Agenda item
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG
Pwrpas: Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.
Cofnodion:
Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:
Addysg ac Ieuenctid
- Llywodraethwyr Ysgol a Benodir gan Awdurdodau Lleol
Penodi cynrychiolwyr Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.
Tai ac Asedau
- Rhent y Cyngor – Cais i Ddileu Ôl-ddyledion Tenantiaeth
Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a rhai na ellir eu hadfer sydd werth dros £5,000 yn cael eu hystyried i gael eu dileu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol. Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â dau achos ar wahân o ddileu ôl-ddyledion tenantiaid sy’n destun Gorchmynion Rhyddhau o Ddyled. Yn yr achos cyntaf, mae ôl-ddyledion rhent o £6,356.86 yn gynwysedig yn y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Yn yr ail achos, mae ôl-ddyledion rhent o £9,361.53 yn gynwysedig yn y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Nid yw’r ôl-ddyledion bellach yn adferadwy yn y naill achos na’r llall.
- Gordaliadau budd-dal tai
Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion unigol drwg a rhai na ellir eu hadfer sydd werth dros £5,000 yn cael eu hystyried i gael eu dileu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol. Mae’r penderfyniad hwn yn ymwneud â dileu ôl-ddyledion un cwsmer sy’n destun Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Mae’r Gordaliad Budd-dal Tai o £6,397.83 wedi’i gynnwys yn y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled na fyddai modd eu hadennill bellach o ganlyniad i roi'r Gorchymyn.
- Gordaliadau budd-dal tai
Mae gennym ordaliad o £14,713.92 am y cyfnod rhwng 06.04.15 a 29.09.19. Mae’r gordaliad wedi’i gyfeirio at y gwasanaeth twyll ond maen nhw wedi’i anfon i’r gwasanaeth cydymffurfiaeth felly ni ellir ei drin fel twyll. Mae’r Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled bellach wedi’i dderbyn ac mae’n cynnwys ein dyled felly ni allwn adfer y gordaliad.
Swyddog Gweithredol
- Diwygio Cynllun Grant Cist Gymunedol y Cyngor i Leihau’r Cyfyngiadau Amser a osodir ar Awdurdodau Lleol sydd am ail-ymgeisio am gyllid
Mae Grant Cist Gymunedol y Cyngor yn darparu grantiau hyd at £1,000 i sefydliadau cymunedol lleol sy’n bodloni meini prawf y grant. Ni all sefydliadau llwyddiannus ail-ymgeisio am grant newydd o fewn cyfnod o dair blynedd ariannol ar ôl derbyn grant o £1,000 gan y gronfa hon. Mae hyn wedi golygu bod rhai ceisiadau, a fyddai fel arall wedi bod yn llwyddiannus, yn cael eu gwrthod ar y sail hon er bod arian dros ben ar gael sydd heb ei ddyfarnu bob blwyddyn ariannol. Trwy leihau’r cyfyngiad amser i ddwy flynedd (dreigl) lle gall sefydliadau ail-ymgeisio am gyllid, bydd modd sicrhau bod cymorth ariannol amserol ar gael i sefydliadau a bod y gronfa yn cael ei dyrannu’n llawn bob blwyddyn ariannol.
Refeniw
- Dileu Ardrethi Busnes
Mae’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau wedi eu hawdurdodi i ddileu dyledion rhwng £5,000 a £25,000. Mae’r ddyled Ardrethi Busnes sy’n gyfanswm o £17.428 ar gyfer Nite Stop Ltd, sy’n masnachu fel A55 Holiday Inn, yn anadferadwy ac mae wedi’i dileu gan fod y cwmni wedi cael ei ddiddymu a’i ddirwyn i ben ar 20 Gorffennaf 2021.
- Dileu Treth y Cyngor
Mae’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau wedi eu hawdurdodi i ddileu dyledion rhwng £5,000 a £25,000. Mae tair dyled Treth y Cyngor sy’n gyfanswm o £16,910.49 yn anadferadwy, a byddant yn cael eu dileu.
- Mae gan Achos 1 falans dyledus o £6,186.52 ac mae’r unigolyn atebol wedi mynd i ansolfedd - Trefniant Gwirfoddol Unigol
- Mae Achos 2 am £5,119.49 ac mae’r unigolyn atebol wedi’i ddatgan yn fethdalwr ar 6 Awst 2021.
- Mae gan Achos 3 falans dyledus o £5,604.48. Mae’r unigolyn atebol wedi marw ac nid oes arian yn ei ystâd i dalu’r dyledion hyn.
Dogfennau ategol: