Agenda item
Rhybudd o Gynnig
Pwpras: Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau.
Cofnodion:
Siaradodd y Cynghorydd Paul Johnson o blaid Rhybudd o Gynnig Gr?p Llafur, sef:
“Bod y Cyngor hwn yn cefnogi’r galwadau i Lywodraeth y DU ailgyflwyno’r ychwanegiad o £20 yr wythnos i Gredyd Cynhwysol ac yn ehangu’r cymorth hwn i fudd-daliadau blaenorol. Mae’r Cyngor hwn hefyd yn mynegi ei ofid na wnaeth llywodraeth y DU roi’r ychwanegiad hwn i fudd-daliadau blaenorol yn ystod y pandemig. Mae’r Cyngor yn cydnabod ac yn croesawu’r newidiadau a wnaed i Gredyd Cynhwysol yn y gyllideb, yn enwedig i’r gyfradd dapro, ond yn mynegi ei bryderon na fydd hyn yn cael effaith ar bobl nad ydynt yn gallu gweithio neu hawlwyr budd-daliadau blaenorol.
Mae’r Cyngor yn galw ar yr Arweinydd i ysgrifennu at ein dau Aelod Seneddol lleol i wahodd eu cefnogaeth nhw i’r cynnig hwn”.
Darparodd fanylion am yr effaith dros gyfnod o 12 mis, a oedd hefyd ar adeg pan oedd y wlad yn gweld cynnydd mewn biliau ynni a chwyddiant. Ychwanegodd fod cyfran uchel o’r rhai oedd yn hawlio Credyd Cynhwysol yn Sir y Fflint yn bobl a oedd mewn gwaith. Roedd cyfradd dapro wedi’i chyflwyno, ond dywedodd na fyddai hon yn helpu’r rhai nad oeddent mewn cyflogaeth o unrhyw fath.
Eiliodd y Cynghorydd Dave Hughes y Rhybudd o Gynnig.
Cefnogodd y Cynghorydd Ibbotson y Rhybudd o Gynnig a darparodd fanylion am ei sefyllfa bersonol ei hun mewn perthynas â Chredyd Cynhwysol.
Fe wnaeth y Cynghorydd Aaron Shotton gefnogi’r Rhybudd o Gynnig hefyd, ond teimlai y byddai wedi bod yn fwy amserol cyn y drafodaeth seneddol ar Gredyd Cynhwysol yn yr haf. Ychwanegodd fod AS Alyn a Glannau Dyfrdwy yn cefnogi hanfod y cynnig ac roedd wedi mynegi ei bryderon i Lywodraeth y DU pan wnaethant gyhoeddi bwriad i dynnu’r ychwanegiad o £20.
Fe wnaeth y Cynghorwyr Bithell a Butler hefyd siarad o blaid y Rhybudd o Gynnig. Fe wnaeth y 10 Aelod angenrheidiol wneud cais yn y blwch sgwrsio am bleidlais wedi’i chofnodi.
Fe wnaeth y Prif Swyddog (Llywodraethu) ddarllen yr enwau yn eu trefn ac mae canlyniad y bleidlais wedi’i chofnod i’w weld isod:
O blaid y Rhybudd o Gynnig:
Y Cynghorwyr: Axworthy; Banks; Haydn Bateman; Marion Bateman; Bibby; Bithell; Butler; Carver; Collett; Cox; Cunningham; Rob Davies; Ron Davies; Davies-Cooke, Chris Dolphin; Rosetta Dolphin; Dunbobbin; Eastwood; Evans; Gay; Hardcastle; David Healey; Gladys Healey; Heesom; Andy Hughes; Dave Hughes; Ibbotson; Joe Johnson; Paul Johnson; Christine Jones; Richard Jones; Tudor Jones; Richard Lloyd; Lowe; Mackie; McGuill; Mullin; Palmer; Peers; Vicky Perfect; Phillips; Ian Roberts; Tim Roberts; Rush; Sharps; Aaron Shotton; Paul Shotton; Small; Smith; Owen Thomas, White; Williams; Wisinger ac Woolley.
