanteisiol er mwyn gallu darparu mwy o wybodaeth.  Roedd y Bwrdd Ansawdd Lleol yn cael y trafodaethau manwl hyn ac yn y cyfarfod nesaf byddai prosesau monitro perfformiad ysgolion yn cael eu trafod.  Byddai aelodau yn gallu ymuno â’r trafodaethau hyn a’r unig ddilysiad allanol oedd adroddiadau arolygiadau Estyn presennol.   Roedd y gwerthusiad hwn yn grynodeb o berfformiad y portffolio dros y flwyddyn honno.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at adran 1.05 yr adroddiad a oedd yn datgan mai’r rôl oedd herio ysgolion yn drwyadl a darparu cefnogaeth wedi’i thargedu.  Dywedodd efallai y byddai’n gliriach i’r Pwyllgor pe bai esboniad yn cael ei ddarparu yngl?n â sut y gwneir hyn.  Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog y byddai hyn yn cyd-fynd ag adroddiad gan y Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion a fyddai'n darparu gwybodaeth ar y broses uwchgyfeirio.  Yn y cyfarfodydd hynny cafodd sefyllfa bresennol pob ysgol ei thrafod yn fanwl gan dynnu sylw at faterion neu bryderon newydd gan roi cynllun mewn lle gan naill ai’r Awdurdod neu GwE i gefnogi’r ysgol honno. 

 

            Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion bod proses gefnogi glir a phroses uwchgyfeirio mewn lle mewn ysgolion.  Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor y llynedd yngl?n â sut yr edrychir ar hyn yn rhanbarthol ac roedd y prosesau hynny wedi bod mewn lle trwy’r Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion ers nifer o flynyddoedd.   Amlinellodd sut yr oedd 360 o gynlluniau cymorth a chefnogi ar gyfer llywodraethu, cyllid neu brosesau AD wedi cael eu darparu i ysgolion.  Rhoddodd adroddiad am y cyfarfodydd a gynhelir bob pythefnos gydag Arweinydd Craidd GwE ar gyfer Cynradd ac Uwchradd yn ogystal â chyfarfodydd eraill gyda chydweithwyr o’r Awdurdod a GwE.  Rhoddodd hyn drosolwg o themâu i’w sefydlu mewn ysgolion unigol neu nifer o ysgolion er mwyn medru darparu datblygiad proffesiynol penodol. 

 

            Cynigodd y Cynghorydd Bill Crease yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi canlyniad adroddiad hunanwerthuso blynyddol y Portffolio Addysg ar ansawdd gwasanaethau addysgu ar gyfer cyfnod 2021-2022.

 

Dogfennau ategol: