Agenda item
Rhaglen Gyfalaf 2022/23 – 2024/25
Pwrpas: Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2022/23 – 2024/25 i'w chymeradwyo.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Gyfrifydd yr adroddiad a oedd yn cyhoeddi’r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer cyfnod 2022/23–2024/25 i’w chymeradwyo, gan roi cyflwyniad PowerPoint.
Roedd Rhaglen Gyfalaf y Cyngor yn cynnwys buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer y tymor hir er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth am arian. Roedd yr asedau’n cynnwys adeiladau (fel ysgolion, cartrefi gofal a chanolfannau dydd), isadeiledd (fel priffyrdd, rhwydweithiau TG a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff), ac asedau nad ydynt yn perthyn i'r Cyngor (fel gwaith i wella ac addasu cartrefi'r sector preifat). Roedd y buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig oedd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad yn cyd-fynd yn agos â chynlluniau gwasanaethau a Chynllun y Cyngor.
Roedd gan y Cyngor adnoddau cyfalaf cyfyngedig gan Lywodraeth Cymru (LlC) i gefnogi blaenoriaethau, anghenion ac atebolrwydd y Cyngor. Fodd bynnag, roedd ganddo bwerau i ariannu cynlluniau cyfalaf drwy fenthyg – roedd hyn yn gynllun dros dro, ac roedd cost ac ad-daliad unrhyw fenthyciad yn cael ei godi ar gyllideb refeniw’r Cyngor. Ystyriwyd cynlluniau a oedd yn cael eu hariannu drwy fenthyca yn ofalus oherwydd yr effeithiau hirdymor ar gyllideb refeniw’r Cyngor.
Rhannwyd adroddiad Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor yn dair adran:
1. Statudol / Rheoleiddiol – dyraniadau i fodloni gwaith rheoleiddiol a statudol.
2. Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith isadeiledd sy’n angenrheidiol i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes.
3. Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith sy’n angenrheidiol i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes.
Darparwyd manylion pob tabl o fewn yr adroddiad, a oedd yn rhan o’r cyflwyniad, ac yn cael eu cefnogi gan esboniadau yn yr adroddiad ar bob tabl.
Darparwyd gwybodaeth hefyd am gynlluniau posib’ yn y dyfodol, a oedd hefyd wedi’u manylu yn yr adroddiad.
Roedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ian Roberts a’u heilio gan y Cynghorydd Paul Johnson.
Croesawai’r Cynghorydd Roberts yr adroddiad a dywedodd ei bod yn bleser argymell y rhaglen gyfalaf arfaethedig i’w chymeradwyo, gan ddweud ei bod yn rhaglen gyfalaf gyfunol ar gyfer y Cyngor cyfan. Roedd y rhaglen yn uchelgeisiol ac roedd yn dangos, fel Cyngor, fod ymrwymiad i ofalu am bobl diamddiffyn. Croesawai’r cynlluniau a amlinellwyd ar gyfer ysgolion, ynghyd â’r ysgol newydd yn lle Ysgol Croes Atti, sef yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyntaf i gael ei hadeiladu yn Sir y Fflint fel strwythur carbon niwtral. Gwnaeth sylw am yr ymrwymiad i Theatr Clwyd a’r prosiect archif newydd, a chroesawai’r gwariant ar Orsaf Trosglwyddo Gwastraff Standard Yard, a fyddai’n sicrhau y gallai’r Cyngor gyrraedd y targed ailgylchu o 70% a osodwyd gan LlC. Gofynnodd am gefnogaeth gan Aelodau ar draws y siambr ar gyfer yr ystod helaeth o ymrwymiadau oedd wedi’u cynllunio ar gyfer y sir gyfan.
