Agenda item

Deddf Trwyddedu 2003 - Cais Am Amrywiad i Drwydded Eiddo

Pwrpas:        I aelodau ystyried a phenderfynu yngl?n â chais am amrywiad i drwydded eiddo, a wneir o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, mewn perthynas â George & Dragon, Stryd yr Eglwys, Y Fflint, Sir y Fflint CH6 5AD.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais dan y Ddeddf Trwyddedu 2003 a gyflwynwyd gan Marstons Plc ar gyfer amrywio trwydded eiddo yn The George & Dragon, Stryd yr Eglwys y Fflint.   Roedd y cais ar gyfer ychwanegu ardal allanol, yn cynnwys bar allanol ar gyfer gwerthu alcohol, at y cynllun trwyddedu yng nghefn yr eiddo.  Roedd yr Ymgeisydd hefyd wedi gofyn i gael tynnu amod oddi ar y drwydded eiddo sydd eisoes yn bod.  Nododd yr amod hwn, “Ni chaniateir cerddoriaeth wedi’i chwyddo yn y man ysmygu”.  Gwnaethpwyd y cais ar 6 Hydref 2021.

 

Fel y mae wedi’i atodi i’r adroddiad, cafwyd sylwadau gan Adran Rheoli Llygredd y Cyngor a hefyd gan saith preswylydd.

 

Ymatebodd Heddlu Gogledd Cymru i’r cais i amrywio ar 21 Hydref 2021 a chytunodd yr ymgeisydd ar nifer o amodau gyda hwy, yn cynnwys cadw llyfr Digwyddiadau a Gwrthodiadau;  sicrhau proses lanhau lem ac ystyried diogelwch gwydrau; sicrhau bod yr ardd gwrw yn cael ei goruchwylio bob amser; a sicrhau nad yw unrhyw synau sy’n cael eu creu yn rhy uchel.

 

Wedi hynny, gwnaeth yr ymgeisydd nifer o newidiadau i’r cais i gynnwys yr amodau fel y cytunwyd gyda’r Heddlu ac i gynnwys y newidiadau canlynol:

 

(1)     Bod darpariaeth gwerthu alcohol drwy adwerthu allanol yn dod i ben am 22:00

 

(2)     Bod darpariaeth adloniant rheoledig ar ffurf cerddoriaeth fyw ac wedi’i recordio allanol yn dod i ben am 21:00

 

(3)     Bod dim mwy na phedwar diwrnod i’r teulu / gwyliau yn cael eu cynnal yn allanol bob blwyddyn. 

 

(4)     Bod y bar yn cael ei staffio bob amser pan fydd y bar allanol yn cael ei ddefnyddio ac nad yw unrhyw stoc yn cael ei adael pan fydd y bar yn cau.

 

Yn ystod y gwrandawiad, gwnaethpwyd sylwadau ar ran yr Ymgeisydd gan Michelle Hazelwood o John Gaunt & Partners. Cyflwynodd yr Ymgeisydd gyflwyniadau cyfreithiol a bwndel o ddogfennau yn cynnwys chwe rhan a ystyriwyd yn llawn gan y Pwyllgor.

 

Bu i’r Pwyllgor hefyd glywed gan Martyn Kirby (Swyddog Rheoli Llygredd) a Mr Ken Archer a siaradodd ar ran y preswylwyr.

 

Cafodd y Pwyllgor gyngor cyfreithiol gan Mr Ben Dylan Williams (Cyfreithiwr).

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod yr holl gwestiynau perthnasol wedi’u codi, cafodd pawb a oedd yn bresennol - gan eithrio’r Cadeirydd, Aelodau’r Pwyllgor, Bargyfreithiwr a Swyddog Gwasanaethau Democrataidd - eu tynnu o’r cyfarfod i alluogi’r Pwyllgor i ddod i benderfyniad.

 

Gofynnodd y Pwyllgor y cwestiwn, i’w hunain, a roddwyd yn fuddiol gan yr Ymgeisydd trwy ei gynrychiolydd, yn benodol; a oedd risg o niwsans o’r cais hwn, wedi’i seilio ar yr holl dystiolaeth a gafwyd?   Roedd y Pwyllgor o’r farn bod risg clir o niwsans o’r fath wedi’i seilio ar ddefnyddio’r ardal allanol.

 

Roedd y Pwyllgor o’r farn bod y dystiolaeth gan y preswylwyr yn gymhellol fel yr oedd un Mr Kirby, y gwnaethant nodi nad oedd wedi dod i gasgliad o ran yr ymchwiliadau parhaus eto ond wedi rhoi ei farn broffesiynol y byddai s?n o’r fath yn hollol glywadwy i breswylwyr o ystyried eu hagosatrwydd i’r ardal allanol.  Derbyniodd y Pwyllgor ei farn broffesiynol a dod i’r casgliad bod risg go iawn o niwsans o ddefnyddio’r ardaloedd allanol.

 

Ar ôl cadarnhau bod risg clir o niwsans s?n o gymeradwyo’r cais, aeth y Pwyllgor ymlaen i ystyried os allant hyrwyddo’r amcanion trwyddedu drwy addasu’r amodau ag argymhellwyd ymhellach, a/neu drwy osod amodau pellach.   Ar ôl ystyried yn ofalus, teimlodd y Pwyllgor na fyddai camau o’r fath yn lleihau’r risg o niwsans yn ddigonol ac felly ni fyddai cymeradwyo’r cais gydag amodau yn hyrwyddo’r amcanion trwyddedu, yn arbennig o ran atal niwsans i’r cyhoedd (a.4 o’r Ddeddf Trwyddedu 2003).

 

Roedd yr aelodau’n fodlon bod angen iddynt wrthod y cais yn unol â’r gyfraith.

 

Wrth ddod i benderfyniad, ystyriodd y Pwyllgor bolisi trwyddedu’r Cyngor a’r Canllawiau Adran 182.  Yn benodol, nododd y Pwyllgor ran 8.62-8.65 sy’n delio ag amrywiadau i gynllun / strwythur eiddo; 9.1, 9.3, 9.31-9.44; a 10.10.

 

Roedd y Pwyllgor hefyd yn ystyried hawliau dynol y partïon ac yn rhoi ystyriaeth i gymesuredd eu hymateb.

 

O ystyried yr holl faterion, penderfynodd y Pwyllgor i wrthod y cais.

 

Gwahoddwyd y Swyddog Trwyddedu, cynrychiolwyr yr Ymgeisydd a’r partïon â chysylltiad yn ôl er mwyn ailgynnull y cyfarfod.

 

Darllenodd y Bargyfreithiwr y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor.

 

Nodwyd bod gan yr Ymgeisydd a’r partïon â chysylltiad hawl i apelio ac y byddai’n rhaid i unrhyw apêl gael ei gyflwyno yn Llys yr Ynadon o fewn 21 diwrnod o ddyddiad hysbysu’r penderfyniad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol am fynychu a dweud y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ysgrifenedig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cais gan Marston’s PLC (‘yr Ymgeisydd’) i amrywio trwydded eiddo ar gyfer tafarn The George and Dragon (‘yr Eiddo’) i ychwanegu ardal allanol, yn cynnwys bar allanol yng nghefn yr eiddo, at y cynllun trwyddedu, dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, yn cael ei WRTHOD.

Dogfennau ategol: