Agenda item
Cyllideb 2022/23 - Cam Cau Terfynol
- Cyfarfod Cabinet, Dydd Mawrth, 15fed Chwefror, 2022 10.00 am (Eitem 109.)
- View the declarations of interest for item 109.
- Cefndir eitem 109.
Pwrpas: Rhoi diweddariad ar y cynigion cyllideb terfynol ar gyfer 2022/23 i'w hargymell i'r Cyngor Sir
Cofnodion:
Diolchodd y Cynghorydd Roberts i bawb am gyfrannu at broses y gyllideb. Hefyd, diolchodd i Lywodraeth Cymru (LlC) am y setliad gorau yr oedd y Cyngor wedi’i dderbyn hyd yma. Fodd bynnag, roedd yna heriau o’n blaen i’w hwynebu.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y Cabinet wedi derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar y prif benawdau ac effeithiau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2022.
Yn y bôn, roedd y setliad yn cynnwys cadarnhad o’r angen i dalu costau rhai cyfrifoldebau newydd - y mwyaf sylweddol ohonynt fyddai (1) costau llawn dyfarniadau tâl yn y dyfodol; (2) gweithredu’r Cyflog Byw Gwirioneddol; (3) rhoi’r gorau i’r gronfa galedi; ac (4) effeithiau Grant Penodol.
Oherwydd yr uchod, roedd angen gwneud gwaith brys wedi’i flaenoriaethu ac roedd deilliant y gwaith hwnnw wedi’i gynnwys yn yr adroddiad. Roedd yr adroddiad yn cynnig atebion ac argymhellion i’r Cyngor allu llunio cyllideb gyfreithiol a chytbwys. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys argymhelliad Treth y Cyngor ar gyfer gosod lefelau trethiant lleol ar gyfer 2022/23. Cynigiwyd penderfyniad ffurfiol i'w roi gerbron y Cyngor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw i roi gwybod eu bod wedi derbyn praeseptau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a phob Cyngor Tref a Chymuned yn Sir y Fflint.
Roedd lefel cynnydd blynyddol yn Nhreth y Cyngor yn benderfyniad i’r Cyngor llawn. Yn y blynyddoedd blaenorol, roedd y Cyngor wedi gosod cyfeiriad clir y dylai cynnydd blynyddol fod yn 5% neu lai. Roedd yn rhaid i’r Cyngor gynnwys nifer o bwysau ychwanegol i ddarparu ar gyfer y pwysau ychwanegol a nodwyd yn y Setliad Dros Dro gan Lywodraeth Leol Cymru oedd wedi cynyddu gofyniad y gyllideb. Yn seiliedig ar ofyniad y gyllideb ychwanegol terfynol o £30.562miliwn, roedd angen cynnydd blynyddol cyffredinol o 3.3% ar Dreth y Cyngor i Wasanaethau’r Cyngor a 0.65% ar gyfer cyfraniadau ychwanegol i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth y Crwner Rhanbarthol a Chonsortiwm Addysg Rhanbarthol GwE. Roedd hynny’n cyfateb i ymgodiad cyffredinol o 3.95% ac yn darparu arenillion ychwanegol cyffredinol o £3.825miliwn yn 2022/23. Roedd hynny’n gyfystyr â chynnydd blynyddol o £55.08 y flwyddyn ac yn dod â’r swm i £1,449.58 ar Band D cyfatebol (£1.06 yr wythnos).
Roedd y Cyngor wedi cael gwybod am y praesept Heddlu a phraeseptau cyngor tref a chymuned ar gyfer 2022/23 fel awdurdod casglu Treth y Cyngor ac roedd yna adroddiad ar wahân ar raglen y Cyngor i’w drafod yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Dywedodd y Cynghorydd Johnson am yr heriau y byddai’r Cyngor yn wynebu ym mlwyddyn 2 a 3, gan gynnwys y pwysau ychwanegol fel y cynnydd mewn chwyddiant a chostau ynni.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod cyhoeddiad diweddar wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru ar dâl costau byw o £150 i bob aelwyd ym Mandiau A-D, ac roedd angen deall manylion hynny.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi a chymeradwyo’r diwygiad ychwanegol yng ngofynion y gyllideb ar gyfer 2022/23;
(b) Cymeradwyo’r cynigion terfynol ar gyfer yr arbedion effeithlonrwydd corfforaethol a fydd yn cyfrannu at y gyllideb;
(c) Y bydd y Cabinet yn argymell cyllideb gyfreithiol a chytbwys i'r Cyngor yn seiliedig ar y cyfrifiad a amlinellir yn yr adroddiad;
(d) Nodi’r risgiau agored sydd angen parhau i’w rheoli yn ystod y flwyddyn ariannol 2022/23;
(e) Bod cynnydd blynyddol cyffredinol yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2022/23 o 3.3% am Wasanaethau’r Cyngor a 0.65% o gyfraniadau i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth y Crwner Rhanbarthol a Chonsortiwm Addysg Rhanbarthol GwE - ymgodiad cyffredinol o 3.95% i gael ei argymell i’r Cyngor;
(f) Bod £3.250miliwn ychwanegol yn cael ei drosglwyddo o’r Arian at Raid i’r Gronfa Wrth Gefn at Argyfwng i ddiogelu yn erbyn risgiau ariannol parhaus y pandemig yn 2022/23;
(g) Bod y Cyngor yn cael gwahoddiad i gymeradwyo Treth y Cyngor ffurfiol nawr bod praeseptau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a phob cyngor tref a chymuned o fewn Sir y Fflint wedi’i dderbyn a
(h) Nodi’r rhagolygon tymor canolig fel sail ar gyfer yr adolygiad nesaf o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
Dogfennau ategol:
- Budget 2022/23 - Final Closing Stage, eitem 109. PDF 167 KB
- Enc. 1 for Budget 2022/23 - Final Closing Stage, eitem 109. PDF 88 KB
- Enc. 2 for Budget 2022/23 - Final Closing Stage, eitem 109. PDF 90 KB
- Enc. 3 for Budget 2022/23 - Final Closing Stage, eitem 109. PDF 92 KB
- Enc. 4 for Budget 2022/23 - Final Closing Stage, eitem 109. PDF 106 KB
- Enc. 5 for Budget 2022/23 - Final Closing Stage, eitem 109. PDF 92 KB
- Enc. 6 for Budget 2022/23 - Final Closing Stage, eitem 109. PDF 110 KB
- Enc. 7 for Budget 2022/23 - Final Closing Stage, eitem 109. PDF 95 KB