Roedd y Cynghorydd Peers hefyd yn croesawu’r adroddiad, a oedd yn dangos ymrwymiad i’r sir gyfan. Yngl?n â gwaith ar adeiladau ysgolion, gofynnodd sut y byddai’r Cyngor yn mynd i’r afael â’r llwyth o waith uwchraddio toiledau a oedd i’w wneud, ac a oedd Estyn yn fodlon â’r sefyllfa. Eglurodd y Prif Weithredwr, ynghyd â’r rhaglen o waith uwchraddio toiledau, fod gwaith moderneiddio hefyd yn cael ei wneud dan raglenni adnewyddu, yn ogystal ag ysgolion yn cyfrannu at waith uwchraddio o’u cyllidebau eu hunain. Roedd y llwyth o waith a oedd i’w wneud yn aml yn cael ei amlygu fel mater Iechyd a Diogelwch yn arolygon Estyn.
Ynghlwm â’r cyfleuster archif ar y cyd, gofynnodd y Cynghorydd Peers a allai’r adeilad archif presennol ym Mhenarlâg gael ei werthu fel derbyniad cyfalaf. Eglurodd y Prif Weithredwr fod nifer o astudiaethau ar fynd i ymchwilio a allai’r adeilad presennol gael ei ddefnyddio ar ddiben arall yn y dyfodol. Ychwanegodd, pe bai unrhyw adeiladau’n cael eu gwerthu, y byddai’r derbyniad cyfalaf yn mynd i’r pot corfforaethol ar gyfer y rhaglen gyfalaf ehangach.
Gofynnodd y Cynghorydd Peers, mewn perthynas â’r Adolygiad o Ystadau Diwydiannol, a oedd ardrethi busnes yn parhau i gael eu talu ar adeilad a oedd wedi bod ar gael yn flaenorol i’w rentu, ond a oedd wedi mynd yn anaddas i’w ddefnyddio ers hynny. Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai adeiladau anaddas yn cael eu defnyddio at ddibenion eraill, lle bo modd, ond roedd angen deall y farchnad ac yna defnyddio’r strategaeth fwyaf priodol. Lle bo hynny’n briodol, byddai adeiladau anaddas yn cael eu dymchwel pe na bai modd eu defnyddio at ddiben arall.
Diolchodd y Cynghorydd Richard Jones i’r Prif Weithredwr a chydweithwyr cyllid am y symudiad o £1.2 miliwn o asedau a gedwir i’r adran statudol / reoliadol – roedd cais am hyn wedi’i wneud yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Sharps ar gampws Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug, eglurodd y Prif Weithredwr fod y broses gynllunio feistr wedi cychwyn ond heb ei gorffen eto. Pan oedd y gwaith hwnnw wedi’i gwblhau, byddai gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda’r holl Aelodau.
Wrth grynhoi, cadarnhaodd y Cynghorydd Roberts y byddai trafodaeth lawn gyda’r holl Aelodau am gampws Neuadd y Sir. Diolchodd i LlC am faint o adnoddau ariannol roeddent wedi’u rhoi’n uniongyrchol yng nghyllidebau ysgolion, yn benodol ar gyfer gwelliannau i ysgolion, ac roedd yn ddiolchgar am hynny. Mewn perthynas â’r cyfleuster archif presennol ym Mhenarlâg, eglurodd fod trafodaethau wedi’u cynnal gyda’r Aelod lleol a’r cynlluniau oedd ailddatblygu a gwella’r adeilad presennol.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 ar gyfer yr adrannau Statudol/Rheoliadol ac Asedau a Gedwir yn Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2022/23–2024/25;
(b) Cymeradwyo’r cynlluniau yn Nhabl 4 ar gyfer adran Fuddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2022/23–2024/2;
(c) Nodi bod y diffyg mewn cyllid i ariannu cynlluniau yn 2022/23, 2023/24 a 2024/25 yn Nhabl 5 ar y pwynt hwn yn y broses gymeradwyo’n caniatáu hyblygrwydd. Bydd opsiynau’n cynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill (os ydynt ar gael), benthyca darbodus neu ailbennu camau cynlluniau’n cael eu hystyried yn ystod 2022/23, ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau ar y Rhaglen Gyfalaf yn y dyfodol; a
(d) Chymeradwyo’r cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn Nhabl 6 ar gyfer yr adran sy’n cael ei hariannu’n benodol yn Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor, a fydd yn cael ei hariannu’n rhannol trwy fenthyca.
Dogfennau ategol: