Agenda item

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Mr Andy Dunbobbin, wedi’i wahodd i’r cyfarfod i drafod rôl, effaith a gweithrediadau’r Comisiynydd a sut mae’r Comisiynydd a’r Heddlu a’r cynllun trosedd yn gweithio gydag ac er budd Sir y Fflint mewn partneriaeth.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Mr Andy Dunbobbin, i’r cyfarfod i drafod rôl, effaith a gweithrediadau’r Comisiynydd a sut mae’r Comisiynydd a’r cynllun heddlu a throsedd yn gweithio gydag ac er budd Sir y Fflint mewn partneriaeth.

 

Diolchodd Mr Dunbobbin i’r Arweinydd a’r Prif Weithredwr am roi cyfle iddo annerch yr Aelodau. Ei rôl yw sicrhau bod pobl gogledd Cymru yn derbyn y gwasanaeth heddlu gorau posibl. Mi fydd yn glust ac yn llais cryf ar ran pobl gogledd Cymru ac roedd yn ffyddiog y bydd gogledd Cymru, drwy gydweithio, yn lle diogel i fyw a gweithio, gyda’r nod yn y pendraw o wella bywydau pawb yn y gymuned. Diolchodd i’r Cynghorydd David Evans, ei ragflaenydd fel Cefnogwr y Lluoedd Arfog.

 

Roedd yn braf ganddo weld y gwaith sydd wedi’i wneud ers iddo gael ei ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd a sut mae cymunedau wedi cefnogi ei gilydd; mae arno eisiau i’r synnwyr hwnnw o gymuned gael ei adlewyrchu yn ei gynllun.

 

Un o’r cwynion mwyaf cyffredin yw diffyg presenoldeb yr heddlu yn y gymuned, ac addawodd i weithio’n galed i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd swyddogion yr heddlu. Roedd yn benderfynol o sicrhau bod Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio’n effeithiol gyda’i bartneriaid i ddarparu gwasanaeth hyd yn oed gwell gyda mwy o bobl yn teimlo’n saffach ac yn hyderus yn yr heddlu. Mae’r cynllun wedi’i lunio yn dilyn ymgynghori gyda phartneriaid a gyda chymorth cannoedd o bobl a lenwodd yr arolwg, ac roedd yn ddiolchgar iawn am hynny. Bydd yn monitro sut mae Heddlu Gogledd Cymru a’i bartneriaid yn cyflawni’r blaenoriaethau yn ofalus iawn, sef:

 

·         Darparu cymdogaethau mwy diogel: atal a mynd i’r afael â throsedd gwledig a bywyd gwyllt; gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd swyddogion a staff yr heddlu; a gwella diogelwch ar y ffyrdd

·         Cefnogi dioddefwyr a chymunedau: atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol; diogelu pobl ddiamddiffyn, yn cynnwys plant; atal a mynd i’r afael â seiberdroseddu; ffurfio panel dioddefwyr; ac atal a mynd i’r afael â throseddau casineb

·         System gyfiawnder deg ac effeithiol: cyflwyno Strategaeth Troseddwyr Benywaidd Gogledd Cymru; cynyddu’r defnydd o gyfiawnder adferol; cefnogi a diogelu plant a phobl ifanc a’u dargyfeirio oddi wrth y System Gyfiawnder Troseddol; a mynd i’r afael â gwraidd troseddu a chefnogi adsefydliad pobl sydd wedi troseddu

 

Mae’r cynllun wedi’i gefnogi gan Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

 

Er mwyn mynd i’r afael â’r materion, o ddelio cyffuriau mewn trefi i droseddau gwledig ar ffermydd, mae’n hollbwysig bod gan bob cymuned berthynas a phrofiadau cadarnhaol gyda’r heddlu lleol. Yn ogystal â chynyddu nifer y swyddogion yn y gymuned, mae hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda’r Prif Gwnstabl i wella’r cymorth digidol sydd ar gael i swyddogion a staff yr heddlu er mwyn iddynt allu treulio mwy o amser yn y gymuned.

 

Mae gwella diogelwch ar y ffyrdd yn bwysig ac roedd yn awyddus i weld gostyngiad yn nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd y gogledd, gyda dull llym i fynd i’r afael â gyrwyr peryglus neu esgeulus. Soniodd hefyd am y rhwydwaith ffyrdd a’i gyfraniad at linellau cyffuriau.

 

Mae atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol yn dal yn flaenoriaeth bwysig ac addawodd y byddai gogledd Cymru yn amgylchedd gelyniaethus i’r rheiny sy’n cyflawni troseddau o’r fath, drwy ddarparu technegau ymchwilio effeithiol, diogelu drwy bartneriaeth a defnyddio technoleg yn arloesol i’w gwneud yn anoddach i bobl droseddu ac aildroseddu.

 

O ran y Strategaeth Troseddwyr Benywaidd, bydd y strategaeth yn cydnabod anghenion merched a’u natur ddiamddiffyn o fewn y System Cyfiawnder Troseddol. Bydd pwyslais ar bwysigrwydd ymyrraeth gynnar, yn cynnwys cysylltu a dargyfeirio, penderfyniadau y tu allan i’r llys a ffocws ar ddatrysiadau cymunedol gyda’r nod o leihau poblogaeth carchardai a gwella amcanion hirdymor merched a’u teuluoedd.

 

Mae nifer yr achosion o seiberdroseddu yn cynyddu’n gyflym ac mae hynny’n peri bygythiad mawr i fusnesau’r DU. Mae Tîm Seiberdroseddu wedi’i sefydlu ac mae’n hollbwysig bod dull yr heddlu ar gyfer seiberdroseddu yn cael ei gydlynu’n dda ac yn darparu gwasanaeth o ansawdd ac effeithiol i bobl.

 

Diolchodd yr Aelodau i’r Comisiynydd am ei gyflwyniad gan wneud sylwadau a gofyn cwestiynau ar y materion canlynol, ac ymatebodd y Comisiynydd iddynt:

 

·         Problemau wrth ddefnyddio’r gwasanaeth 101 – mae hon yn broblem genedlaethol ac argymhellodd y Comisiynydd bod pobl yn defnyddio’r cyfleuster sgwrsio ar y we, sydd wedi bod yn llwyddiannus a’r system Rhybudd Cymunedol

·         Croesawu seiberdroseddu fel blaenoriaeth – dyma’r tro cyntaf i hyn fod yn amcan strategol

·         20,000 yn fwy o swyddogion yr heddlu erbyn 2023 – Ni fydd gogledd Cymru yn manteisio ar y rhaglen tan fis Ionawr 2023

·         Elw o droseddau – mae yna nifer o asiantaethau gwahanol yn ymwneud â’r gwaith yma ac mae un gronfa ariannol yn cael ei rhannu rhyngddynt

·         Pobl yn teimlo’n ddiogel wrth fynd at yr heddlu – mae gwaith yn cael ei wneud ar lefel genedlaethol i sicrhau bod swyddogion yn derbyn hyfforddiant priodol. Mae dynion ifanc a bechgyn yn cael eu haddysgu am ymddygiad ac mae rhaglen SWAN yn cefnogi merched

·         Presenoldeb Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu mewn cyfarfodydd Cynghorau Tref a Chymuned – roedd yn cydnabod pwysigrwydd eu presenoldeb yn y cyfarfodydd ond mae’n bosibl eu bod yn delio gyda materion pwysig, a gall cynghorau tref a chymuned rhoi gwybod am unrhyw bryder ar unrhyw adeg

·         Yn Lloegr mae merched yn gallu cerdded i mewn i orsafoedd tân os ydynt yn teimlo eu bod mewn perygl ac os nad oes gorsaf heddlu gerllaw – gellir edrych i mewn i hyn. Mae yna hefyd y cynllun ‘Ask Angela’ sydd ar waith mewn tafarndai

·         Iechyd meddwl yn bryder mawr – mae cyfarfod wedi’i gynnal gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ddatblygu menter iechyd meddwl newydd

·         Mae cyfraddau troseddu yn uwch yn y gogledd na’r de a chyfartaledd Cymru/Lloegr – byddai angen edrych ar brosesau cofnodi ac adrodd y ffigyrau hynny

·         Diffyg ymateb gan Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu – bydd hyn yn cael ei godi gyda’r Prif Gwnstabl ond gall Aelodau hefyd godi’r mater gyda’r Arolygydd

·         Ailddechrau ‘paned ‘fo plismon’ – bydd y Comisiynydd yn holi ynghylch hyn

·         A oes trawsgrifiad o’r sgwrs we ar gael – bydd y Comisiynydd yn holi ynghylch hyn

 

Codwyd nifer o faterion yngl?n â wardiau a materion gweithredol – dywedodd y Comisiynydd y byddai’n tynnu sylw’r Prif Gwnstabl atynt.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Comisiynydd am ddod i’r cyfarfod, roedd yn gwerthfawrogi hynny’n arw. Awgrymodd y dylai ddod eto ymhen blwyddyn i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar gyflawni’r cynllun a’r ymrwymiadau a drafodwyd. Awgrymodd y Comisiynydd y gallai ddod eto fel rhan o’r rhaglen gyflwyno Aelodau newydd ar ôl yr etholiad.

 

Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i’r Comisiynydd am ddod i’r cyfarfod ac am y ffordd y mae wedi delio ac ymateb i’r cwestiynau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dunbar bod y Cyngor yn diolch i’r Comisiynydd am ddod a’i wahodd i siarad efo’r Cyngor newydd nes ymlaen yn y flwyddyn. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bithell.

 

PENDERFYNWYD:

 

Diolch i’r Comisiynydd am ddod a’i wahodd i siarad efo’r Cyngor newydd nes ymlaen yn y flwyddyn.