Yn erbyn y Rhybudd o Gynnig:
Dim.
Yn ymatal:
Dim.
Cafodd y Rhybudd o Gynnig ei gefnogi’n unfrydol.
Cyflwynodd y Cynghorydd Woolley y Rhybudd o Gynnig canlynol:
“Bod y Cyngor Sir hwn yn nodi ac yn llwyr gefnogi amcanion y Bil Trydan Lleol, a gyflwynwyd i Senedd y DU ar 10 Mehefin eleni gyda chefnogaeth 150 o ASau trawsbleidiol a sefydliadau fel NALC, The Eden Project, Forum for the Future a Chyfeillion y Ddaear, yn ogystal â 43 o Awdurdodau Sirol a Lleol. Mae’r Cyngor yn dymuno annog datblygu i’w wneud yn Ddeddf gan y gallai hynny alluogi:
1) cynhyrchwyr i werthu ynni’n lleol heb fynd drwy’r farchnad gyfanwerthu ac felly gael mwy o reolaeth dros y pris; neu
2) gyfleoedd lleol fel Cynllun Twnnel Milwr i fod yn ymarferol a chael eu datblygu.
Mae’r Cyngor yn diolch i’r 262 AS ar hyn o bryd o bob plaid sydd wedi cofrestru i gefnogi’r Bil ac mae’n annog yr holl ASau hynny o fewn y sir sydd heb wneud hynny eto i gofrestru i gefnogi’r Bil”.
Siaradodd y Cynghorydd Woolley o blaid ei Rybudd o Gynnig gan ddarparu manylion yr ymchwiliad seneddol yn gynharach yn y flwyddyn i gyflenwad trydan a chynhyrchu ynni lleol. Roedd yn ceisio cefnogaeth i Gyngor Sir y Fflint gael ei ychwanegu i’r 100 a mwy o Gynghorau a oedd yn cefnogi’r Bil ar ei daith drwy’r Senedd.
Wrth eilio’r Rhybudd o Gynnig, dywedodd y Cynghorydd Peers nad oedd yr opsiwn i brynu trydan yn lleol ar gael gan ei bod yn rhaid gwerthu ynni yn y lle cyntaf i gwmnïau cyfleustodau i gwsmeriaid ei brynu gan y cwmnïau hynny wedyn.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Carver, eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod rheolau a rheoliadau yngl?n â symudiad trydan. Gallai ddarparu rhagor o wybodaeth pe dymunai’r Aelodau.
Cynigiodd y Cynghorydd Ibbotson y newid canlynol i’r Rhybudd o Gynnig, a eiliwyd gan y Cynghorydd Bibby:
Llinell un: newid “llwyr gefnogi” am “cefnogi’n ofalus”.
Dileu’r paragraff olaf ac yn ei le, rhoi “Mae’r Cyngor yn mynegi ei bryder ynghlwm ag Adran 2, paragraff 3 is-adran C o’r bil trydan lleol sy’n ymestyn y cynllun i brosiectau sy’n allyrru, ar 350g o CO2/KWh, bron i ddwywaith allyriadau carbon y cyfartaledd yn y DU, sef 181g/KWh yn 2020. Mae’r Cyngor yn pryderu hefyd am Adran 3, paragraff 4, a fyddai’n golygu nad oes gan y Cyngor unrhyw awdurdod i atal prosiectau gwael rhag cael eu datblygu. Mae’r Cyngor yn bryderus y gallai’r Bil hwn, fel mae wedi’i ddrafftio, arwain at allyriadau carbon uwch a mwy o lygredd yn ein cymunedau, ac mae’n ymbil ar ASau sy’n cefnogi’r Bil hwn yn y Senedd i newid y Bil yn unol â hynny.”
Derbyniodd y Cynghorwyr Woolley a Peers y newid ac wrth fynd i bleidlais, pasiwyd y Rhybudd o Gynnig, fel y’i diwygiwyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi’r Rhybudd o Gynnig gan y Gr?p Llafur; a
(b) Chefnogi’r Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Woolley, yn cynnwys y newid gan y Cynghorydd Ibbotson.
Dogfennau ategol: