Agenda item

Casgliadau Gwastraff Swmpus

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Craffu ar ddarparu gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus.

Cofnodion:

            Cyflwynodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) yr adroddiad yn dilyn cais gan y Pwyllgor ym mis Tachwedd y llynedd. Mae’r pandemig wedi effeithio ar gasgliadau eitemau swmpus ac mae’r camau gweithredu a’r heriau sy’n wynebu Refurbs wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

            Darparodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio drosolwg o’r gwasanaeth casglu eitemau swmpus, sy’n ffordd i bobl waredu eitemau sy’n rhy fawr i’r casgliadau wrth ymyl y ffordd. Darparwyd trosolwg o’r eitemau a ystyrir yn wastraff swmpus. Mae Refurbs Sir y Fflint yn casglu eitemau y mae modd eu hailddefnyddio, eu trwsio a’u hailwampio ac yna’n eu gwerthu am brisiau rhesymol yn eu hystafell arddangos yn y Fflint. Cedwir cofnod o’r holl eitemau sy’n cyd-fynd â’n perfformiad a’n targed ailgylchu o 70%. Mae Atodiad 1 yn cynnwys yr eitemau y mae Refurbs yn eu casglu ond cadarnhaodd nad oes modd ailgylchu gwastraff ailwampio cartrefi, fel ceginau, ystafelloedd ymolchi ac eitemau gardd, drwy’r gwasanaeth hwn. Gofynnir i drigolion waredu’r eitemau hyn yn briodol drwy gontractwr gwastraff cymeradwy. Mae’r Cyngor yn casglu nwyddau gwyn fel oergelloedd yn rhad ac am ddim.

            Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio at amserlenni casgliadau Refurbs, sydd fel rheol o fewn 6 diwrnod gwaith gyda’r eitemau yn cael eu gadael o fewn ffiniau eiddo. Mae Refurbs yn helpu pobl ar gais. Mae yna ffi o £40 am hyd at 5 eitem a £5 am bob eitem ychwanegol a £65 am 10 eitem. Mae yna ostyngiad i bobl sy’n derbyn budd-daliadau (£20 a £5 am bob eitem ychwanegol) a gellir trefnu’r gwasanaeth hwn ddwywaith y flwyddyn. Mae’r ffioedd hyn yn cael eu hadolygu o fewn y Polisi Ffioedd a Thaliadau yn flynyddol.

 

            Mae adran 1.06 yr adroddiad yn nodi nifer y ceisiadau a’r tunelli a gasglwyd, ond fe gafodd y gwasanaeth hwn ei atal yn ystod y pandemig a bu’n rhaid cau’r safleoedd ailgylchu gwastraff y cartref. Yn anffodus fe arweiniodd hyn at ffyniant gwasanaethau “dyn mewn fan” ar y cyfryngau cymdeithasol, ond nid yw’r unigolion hyn wedi’u rheoleiddio ac nid oes gan drigolion unrhyw syniad i ble mae’r gwastraff yn mynd. Anogwyd trigolion i holi ble mae’r eitemau yn cael eu gwaredu.

 

            Roedd archebion Refurbs wedi cronni ar ôl y pandemig ac os oedd y dyddiad yn rhy bell i drigolion roeddynt yn cael eu hargymell i ddefnyddio gwasanaeth cofrestredig. Roedd gan Refurbs hefyd lai o staff, oherwydd gofynion hunan-ynysu neu ddulliau gweithio cyfyngedig, ac roedd recriwtio hefyd yn broblem gan fod hon yn fenter gymdeithasol. Roedd trigolion yn cael gwybod pryd y byddai’r tîm yn casglu’r nwyddau a’r staff yn darparu diweddariadau iddynt. Mae’r amser casglu wedi’i ymestyn i 10 i 15 diwrnod gwaith. Mae yna oedi o hyd ond wrth symud yn ein blaenau mae’r gwasanaeth ar y trywydd cywir bellach.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd George Hardcastle a oes modd rhannu’r wybodaeth yn 1.05 am ffioedd gwastraff swmpus gyda phob Aelod er gwybodaeth. Cytunwyd ar hyn.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Sean Bibby i’r swyddogion am ddarparu eglurhad manwl am yr eitemau sy’n cael eu casglu. Cyfeiriodd at ei ward a gofynnodd a oes hyblygrwydd o ran eiddo teras neu fflatiau heb ofod y tu allan neu ardal gymunedol, ac roedd yn pryderu y gallai hyn gael ei ystyried yn tipio anghyfreithlon. Cyfeiriodd hefyd at y gost o £40, sy’n werth da am 5 eitem ond yn ddrud iawn ar gyfer un eitem. Mewn ymateb cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio, os yw trigolion yn egluro pan fyddant yn archebu nad oes ganddynt ofod y tu allan i’r eiddo, y byddai staff Refurbs yn ffonio ac yn darparu dyddiad casglu i’r trigolion hynny yn hytrach na gofyn iddynt adael yr eitemau y tu allan. Mae’r Tîm Casgliadau Gwastraff Swmpus a’r Tîm Gorfodi yn gweithio’n agos gyda’i gilydd ac yn ymwybodol o’r eitemau sy’n cael eu gadael allan i’w casglu. O ran y gost o £40, mae hynny’n cwrdd â’r gost o ddarparu cerbyd a dau unigolyn i gasglu’r eitem. Gellir edrych ar hyn pan fydd y ffioedd a’r taliadau yn cael eu hadolygu.

            Dywedodd yr Aelod Cabinet Datblygu Economaidd y dylai’r cyhoeddusrwydd werthu’r ffaith bod yr eitemau hyn yn mynd i gael eu hailddefnyddio. Gyda’r dynion mewn fan, er eu bod yn codi prisiau is na’r Cyngor, ni cheir gwybodaeth am ble mae’r eitemau’n mynd neu a ydynt yn cael eu hailgylchu.

            Cytunodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) a dywedodd fod yna broblem gyda masnachwyr “dyn mewn fan”. Fe ddylai’r ymgyrch hysbysebu atgoffa trigolion bod yn rhaid iddynt sicrhau bod gan y darparwyr drwyddedau i gludo a gwaredu gwastraff yn gywir. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio fod swyddog newydd wedi’i recriwtio i’r Tîm Gorfodi fel Cydlynydd Gwelliannau Amgylcheddol, a fydd yn siarad efo trigolion, grwpiau cymunedol a chynghorau tref a chymuned i ledaenu’r neges hon.

            Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd at “ddynion mewn fan” ac roedd arno eisiau gweld y ddeddfwriaeth yn cael ei thynhau fel bod yn rhaid iddynt ddangos bod ganddynt drwydded ar eu hysbysebion. O ran y gost o £40 awgrymodd y dylai trigolion siarad gyda’u cymdogion a dod at ei gilydd i gwrdd â’r gost fel bod pobl yn talu £20 yr un er enghraifft. Teimlodd hefyd y dylai gwneuthurwr matresi fod yn gyfrifol am waredu hen fatresi.

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at gyfarfod o’r Pwyllgor Trwyddedu yr oedd hi wedi mynd iddo’n ddiweddar lle’r oedd masnachwr metel sgrap yn gorfod cadarnhau i’r Cyngor ei fod yn talu Treth y Cyngor er mwyn cael trwydded. Holodd a oes modd gwneud hyn gyda “dynion mewn fan”.

            Teimlodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson fod tipio anghyfreithlon yn lleihau yn hytrach na chynyddu, sy’n beth da.

            Dywedodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod y trwyddedau cludo gwastraff yn hawdd iawn eu cael ac yn costio £200. Mae angen newid y ddeddfwriaeth i gynnwys ble maent yn bwriadu gwaredu’r gwastraff ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych i mewn i hyn.

            Mewn ymateb i’r sylw am dipio anghyfreithlon cyfeiriodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) at adroddiad a gyflwynwyd i’r pwyllgor fis Mehefin y llynedd. Dywedodd fod cynnydd wedi bod mewn tipio anghyfreithlon oherwydd casgliadau “dynion mewn fan” – gan nad yw Tîm Gorfodi’r Cyngor wedi gallu mynd allan a bod y canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref wedi bod ar gau. Mae’r sefyllfa wedi gwella ac mae yna lai o ardaloedd problemus r?an, sy’n beth da yn enwedig gyda gallu uwch y Tîm Gorfodi a phenodi Cydlynydd Gwelliannau Amgylcheddol i ymgysylltu â chymunedau.

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr George Hardcastle ac Owen Thomas.

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor Craffu yn croesawu’r adroddiad ac yn cefnogi’r gwaith a wnaethpwyd i gynnal casgliadau gwastraff swmpus yn ystod y pandemig.

Dogfennau ategol: