Agenda item

Cynllun Deisebau Drafft

Pwrpas:        Galluogi'r Cyngor i ystyried a chymeradwyo'r Cynllun Deisebau Drafft.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i’r Cyngor gymeradwyo cynllun drafft i gyflawni ei ddyletswydd gyfreithiol i alluogi aelodau’r cyhoedd i gyflwyno deisebau ar-lein.  Ar ôl cael ei ddiwygio a’i gymeradwyo gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, roedd cymeradwyaeth yr Aelodau’n cael ei geisio i gyhoeddi’r cynllun ar wefan y Cyngor.  Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi meini prawf arfaethedig ar gyfer derbyn deisebau a gyflwynir naill ai ar lein neu drwy Aelodau lleol fel rhan o’r broses bresennol.  Byddai canlyniadau pob deiseb a dderbynnir yn parhau i gael eu hadrodd i’r Cyngor bob blwyddyn.

 

Fel Cadeirydd ac Is-gadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, bu i’r Cynghorwyr Neville Phillips a Michelle Perfect gynnig ac eilio’r argymhelliad.

 

Tynnodd y Cynghorydd Mike Peers sylw at bwysigrwydd cyflwyno deisebau ar faterion cynllunio o fewn y cyfnod ymgynghori o 21 diwrnod cyn penderfynu ar y cais.  Er mwyn gwneud hyn yn glir, cynigiodd y dylid cynnwys y geiriau ‘yn ystod y cyfnod ymgynghori’ ar ddiwedd adran 8(2).  Eglurodd y Prif Swyddog y byddai’r broses yn caniatáu adrodd ar ddeisebau a ddaw i law ac a dderbynnir ar ôl y cyfnod ymgynghori fel rhan o’r ‘sylwadau hwyr’ a ystyrir ym mhob un o gyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio.  Er ei fod yn cytuno â’r dull hwn, dywedodd y Cynghorydd Peers y dylid annog unigolion i gyflwyno ymatebion i geisiadau cynllunio o fewn y cyfnod ymgynghori statudol pan fo hynny’n bosib.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Richard Jones.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Hilary McGuill sylwadau ar yr angen i ddiffinio'r cyfnod ar gyfer casglu, derbyn ac ymateb i ddeisebau.  Yn dilyn canllawiau gan y Prif Swyddog, cynigiodd y dylid ymestyn y cyfyngiad o 21 diwrnod ar gyfer casglu llofnodion i 30 diwrnod, ac y dylid nodi terfyn amser pellach o 30 diwrnod ar gyfer derbyn a phenderfynu ar y ddeiseb.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Marion Bateman.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r Aelodau, eglurwyd bod rhaid i ddechreuwr deiseb (yr hyrwyddwr) roi eu henw a chod post yn Sir y Fflint.  Ar y mater o fformat deisebau, dywedodd y Prif Swyddog y gellid darparu templed ar gyfer deiseb ar lein, ond nad oedd hynny’n atal unigolion rhag creu eu deiseb eu hunain.

 

O ystyried y diwygiadau arfaethedig, cynigiodd y Cynghorydd Derek Butler y dylid cyfeirio’r cynllun yn ôl at Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd er ystyriaeth a chyfraniadau pellach.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Patrick Heesom.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog, er mwyn i’r Cyngor fodloni’r gofynion deddfwriaethol o fewn y terfyn amser, y dylid mabwysiadu’r cynllun drafft gan ymgorffori’r diwygiadau arfaethedig, ac y dylai Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd adolygu’r ddogfen yn nhymor newydd y Cyngor i ganfod a oedd angen gwneud unrhyw newidiadau pellach.

 

Derbyniwyd y tri diwygiad gan gynigydd ac eilydd yr argymhellion, sef y Cynghorwyr Neville Phillips a Michelle Perfect, ac o’u rhoi i bleidlais, cawsant eu cymeradwyo, gan lunio rhan o’r cynnig gwreiddiol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y byddai’r Cyngor yn cymeradwyo cynnwys y cynllun deisebau yn y Cyfansoddiad, yn amodol ar y newidiadau canlynol:

 

·         Cynnwys y geiriau ‘yn ystod y cyfnod ymgynghori’ ar ddiwedd adran 8(2) er mwyn annog yr arfer hwnnw, a nodi y bydd deisebau a ddaw i law ar ôl y cyfnod ymgynghori cynllunio yn cael eu trafod fel rhan o’r sylwadau hwyr;

 

·         Ymestyn y cyfnod hiraf ar gyfer casglu llofnodion i 30 diwrnod a nodi y bydd penderfyniadau ar dderbyn a phenderfynu ar ddeisebau yn cael eu gwneud o fewn 30 diwrnod o’u cyflwyno;

 

·         Mabwysiadu’r cynllun er mwyn bodloni'r terfyn amser a nodi ei fod yn amodol ar adolygiad pellach gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn nhymor newydd y Cyngor; a

 

(b)       Y byddai’r Cyngor yn mabwysiadu meini prawf cyson ar gyfer deisebau a ystyrir yn dderbyniol.

 

Dogfennau ategol: